Cipolwg Hanesyddol


Hafan > Cipolwg Hanesyddol

Show Toolbar
  • Show Caption
  • Hide Thumbmails
  • Show Categories
  • Play Slide Show
  • Display in Full Screen
  • Hide Toolbar

graff 1901-2021
 
 
  • graff 1901-2021

Gwyddom i sicrwydd fod mwyafrif o drigolion Cymru'n gallu siarad Cymraeg hyd at droad yr 20fed ganrif. Mae cadarnhad clir o hynny i'w weld yng Nghyfrifiad 1901, ac un 1891 o'i flaen pan ddechreuwyd casglu gwybodaeth am y gallu i siarad Cymraeg am y tro cyntaf.

Mae dyfalu'r canrannau a allai siarad Cymraeg ymhellach yn ôl yn y gorffennol yn gallu bod yn dasg fwy cymhleth. Prin fod y ffin rhwng Cymru a Lloegr wedi bod yn adlewyrchiad manwl erioed o'r terfyn ieithyddol rhwng y Gymraeg a'r Saesneg, gan ei bod yn hysbys fod rhannau o Gymru wedi bod yn Saesneg eu hiaith ers canrifoedd, a'r Gymraeg yn ymestyn i rannau o Loegr hefyd. Mae'n amlwg fodd bynnag fod newid mawr wedi digwydd yn ystod yr 19eg ganrif, wrth i'r boblogaeth dreblu rhwng 1801 ac 1901, yn sgil y chwyldro diwydiannol yn y de-ddwyrain yn bennaf. Byddai hyn yn sicr wedi arwain at leihad sylweddol yng nghanran y siaradwyr Cymraeg yn ystod y ganrif honno er y byddai eu niferoedd wedi cynyddu.

Cymharol brin yw’r wybodaeth a gafodd ei gofnodi am y Gymraeg yng Nghyfrifiad 1891, a rhaid aros tan gyfrifiadau'r 20fed ganrif am wybodaeth lawnach.

Er hyn, mae Cyfrifiad 1901, yn ogystal â dangos sefyllfa ieithyddol Cymru ar droad yr 20fed ganrif, yn codi cwr y llen ar gyfnodau cynharach hefyd. Mae hyn oherwydd ei fod yn dangos oedrannau siaradwyr Cymraeg mewn gwahanol ardaloedd, gyda sawl lle’n dangos gwahaniaethau amlwg rhwng cenedlaethau hŷn a rhai iau. Yn aml, gellir defnyddio’r wybodaeth i ddyfalu pryd yn union y digwyddodd newid allweddol yn yr ardal. Mae hyn yn wir am sawl tref a chwm ym Morgannwg, er enghraifft, wrth i effeithiau'r twf anferthol mewn poblogaeth yn sgil y Chwyldro Diwydiannol ddod i'r amlwg.

Ar y llaw arall, mae cyfraddau uchel o Gymry uniaith mewn rhannau helaeth o’r gogledd a’r gorllewin yn rhoi syniad inni pa mor drwyadl Gymraeg fu’r lleoedd hyn ar hyd y canrifoedd. Yn yr un modd, mae rhai ardaloedd eraill lle nad oes ond y nesaf peth i ddim o’r boblogaeth yn gallu siarad Cymraeg, hyn yn oed o blith pobl dros 65 oed. Mae hyn yn cadarnhau yr hyn a wyddom am leoedd fel de sir Benfro, a rhannau dwyreiniol Sir Fynwy a Sir y Fflint a oedd wedi cael eu coloneiddio yn yr oesoedd canol, yn ogystal â rhannau eraill o'r gororau fel Sir Faesyfed y credir eu bod wedi fwy neu lai golli eu Cymraeg ers y 18fed ganrif.   

Wrth olrhain Cyfrifiadau’r 20fed ganrif, gallwn olrhain y newidiadau ieithyddol diweddarach a ddigwyddodd mewn gwahanol rannau o Gymru. Hyd at tua’r 1960au, ym Morgannwg a Gwent roedd y newidiadau amlycaf i’w gweld, gyda’r gallu i siarad Cymraeg yn dirywio wrth i genedlaethau hŷn gael eu colli. Yn y degawdau diwethaf, fodd bynnag, mae’r bygythiadau mwyaf i'r iaith i'w gweld yn siroedd Cymreiciaf y gogledd a'r de-orllewin.

