Darllen ac ysgrifennu Cymraeg


Hafan > Dadansoddiadau Pellach > Darllen ac ysgrifennu Cymraeg

Show Toolbar
  • Show Caption
  • Hide Thumbmails
  • Show Categories
  • Play Slide Show
  • Display in Full Screen
  • Hide Toolbar

Cyfraddau llythrennedd siaradwyr Cymraeg
 
 
  • Cyfraddau llythrennedd siaradwyr Cymraeg

Yn y cwestiynau’n ymwneud â’r Gymraeg ar ffurflenni’r Cyfrifiad, roedd ymatebwyr yn gallu ticio hyd at bedwar blwch i nodi a oeddent yn gallu:

• Deall Cymraeg llafar

• Siarad Cymraeg

• Darllen Cymraeg

• Ysgrifennu Cymraeg

Fe wnaeth 5.2 y cant o’r boblogaeth roi tic ar y blwch cyntaf yn unig, sef eu bod yn deall Cymraeg llafar, ac mae’r rhain wedi eu cyfrif ar wahân ac yn ychwanegol ac yr 17.8 y cant a nododd eu bod yn gallu siarad Cymraeg.

Mae patrwm dosbarthiad y grwp hwn o bobl yn ddiddorol, gyda’r cyfrannau uchaf i’w gweld yn gyson mewn ardaloedd lle mae lleiafrifoedd sylweddol yn gallu siarad Cymraeg, ac mewn lleoedd mae’r Gymraeg yn tueddu i fod ar drai.

Mae’r ganran uchaf un i’w gweld yn nhref Caergybi, lle mae nifer a ddywedodd eu bod yn deall Cymraeg yn cyfrif am 20 y cant o’r boblogaeth ac yn ychwanegol at y 42.5 y cant sy’n gallu siarad yr iaith yn y dref. Ar y llaw arall, mae’r canrannau’n isel iawn yng nghadarnleoedd cryfaf y Gymraeg, fel 2.7 y cant yn Llanuwchllyn.

Ledled Cymru, mae cyfran fach – tua 2 y cant – o’r boblogaeth wedi nodi eu bod yn gallu darllen neu ysgrifennu Cymraeg (neu’r ddau) ond heb nodi ei bod yn gallu ei siarad. Gellid dadlau bod mymryn o amwysedd gyda’r cwestiynau hyn – pe bai rhywun eisiau bod yn fanwl gywir, heb ddweud eu bod yn gallu siarad Cymraeg mae’r bobl hyn yn hytrach na dweud yn benodol na allan nhw ei siarad. Er hynny, mae’r gallu i ddarllen, neu darllen ac ysgrifennu iaith, ond heb allu ei siarad yn gwbl bosibl.

Yr un peth mwyaf trawiadol am y rhai sydd wedi nodi’r gallu i ddarllen neu ysgrifennu yw bod y ganran o 2 y cant fwy neu lai’n union yr un fath ledled Cymru, o’r cadarnleoedd cryfaf i’r ardaloedd mwyaf Seisnig.

Mwy arwyddocaol na’r garfan hon yw’r wybodaeth am faint o’r rheini sy’n gallu siarad Cymraeg sy’n gallu ei darllen a’i hysgrifennu hefyd. Ar gyfartaledd drwy Gymru, mae 80 y cant o siaradwyr Cymraeg yn gallu ei darllen a’i hysgrifennu, gyda 6 y cant arall yn gallu ei darllen ond nid ei hysgrifennu. (Mae niferoedd bach iawn wedi nodi’r blwch ysgrifennu yn unig, ond anodd credu bod hyn yn llythrennol wir.)

Mae patrwm daearyddol pendant yn nosbarthiad lefel llythrennedd siaradwyr Cymraeg, er nad yw’n arbennig o amlwg ar lefel sirol. Mae’r gyfran uchaf o siaradwyr Cymraeg sy’n gallu darllen ac ysgrifennu’r iaith i’w gweld yng Ngwynedd (86 y cant) a’r isaf yn Sir y Fflint (74 y cant).

Mae gwahaniaethau amlycach i’w gweld wrth gymharu ar sail ardaloedd llai, a’r hyn sydd ddiddorol a dadlennol yw’r gydberthynas amlwg rhwng cyfraddau uchel yn deall Cymraeg llafar yn unig a chyfraddau isel o lythrennedd ymysg siaradwyr Cymraeg. Unwaith eto, mae Caergybi’n sefyll allan, lle nad oes ond tua dau draean o siaradwyr Cymraeg yn dref yn dweud eu bod yn gallu darllen ac ysgrifennu Cymraeg, o gymharu â thros 90 y cant yn rhai o wardiau gwledig Gwynedd.