Tref Wrecsam, ynghyd â hen bentrefi diwydiannol maes glo’r gogledd-ddwyrain, fel Rhosllannerchrug, Rhiwabon, Coedpoeth a Gresffordd, yw canolbwynt amlwg y sir hon yng ngogledd-ddwyrain Cymru. Er ei bod yn bennaf drefol ei natur, mae’n ymestyn hefyd i ardaloedd gwledig gwaelodion Dyffryn Ceiriog tua’r de a Maelor Saesneg i’r dwyrain.
Roedd ei phoblogaeth o 135,100 yn ôl Cyfrifiad 2021 yr ail uchaf yng ngogledd Cymru, gyda bron i 16,000 yn gallu siarad Cymraeg, a oedd yn ffurfio canran o 12.2 y cant o’r boblogaeth dros 3 oed. Roedd dros 7,000 arall, a 5.4 o’r boblogaeth, yn deall Cymraeg.
Mae’r sir yn bod yn ei ffurf bresennol ers 1996, ond yn hanesyddol, rhan o’r hen Sir Ddinbych ydoedd (na ddylid ei drysu â’r Sir Ddinbych bresennol), ac eithrio ardal Maelor Saesneg, a oedd yn rhan datgysylltiedig o hen Sir y Fflint.
Er bod rhai rhannau dwyreiniol o’r sir wedi bod yn Saesneg eu hiaith ers amser maith, bu rhannau eraill ohoni, fel Rhosllannerchrug yn fwrlwm o fywyd Cymraeg am y rhan fwyaf o’r ugeinfed ganrif, a Dyffryn Ceiriog gerllaw’r ffin â Lloegr, gyda mwyafrif ei drigolion yn gallu siarad Cymraeg tan y degawdau diwethaf.
Er na ellir gwneud cymariaethau sy’n fanwl gywir, gellir amcangyfrif bod ardal sy’n cyfateb i’r sir bresennol â phoblogaeth o tua 73,000 ar droad yr ugeinfed ganrif, gyda thua 43 y cant yn gallu siarad Cymraeg.
Yn ôl Cyfrifiad 1901, dim ond 17.2 y cant o drigolion tref Wrecsam a allai siarad Cymraeg. Yn ardal Dosbarth Gwledig Wrecsam, ar y llaw arall, lle’r oedd dau draean o holl drigolion ardal y sir bresennol yn byw, roedd 53.9 y cant yn gallu siarad Cymraeg, a mwy na 10 y cant o’r boblogaeth yn Gymry uniaith.
Yn Nosbarth Gwledig Maelor, ar y llaw arall, sef Maelor Saesneg, y rhan ddatgysylltiedig o Sir y Fflint, dim ond 2.8 y cant a oedd yn gallu siarad Cymraeg.
Wrth edrych ar y gallu i siarad Cymraeg ymysg gwahanol oedrannau, gellir tybio bod tref Wrecsam wedi bod yn bennaf Saesneg ei hiaith dros o leiaf yr hanner canrif flaenorol, gan mai dim ond 22.4 y cant o’i thrigolion dros 65 a oedd yn gallu siarad Cymraeg. Yn Nosbarth Gwledig Wrecsam, cymharol fychan oedd yr amrywiaeth rhwng yr oedrannau, gyda bron i hanner y plant o 3-14 oed yn gallu siarad Cymraeg o gymharu â chanrannau rhwng 50 a 60 y cant ymhlith yr oedolion. Mae sefydlogrwydd o’r fath yn awgrymu’n gryf bod amrywiadau daearyddol sylweddol o fewn yr ardal, gyda chadarnleoedd Cymraeg yr y naill law ac ardaloedd Seisnig ar y llaw arall. Mae tystiolaeth cyfrifiadau diweddarach yn tueddu i gadarnhau hyn.
Er y gellir amcangyfrif bod poblogaeth ardal y sir bresennol wedi codi i tua 82,500 erbyn 1911, ni welwyd y math o ffrwydrad poblogaeth a ddigwyddodd mewn rhannau helaeth o Forgannwg yn ystod yr un cyfnod. Hanerodd nifer y Cymry uniaith yn ystod y ddegawd, ond bu cynnydd o tua 5,000 yn nifer y Cymry dwyieithog. O ganlyniad, roedd eu cyfanswm wedi cynyddu ychydig, ond eu canran o’r boblogaeth wedi gostwng i tua 40 y cant. Roedd yn dal i fod mymryn dros hanner trigolion Dosbarth Gwledig Wrecsam yn gallu siarad yr iaith.