Digwyddodd Cyfrifiad 1901 ar adeg allweddol yn hanes y Gymraeg yng Nghymru. Mae'n amlwg mai dyma'r tua'r union adeg y disgynnodd y ganran o boblogaeth Cymru a allai ei siarad islaw'r trothwy o hanner am y tro cyntaf.

Er bod y cyfanswm o 929,000 o siaradwyr Cymraeg yn debygol fod tua dwywaith cymaint yr un oedd ganrif ynghynt, roedd y ganran wedi gostwng i 49.9 y cant. Roedd hyn yn cymharu â 54 y cant yng Nghyfrifiad 1891, ac mae'n rhesymol amcangyfrif bod siaradwyr Cymraeg yn cyfrif am o leiaf dri chwarter y boblogaeth ar gychwyn y 19eg ganrif.

Camarweiniol, fodd bynnag, fyddai edrych ar y ganran o hanner y boblogaeth yn gallu siarad Cymraeg fel adlewyrchiad o'r sefyllfa drwy Gymru. Gyda dros 90 y cant yn siarad Cymraeg yn siroedd Caerfyrddin, Aberteifi, Meirionnydd, Caernarfon a Môn, a chyfrannau helaeth yn dal yn uniaith Gymraeg mewn rhannau helaeth o’r Gymru wledig, byddai sefyllfa’r Gymraeg mewn llawer rhan o Gymru’n ymddangos yn ddigon tebyg i’r hyn a fuasai ganrif ynghynt. Byddai’r un peth yn wir i raddau hefyd am sawl ardal a oedd wedi Seisnigo'n gynnar cyn y Chwyldro Diwydiannol fel Sir Faesyfed ar y gororau, yn ogystal â lleoedd fel de Sir Benfro a dwyrain Sir Fynwy a oedd wedi cael eu coloneiddio gan ymsefydlwyr Seisnig a Normanaidd yn yr oesoedd canol.

Does dim amheuaeth mai canolbwynt y newid mawr a ddigwyddodd mewn iaith a phoblogaeth yn y 19eg ganrif a hanner cyntaf yr 20fed ganrif oedd Morgannwg.

Gyda bron i 800,000 o drigolion o drigolion erbyn 1901, roedd poblogaeth Morgannwg ddengwaith yr hyn oedd yn 1801, ac yn cyfrif am tua 42 y cant o holl boblogaeth Cymru.

Roedd 43.7 y cant o boblogaeth y sir yn gallu siarad Cymraeg yn 1901 a’r gyfran yn codi i dros hanner ymhlith y grwpiau oedran dros 45 oed. Er hynny, roedd dros draean o’r plant hefyd yn gallu’r iaith.

Roedd poblogaeth Sir Fynwy hefyd bum gwaith yr hyn oedd yn 1801, a'r broses o Seisnigeiddio wedi mynd yn llawer pellach yno. Roedd y gyfran a oedd yn gallu siarad Cymraeg ynddi yn 1901 yn llawer is ar 13.0 y cant, ond yn codi i tua chwarter pobl dros 45 oed.

Mae Cyfrifiad 1911 wedi cael ei grybwyll sawl gwaith fel rhyw fath o uchafbwynt i’r Gymraeg gan mai dyma pryd y cododd niferoedd ei siaradwyr i tua 977,000.

Er hyn, does dim amheuaeth mai cyfnod o ddirywiad oedd degawd cyntaf yr 20fed ganrif yn hanes yr iaith, gan i’r gyfran ostwng i 43.5 y cant, wrth i gynnydd anferthol yn y boblogaeth chwyddo niferoedd y di-Gymraeg.

Ym Morgannwg, bu cynnydd o dros 200,000 yn y boblogaeth rhwng 1901 a 1911, ac er i nifer y siaradwyr Cymraeg gynyddu i 393,000, roedd eu canran i lawr i tua 38 y cant o’r boblogaeth, gyda’r gyfran yn codi uwchlaw’r hanner ymhlith pobl dros 65 oed yn unig.

Yn y siroedd Cymreicaf, y prif newid oedd y lleihad yn niferoedd a chanrannau Cymry uniaith, er bod twf rhai drefi glan-môr y gogledd yn arwydd cynnar o’r Seisnigeiddio mawr y fyddai’n digwydd dros y degawdau dilynol.

Rhwng y ddau ryfel

Daliodd y boblogaeth i dyfu, ond ar raddfa lai, rhwng 1911 a 1921, ac yn sgil gostyngiad yn niferoedd y siaradwyr Cymraeg, aeth y ganran i lawr i 37.1 y cant. 

