Mwy am y wefan hon


Hafan > Mwy o wybodaeth > Mwy am y wefan hon

Cyfrannu at yr ymdrechion i gynnal a chryfhau'r Gymraeg oedd y cymhelliad y tu ôl i'r wefan hon. Y nod yw mapio sefyllfa’r Gymraeg fel y mae ar hyn o bryd a dangos yr amrywiol dueddiadau sydd ar waith mewn gwahanol ardaloedd ledled Cymru. Mae’r cyfan o’r wybodaeth ynddi wedi’i osod mewn cyd-destun hanesyddol, gan ganolbwyntio’n benodol ar y tueddiadau dros y degawdau diwethaf.

Mae'n amlwg fod sawl her yn wynebu'r Gymraeg ar hyn o bryd. Nid trwy ddarogan gwae na thrwy dwyllo'n hunain mae ymateb i'r heriau hyn ond trwy feithrin dealltwriaeth drylwyr ohonynt. Ein gobaith yw y bydd Atlas y Gymraeg yn gallu cyfrannu rhywfaitn at y gwaith hwn.

Yn wahanol i ysgrifennu llyfr, nid tasg ac iddi ddechrau a diwedd penodol yw datblygu gwefan fel hon. Y gobaith yw gallu ychwanegu’n barhaus ati fel y gall gyflwyno darlun manylach a diweddarach o hyd o’r tueddiadau ieithyddol sydd ar waith mewn gwahanol rannau o Gymru.

Mae’r wefan wedi’i hanelu at amrywiaeth o wahanol bobl a sefydliadau gan gynnwys:

  • Cynllunwyr iaith
  • Myfyrwyr, ysgolion a cholegau
  • Newyddiadurwyr
  • Swyddogion cynghorau a llywodraeth
  • Ymgyrchwyr a charedigion y Gymraeg

Golygydd y wefan yw Huw Prys Jones, ac mae ei chynnwys yn seiliedig ar waith ymchwil a wnaeth i amrywiaeth o sefydliadau a mudiadau dros y blynyddoedd diwethaf.

Prif ffynhonnell yr wybodaeth ynddi yw ystadegau cyfrifiad, a gyhoeddir pob 10 mlynedd. Mae hyn am y rheswm syml mai dyma'r ffynhonnell lawnaf o wybodaeth sydd ar gael. Mae'n wir fod amheuon yn cael eu codi am rai o'r canfyddiadau sydd ynddynt. Mae amryw yn credu bod nifer sylweddol o bobl sy'n gallu siarad Cymraeg yn gyndyn o nodi hynny ar ffurflenni swyddogol y Cyfrifiad, gan awgrymu y gallai diffyg hyder fod yn ffactor. Yn yr un modd, mae amheuon fod niferoedd plant sy'n gallu siarad Cymraeg wedi cael eu gor-gyfrif yn sylweddol, ac mae gwybodaeth yng Nghyfrifiad 2021 am y gallu i siarad Cymraeg ymysg pobl ifanc yn cadarnhau hyn. Ar y llaw arall, y Cyfrifiad yw'r unig arolwg sy'n ofynnol i bawb i lenwi ac sydd â holl adnoddau'r wladwriaeth yn gefn iddo.

Er mwyn cael gwerth llawn o wybodaeth unrhyw Gyfrifiad, mae angen cymharu â Chyfrifiadau blaenorol er mwyn adnabod tueddiadau a phatrymau dros gyfnodau o amser. Mae hyn yn gosod cyd-destun i'r ystadegau a hefyd yn ffordd o wirio pa mor gredadwy ydynt pan fo amheuon yn cael eu codi am eu dilysrwydd.

Mae'r wybodaeth a ddaw o ffigurau'r Cyfrifiad wedi ei chael o Adroddiadau Llyfrfa Ei Mawrhydi o Gyfrifiadau 1961, 1971 ac 1981 ac o wefannau'r Swyddfa Ystadegau Gwladol a Nomisweb ar gyfer Cyfrifiadau o 1991 ymlaen.