Dros yr hanner canrif a ddilynodd, bu gostyngiad o tua thraean yn nifer siaradwyr Cymraeg ardal y sir bresennol, ac erbyn Cyfrifiad 1961, a’r boblgaeth bellach ychydig dros 100,000, roedd eu canran i lawr i 22.7 y cant. Yn Nosbarth Gwledig Wrecsam, lle’r oedd dros hanner y trigolion yn byw bellach, roedd mymryn o dan 30 y cant yn gallu siarad Cymraeg. Eto i gyd, roedd Rhosllannerchrugog, a gafodd ei ddisgrifio’n aml fel ‘pentref mwyaf Cymru’ yn sefyll allan, gyda 72.7 y cant o’i 9,000 o drigolion yn gallu siarad Cymraeg yn 1961. Yr unig blwyf arall yn yr ardal â mwyafrif ei drigolion yn gallu siarad Cymraeg oedd Penycae gerllaw, gyda chanran o ychydig dros hanner.
Ar y llaw arall, roedd mwyafrifoedd sylweddol yn dal i allu siarad Cymraeg yn rhai o blwyfi Dyffryn Ceiriog ar y ffin â Lloegr.
Er hyn, roedd patrwm oedran siaradwyr Cymraeg Dosbarth Gwledig Wrecsam yn dangos dirywiad amlwg. Dim ond 13.3 y cant o blant o dan 10 a oedd yn gallu siarad Cymraeg, o gymharu â 38 y cant o bobl 45-64 oed a 46 y cant o bobl dros 65.
Roedd arwyddion clir bod dirywiad pellach ar y gorwel, a chollwyd tua 4,500 pellach o siaradwyr Cymraeg y sir erbyn 1971, gan ddod â’r ganran i lawr i 17.5 y cant. Roedd bron y cyfan o’r colledion o ardal Dosbarth Gwledig Wrecsam, lle’r oedd y ganran wedi gostwng bellach i 22.1 y cant. Collwyd bron i 1,800 o siaradwyr Cymraeg yn Rhosllannerchrugog hyd yn oed, gyda’r ganran yn gostwng yn sylweddol i 62 y cant bellach.
Erbyn Cyfrifiad 1981, collwyd dros 3,000 yn rhagor o siaradwyr Cymraeg ardal y sir bresennol, gyda’u canran bellach yn gostwng i 14.3 y cant o’r boblogaeth. Cododd eu niferodd ychydig yn 1991, ond yn sgil cynnydd yn y boblogaeth, gostyngodd eu canran i 13.7 y cant. Llai na hanner trigolion y Rhos a oedd yn gallu’r iaith bellach.
Cafwyd gostyngiad o ychydig dros 700 yn nifer siaradwyr Cymraeg Sir Wrecsam rhwng 2011 a 2021, gyda’r ganran i lawr i 12.2 y cant o gymharu â 12.9 y cant.
Lleihad o dros 500 yn nifer y plant a allai siarad Cymraeg sy’n cyfrif am y rhan fwyaf o’r gostyngiad, gyda’r ganran i lawr i 25.3 y cant y gymharu â 28.4 y cant yn 2011. Mae gweddill y gostyngiadau eraill i’w gweld ymysg y bobl dros 50 oed, gan barhau partrwm tebyg iawn i’r hyn a welwyd yng Nghyfrifiad 2011
Fel mewn llawer o siroedd eraill, gwelwyd cynnydd bach yn y ganran ymysg pobl ifanc 16-24, ac yn y canrannau a’r niferoedd ymysg pobl 25-34 oed.
Mae dwy ardal benodol sydd â chanrannau uwch o siaradwyr Cymraeg – sef pentref ôl-ddiwydiannol Rhosllannerchrug ar gyrion Wrecsam a Dyffryn Ceiriog.
Roedd bron i chwarter poblogaeth un o wardiau’r Rhos, sef Ponciau, yn gallu siarad Cymraeg, er bod y ganran am y gymuned gyfan fymryn o dan 20 y cant. Mae’n gymuned lle mae’r Gymraeg wedi colli tir yn gyflym dros y degawdau diwethaf, gan fod 31.5 y cant yn gallu siarad Cymraeg yma yn 2001, a mwyafrif yn gallu’r iaith 20 mlynedd ynghynt.
Mae 30 y cant o drigolion ward Ceiriog yn gallu siarad Cymraeg, gyda chymuned fach Llanarmon Dyffryn Ceiriog â mymryn dros hanner yn gallu’r iaith, gan ddangos cynnydd bach o gymharu â’r ddwy ddegawd diwethaf.