Hafan > Mwy o wybodaeth > Gwasanaethau
Mae’r wybodaeth a gasglwyd a'r arbenigedd a ddatblygwyd wrth lunio’r wefan hon a chyflawni prosiectau eraill yn y gorffennol yn ein galluogi i gynnig amrywiaeth helaeth o wasanaethau i sefydliadau, mudiadau a chwmnïau masnachol, gan gynnwys:
Gallwn baratoi proffiliau manwl o sefyllfa’r Gymraeg a demograffeg cyffredinol unrhyw ardal yng Nghymru, waeth pa mor fach neu pa mor fawr. Gan fod llawer o waith ymchwil eisoes wedi ei wneud, gallwn gynnig telerau hynod gystadleuol.
Cyflwyniadau ar sefyllfa'r Gymraeg mewn gwahanol ardaloedd ac amrywiol bynciau ieithyddol eraill.
Ar sail ein gwybodaeth a’n hymchwil, gallwn gynnig cyngor ar y math o fesurau a allai fod mwyaf effeithiol wrth hyrwyddo’r Gymraeg mewn unrhyw ardal benodol.
Gallwn baratoi asesiadau trwyadl o effeithiau unrhyw ddatblygiad ar y Gymraeg. Rydym wedi ymrwymo i asesiadau gwrthrychol a deallus ac nid rhai sy’n seiliedig ar restrau ticio blychau fel sy’n digwydd yn rhy aml ar hyn o bryd.
Gallwn addasu deunyddiau o'r wefan ar gyfer adnoddau addysgol fel bo'r angen.
Dim ond dechrau’r gwaith o fapio’r Gymraeg y mae’r wefan hon ar hyn o bryd, ac rydym yn gwahodd eraill i gydweithio â ni i greu ffynhonnell a fydd yn datblygu’n fwy cynhwysfawr o hyd.
Rhai sefydliadau a wasanaethwyd