Llyfrau

Tystiolaeth Ystadegol yn ymwneud â'r Iaith Gymraeg 1801-1911 Dot Jones Gwasg Prifysgol Cymru 1998

Dyma'r ffynhonnell fwyaf gwerthfawr o wybodaeth sydd ar gael am y Gymraeg am y cyfnod dan sylw, a chydnabyddwn ein dyled iddi am yr holl ystadegau ar gyfer Cyfrifiadau 1901 a 1911, a diolchwn hefyd am y caniatâd i ddefnyddio'r map ohoni.

A Geography of the Welsh Language 1961-1991 John Aitchison a Harold Carter Gwasg Prifysgol Cymru 1994

Mae'r dehongliad daearyddol hwn o'r tueddiadau ieithyddol a oedd ar waith yng Nghymru yn y cyfnod hwn yn ffynhonnell arall werthfawr y gwnaed defnydd anuniongyrchol helaeth ohoni.

Hanes Cymru John Davies Penguin Books 1990 

Yr ardaloedd lleiaf y mae'r Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS) yn cyhoeddi gwybodaeth amdanynt yw'r hyn a elwir yn Output Areas, sy'n ddarnau o dir ac iddynt boblogaeth o tua 300 ar gyfartaledd. Nid oes unrhyw arwyddocâd swyddogol i'r mwyafrif o ardaloedd hyn (er bod ambell un yn ffurfio cymuned wledig), a thrwy god rhifau yn unig y maent wedi eu diffinio. 

Mae'r rhan fwyaf o wybodaeth o Gyfrifiad 2021 wedi ei ddosbarthu fesul wardiau hefyd, sy'n waith llawer haws na cheisio didoli'r Ardaloedd Cyfrif. Anfantais y wardiau yw bod llawer ohonynt wedi newid ffiniau ers Cyfrifiad 2011 ac felly ni ellir gwneud cymariaethau syml â Chyfrifiadau blaenorol. Nid yw'r ONS wedi cyhoeddi ffigurau fesul cymuned (sef ar sail ffiniau cynghorau cymuned) ar gyfer Cyfrifiad 2021 eto, er ei bod yn bosibl mynd ati i roi Ardaloedd Cyfrif at ei gilydd er mwyn gwneud hyn.

Nid yw pob gwybodaeth ar gael fesul ardaloedd bach, er enghraifft, dim ond ar gyfer siroedd cyfan y cyhoeddir ffigurau manwl am y gallu i siarad Cymraeg fesul pob blwyddyn oedran, felly rhaid dibynnu ar yr hyn sydd ar gael.

Cymharu â'r gorffennol

Dim ond ers 1996 y mae siroedd presennol Cymru mewn grym, pryd y ffurfiwyd 22 o siroedd unedol newydd. Roedd y rhain yn disodli 8 o siroedd, a 37 o gynghorau dosbarth, a ddaeth i rym yn 1974. Roedd y rheini wedi cymryd lle'r 13 sir hanesyddol, a oedd wedi eu rhannu'n fwrdeistrefi, dosbarthiadau trefol a dosbarthiadau gwledig.

Mae hyn yn golygu bod cymharu gwybodaeth gyfoes â Chyfrifiadau'r gorffennol yn fwy cymhleth, ond nid yn amhosibl. Mae gwybodaeth ar gael yn weddol rwydd am sut y cafodd y ffiniau eu newid, felly gellir gwneud cymariaethau manwl rhwng siroedd presennol ac ardaloedd sy'n cyfateb iddynt yn y gorffennol - am y degawdau diwethaf o leiaf, er bod rhai o'r cymariaethau yn fwy bras wrth fynd yn ôl i droad yr 20fed ganrif.

Roedd y siroedd wedi eu rhannu'n fwrdeistrefi (rhai o'r prif drefi a'r trefi hanesyddol), dosbarthiadau trefol (trefi llai ac ardaloedd diwydiannol) a dosbarthiadau gwledig (a oedd fel arfer wedi eu henwi ar ôl trefi oedd yn ganolfannau iddynt). Roedd pedair tref fwyaf Cymru, sef Caerdydd, Abertawe, Casnewydd a Merthyr â statws Bwrdeistref Sirol hefyd.

