Hafan > Dadansoddiadau Pellach > Plant a phobl ifanc
Un o ganlyniadau amlycaf Cyfrifiad 2021 yw'r lleihad yn y nifer a'r ganran o blant 3-15 oed sy'n gallu siarad Cymraeg o gymharu â'r ddau gyfrifiad blaenorol.
Gwelwn oddi wrth y graff uchod (cefndir glas) fod gostyngiad o 22,000 wedi bod yn eu niferoedd dros y 10 mlynedd ddiwethaf, sy'n golygu bod y ganran sy'n gallu siarad Cymraeg yn y grwp oedran hwn wedi gostwng o 37.6 y cant yn 2011 i 32.0 y cant yn 2021. Roedd y nifer yn 2011 hefyd bron i 11,000 yn llai nag yn 2001, ond roedd hyn i'w briodoli'n gyfan gwbl i leihad cyffredinol ymysg plant dros y cyfnod hwnnw.
Cyn mynd ati'n rhy sydyn i ddehongli'r lleihad hwn fel rhyw fath o argyfwng, fodd bynnag, mae'n werth sylwi hefyd fod y nifer yn dal yn sylweddol uwch na'r hyn oedd yn 1991, pryd roedd y ganran hefyd yn llawer is ar 24.3 y cant.
Yr hyn a ddigwyddodd rhwng 1991 a 2001 oedd bod cynnydd anferthol o 66,000 wedi bod yn niferoedd y plant 3-15 oed a oedd yn gallu siarad Cymraeg, a oedd yn gynnydd ymhell dros 50 y cant. Roedd llawer o'r newidiadau mwyaf dramatig i'w gweld mewn siroedd fel Blaenau Gwent, Torfaen, Casnewydd a Sir Fynwy, lle'r oedd y canrannau wedi codi o'r nesaf peth i ddim yn 1991 i tua 30 i 40 y cant 10 mlynedd yn ddiweddarach. Mae'n dystiolaeth yn amlwg erbyn hyn, fodd bynnag, na fu'r twf yn gynaliadwy gan mai dyma'r siroedd y gwelir y colledion mwyaf ymysg plant wrth iddynt dyfu'n oedolion (mwy am hyn isod). Ymysg y siroedd hyn hefyd mae rhai o'r gostyngiadau mwyaf ymhlith plant yng Nghyfrifiad 2021.
Mae'r graff llinell arall, sydd â chefndir du, yn dangos y ffigurau cyfatebol ymysg plant 3-4 oed. Er bod y niferoedd sydd wedi eu nodi fel rhai sy'n gallu siarad Cymraeg yn sylweddol is na'r hyn oedd yn 2011 a hefyd yn 2001, mae'r ganran o ychydig dros 18 y cant yn rhywbeth tebyg i'r hyn oedd yn 2001 ac yn uwch na'r hyn oedd yn 1991. Mae'r lleihad yn y nifer i'w briodoli i raddau helaeth i leihad cyffredinol yn nifer plant yr oedran hwn.
Un o’r rhwystrau mwyaf rhag twf cyffredinol yng nghyfanswm siaradwyr Cymraeg dros y blynyddoedd diwethaf yw bod y twf yn ymddangos fel pe bai wedi cael ei gyfyngu i blant. Er gwaethaf y twf a welwyd yn nifer y plant a nodwyd fel rhai a oedd yn gallu siarad Cymraeg mewn cyfrifiadau diweddar, nid yw hyn yn cael ei adlewyrchu ymysg oedolion ifanc mewn cyfrifiadau dilynol.
Gellir awgrymu tri phrif reswm penodol dros hyn:
Gallwn fod yn sicr fod y tri ffactor uchod ar waith i wahanol raddau mewn gwahanol ardaloedd o Gymru. Mae’r lleihad yn nifer y plant y nodir eu bod yn siarad Cymraeg yng Nghyfrifiad 2021 yn awgrymu’n gryf hefyd y gall y trydydd ffactor, sef gor-gyfrif, fod yn fwy arwyddocaol na’r disgwyl.
Yn gyffredinol, pan edrychwn ar y canrannau ar gyfer plant o gyfrifiad i gyfrifiad, gwelwn y rhain ar eu hisaf yn 3 oed, yn codi ychydig yn 4 oed, cyn codi’n sylweddol erbyn tua 8 oed ac aros ar uchafbwynt cymharol gyson rhwng 10 a 15, cyn gostwng yn sylweddol o 18 oed ymlaen.
Mae'r graff bariau uchod yn gwneud cymariaethau uniongyrchol rhwng plant a oedd rhwng 5 a 14 oed yn 2001 ac oedolion ifanc pan oeddent yn 25-34 oed 20 mlynedd yn ddiweddarach yn 2021.
Gwelwn fod 150,606 o blant 5-14 oed wedi cael eu nodi fel rhai a oedd yn gallu siarad Cymraeg yn 2001; erbyn 2021 roedd y nifer a allai siarad Cymraeg yn yr un genhedlaeth erbyn roeddent yn 25-34 oed wedi gostwng i lai na'r hanner i 64,255.
Mae graddau’r colledion ymysg plant erbyn maent yn oedolion ifanc yn amrywio’n fawr rhwng gwahanol rannau o Gymru a’i gilydd, gyda chyd-berthynas amlwg a thrawiadol rhwng y colledion mwyaf a’r siroedd lle mae’r canrannau isaf yn gallu siarad Cymraeg. Prif werth y cyfartaleddau cenedlaethol yw fel ffon fesur i gymharu gwahanol ardaloedd â’i gilydd yn hytrach na disgwyl gweld unrhyw arwyddocâd penodol ynddynt.
Yn wyneb gostyngiadau fel hyn, gall y bydd goblygiadau pellach i’r ffaith fod nifer y plant a nodwyd fel rhai sy’n gallu siarad Cymraeg wedi gostwng yn 2021.
Os mai cyfran debyg fydd yn dal gafael ar yr iaith fel oedolion, bydd lleihad pellach yn anochel. Ar y llaw arall, os yw ffigurau 2021 yn gywirach yn yr ystyr fod llai o or-gyfrif wedi digwydd, gellid disgwyl bod rhagolygon o gyfran uwch ohonynt yn dal gafael ar yr iaith. Gall fod yn arwyddocaol fod y gostyngiadau mwyaf yn niferoedd y plant sy’n gallu siarad Cymraeg yn 2021 wedi digwydd yn siroedd Blaenau Gwent, Sir Fynwy a Chasnewydd – sef y siroedd sydd wedi gweld y colledion mwyaf rhwng plant a phobl ifanc dros y degawdau diwethaf.