Iaith yn ôl oedrannau


Hafan > Dadansoddiadau Pellach > Iaith yn ôl oedrannau

Show Toolbar
  • Show Caption
  • Hide Thumbmails
  • Show Categories
  • Play Slide Show
  • Display in Full Screen
  • Hide Toolbar

Mae'r graff uchod yn dangos dosbarthiad oedran siaradwyr Cymraeg yn 2021 a 2011
 
 
  • Mae'r graff uchod yn dangos dosbarthiad oedran siaradwyr Cymraeg yn 2021 a 2011
  • Mae'r tabl yn rhoi'r un wybodaeth â'r graff, ynghyd â'r canrannau'n ogystal

Yn ogystal â’r niferoedd a’r canrannau, mae dosbarthiad oedran siaradwyr Cymraeg yn wybodaeth allweddol wrth ddeall tueddiadau a all fod ar waith mewn unrhyw ardal.

Os yw’r canrannau sy’n gallu siarad Cymraeg yn uwch ymhlith grwpiau oedran hŷn nag oedrannau iau, neu os oes cyfrannau uchel o’r siaradwyr Cymraeg dros 65 oed, mae rhagolygon cryf am ddirywiad pellach. Roedd hyn yn arbennig o wir am gymoedd Morgannwg yn y gorffennol, ac mae i’w weld o hyd mewn ambell ardal ôl-ddiwydiannol fel cwm Tawe heddiw.

Ar y llaw arall, ar yr eithaf arall gallwn gael sefyllfa fel Casnewydd neu Sir Fynwy yn 2001 lle’r oedd tua 70 y cant o holl siaradwyr Cymraeg y siroedd hynny yn blant rhwng 3 a 15 oed. Go brin fod sefyllfa felly’n gynaliadwy, ac nid yw’r colledion trwm a welwyd ymysg plant ar ôl iddynt adael yr ysgol yn ddim syndod.

Mewn llawer ardal arall hefyd, gall cyfrannau cymharol uchel o blant yn gallu siarad Cymraeg arwain at gamargraff fod proffil oedran cyffredinol y siaradwyr Cymraeg yn is na’r hyn yw mewn gwirionedd. Er mwyn osgoi hynny, mae angen cymharu o fewn grwpiau oedolion yn ogystal.

Mae’r graff uchod yn edrych ar y niferoedd sy’n gallu siarad Cymraeg ym mhob grŵp oedran ledled Cymru ac yn cymharu hynny â’r hyn oedd yn 2011. Mae’r tabl yn rhoi gwybodaeth ychwanegol am y canrannau’n ogystal. Wrth edrych ar unrhyw ganrannau cenedlaethol, y peth cyntaf i’w gofio yw mai cyfartaledd fyddant a dim byd arall. Mae’r ffigurau yn annhebygol o fod yn adlewyrchiad o’r sefyllfa ar lawr gwlad mewn unrhyw ran o Gymru – eu prif werth yn hytrach yw rhoi llinyn mesur i gymharu. Er hyn, mae’r rhan fwyaf o’r tueddiadau isod i’w gweld i amrywiol raddau mewn gwahanol rannau o Gymru.

• Mae nifer a chanran y plant 3-15 sy’n gallu siarad Cymraeg wedi gostwng o gymharu â’r hyn oedd yn 2011 - 22,000 i lawr mewn niferoedd ac o 37.6 i 32.0 y cant. Eto i gyd, mae’r ganran hon yn sylweddol uwch na’r ganran sy’n gallu siarad Cymraeg mewn unrhyw grŵp oedran arall.

• Gostyngiad bach yn niferoedd y bobl ifanc 16-24 oed sy’n gallu siarad Cymraeg, ond cynnydd bach yn y ganran. Mae hyn yn adlewyrchu lleihad cyffredinol mewn nifer plant yn 2011 o gymharu â 2001. Mae hefyd yn adlewyrchu’n un math o golledion sylweddol yn y gallu i siarad Cymraeg ar ôl iddynt adael yr ysgol ag a gafwyd mewn cyfrifiadau blaenorol.

• Cynydd bach yn nifer a chanran y siaradwyr Cymraeg yn y grŵp oedran 25-34 oed. Mae hyn hefyd yn adlewyrchu cynnydd yn nifer y plant yn 2001 o gymharu â 10 mlynedd ynghynt, pryd y bu cynnydd mawr yn y nifer ohonynt oedd yn gallu siarad Cymraeg hefyd.

• Gostyngiad bach iawn yn nifer y siaradwyr Cymraeg yn y grŵp oedran 35-49 – ond oherwydd lleihad yn y boblogaeth yn gyffredinol, y ganran i fyny ychydig dros 1 y cant.

• Y gwrthwyneb yn wir am y grŵp nesaf, sef 50-64, sef niferoedd siaradwyr Cymraeg yn dal eu tir ond cynnydd yn y boblogaeth gyffredinol yn gostwng y ganran. Fel yn 2011, dyma’r ystod oedran sydd â’r ganran isaf o’r boblogaeth yn gallu siarad Cymraeg.

• Niferoedd sy’n gallu siarad Cymraeg dros 65 yn aros yn weddol gyson ond y ganran yn gostwng. Mewn rhai ardaloedd gall fod yn adlewyrchiad o nifer helaeth o bobl yn symud i mewn i Gymru i ymddeol. Mewn lleoedd eraill mae’n fwy tebygol o adlewyrchu colli siaradwyr Cymraeg oedrannus dros y 10 mlynedd ddiwethaf. Gellir gweld o’r tabl fod y gyfran o bobl dros 75 oed sy’n gallu siarad Cymraeg yn 2021 (15.0 y cant) union yr hyn oedd ymysg pobl 65-74 oed yn 2011; felly hefyd, mae’r 12.8 y cant o bobl 65-74 oed sy’n gallu siarad Cymraeg yn 2021 yn debyg i’r hyn oedd ymysg pobl 50-64 oed yn 2011.