13 sir wreiddiol Cymru

Allan o'r 13 o siroedd gwreiddiol Cymru, mae pedair ohonynt yn cyfateb yn union i bedair o'n siroedd presennol: Môn, Ceredigion (y cyfeirid ati'n amlach fel Sir Aberteifi), Sir Gaerfyrddin a Sir Benfro.

Mae pedair arall yn dal i gael eu cydnabod i ryw raddau fel rhanbarthau o fewn y siroedd newydd (gyda rhai mân-newidiadau i'w ffiniau): Meirionydd o fewn Gwynedd, a Siroedd Trefaldwyn, Maesyfed a Brycheiniog o fewn Powys.

Mae enwau tair sir arall yn cael eu defnyddio am dair o'n siroedd presennol, ond sy'n wahanol iawn o ran ffiniau, ac o'r herwydd gall y rhain beri dryswch:

Sir Ddinbych - roedd y sir wreiddiol yn cynnwys sir bresennol Wrecsam a rhan o sir Conwy yn ogystal â sir bresennol Dinbych.

Sir y Ffint - dim ond rhan ddwyreiniol y sir wreiddiol yw sir bresennol y Fflint, gyda'r rhan orllewinol ohoni bellach yn rhan o sir Ddinbych.

Sir Fynwy - dim ond rhan ddwyreiniol hen sir Fynwy yw'r sir Fynwy bresennol, gyda'r gweddill ohoni'n ffurfio siroedd newydd Torfaen, Blaenau Gwent, Casnewydd a rhan o Sir Caerffili.

O ran y ddwy hen sir arall, mae'r rhan fwyaf o Sir Gaernarfon yn rhan o Wynedd a'r gweddill yn rhan o Sir Conwy, ac mae Morgannwg wedi ei rhannu rhwng siroedd newydd Abertawe, Castell-nedd Port Talbot, Pen-y-bont ar Ogwr, Bro Morgannwg, Caerdydd, Rhondda Cynon Taf, Merthyr Tudful a rhan o sir Caerffili.

 

 

Yr hyn mae'r Cyfrifiad yn ei wneud yn gofyn am y gallu i siarad Cymraeg, ac nid oes unrhyw wybodaeth am y graddau mae pobl yn defnyddio'r Gymraeg. Nid oes wybodaeth chwaith am ynghylch pa mor rhugl yw rhywun yn yr iaith - sy'n golygu amrywiaeth yn ôl dehongliad gwahanol bobl a ydynt yn gallu siarad Cymraeg ai peidio.

I fod yn fanwl gywir, gellid barnu felly bod cyfeirio at y rheini sydd wedi nodi eu bod yn gallu siarad Cymraeg fel 'siaradwyr Cymraeg' yn gamarweiniol, neu o leiaf yn or-symleiddio. Er hyn, er mwyn osgoi brawddegau hirwyntog barnwyd ei bod yn anochel defnyddio 'siaradwyr Cymraeg' yn helaeth yn y wefan wrth gyfeirio at blant neu oedolion sy'n gallu siarad Cymraeg.

Diolch yn arbennig i Mentrau Iaith Cymru am waith a gomisiynwyd ar gyfer dehongli canlyniadau Cyfrifiad 2021. Ni fyddai'r wefan hon wedi bod yn bosibl heb y sail hon o wybodaeth a ddatblygwyd yn sgil yr ymchwil.

Mae'r wybodaeth ar Atlas y Gymraeg yn deillio hefyd o waith a wnaed i sawl sefydliad yn y gorffennol, a diolchir yn arbennig i adran Cymraeg i Oedolion Prifysgol Bangor am alluogi'r gwaith cychwynnol flynyddoedd yn ôl ac am barhau eu cefnogaeth.

Diolch hefyd i Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy am Grant Cymorth Busnes at y gwaith o ddatblygu'r wefan.

Cedwir pob hawl. Ni ellir atgynhyrchu unrhyw ran o’r wefan hon heb ganiatâd ymlaen llaw.