Yn ystod yr 1920au, ar y llaw arall, sefydlogodd y boblogaeth, a’r nifer a oedd yn gallu siarad Cymraeg, fel mai bach iawn oedd y gostyngiad yn y ganran i 36.8 y cant yng Nghyfrifiad 1931.

Yn ôl ffigurau Cyfrifiad y flwyddyn honno, roedd yn dal i fod dros 900,000 o boblogaeth Cymru o tua 2 filwn yn gallu siarad Cymraeg, ac o’r rhain roedd 355,000 ohonynt ym Morgannwg yn unig, ac yn ffurfio bron i draean – 30.5 y cant – drigolion y sir.

Roedd mwyafrifoedd llethol yn dal i siarad Cymraeg yn siroedd y gorllewin er bod y canrannau fymryn yn is na’r hyn oeddent genhedlaeth ynghynt. Roedd dros 20 y cant o boblogaeth siroedd Aberteifi, Meirionnydd, Caernarfon a Môn hefyd hyn dal yn Gymry uniaith.

Eto i gyd, roedd gwahaniaethau’n dod i’r amlwg yn y gallu i siarad Cymraeg rhwng cenedlaethau hyn a rhai iau, gyda mymryn dros hanner y bobl dros 65 ledled Cymru yn medru’r iaith o gymharu â thua thraean o bobl ifanc a chwarter y plant.

Oherwydd y rhyfel, ni chynhaliwyd Cyfrifiad yn 1941, ac o’r herwydd mae bwlch yn ein gwybodaeth am y cyfnod hwn, a bu’n rhaid aros tan 1951 am ddarlun llawnach o hynt a helynt y Gymraeg yn y cyfnod cythryblus hwn o newid.

Hyd yn oed o ystyried bod 20 mlynedd fynd heibio ers y Cyfrifiad blaenorol, roedd y cwymp yn niferoedd siaradwyr Cymraeg a welwyd yng Nghyfrifiad 1951 yn dangos bod tro sylweddol wedi bod ar fyd.

Collwyd bron i 200,000 mewn niferoedd, a syrthiodd y ganran o 36.8 i 28.9 y cant. Roedd y ganran ym Morgannwg i lawr i tua 20 y cant bellach, ac er bod mwyafrifoedd clir yn y siroedd gorllewinol, roedd y canrannau wedi gostwng o gymharu â’r hyn oeddent.

Er mai parhau a wnaeth yr un tueddiad drwy’r 1950au, ni chafwyd cymaint o ostyngiad rhwng 1951 a 1961, pryd y cofnodwyd 656,000 o siaradwyr Cymraeg yn ffurfio 26.0 y cant o’r boblogaeth. Wrth nodi hynny, a’r ffaith fod Cymry uniaith bellach i lawr i 1 y cant o’r boblogaeth, fel hyn y crynhowyd y sefyllfa yn adroddiad yr HSMO:

“Ability to speak Welsh is declining though more slowly than prior to 1951: absolute dependence on the Welsh language is disappearing.”

Mae’r adroddiad yn nodi hefyd mai ym Morgannwg, lle’r oedd niferoedd y siaradwyr Cymraeg wedi gostwng bellach i 200,000, oedd yn cyfrif am bron i ddau draean y cwymp cyffredinol mewn niferoedd rhwng 1931 a 1961.

Arweiniodd y dirywiad hwn yn sir fwyaf poblog Cymru at beri llawer o Gymry'r cyfnod hwn i gredu bod dyfodol yr iaith ei hun yn y fantol. Ar y llaw arall, roedd dros dri chwarter trigolion siroedd Caerfyrddin, Aberteifi, Meirionnydd a Môn yn gallu siarad Cymraeg yn ôl Cyfrifiad 1961, er bod hyn yn cymharu â thros 90 y cant hanner canrif ynghynt.

Cyfrifiad 1971

Mae’r gostyngiad a welwyd yn niferoedd y siaradwyr Cymraeg yn ystod yr 1960au gyda’r llymaf a welwyd mewn unrhyw ddegawd. Erbyn 1971, roedd eu niferoedd wedi gostwng i 542,000 a 20.8 y cant o’r boblogaeth.

Roedd llawer o hyn i’w briodoli'n bennaf i dueddiadau degawdau blaenorol o boblogaeth Gymraeg yn heneiddio yn hytrach na newidiadau yn ystod yr 1960au eu hunain.

Unwaith eto, ym Morgannwg y digwyddodd mwy na hanner y cwymp mewn niferoedd, wrth i’r cyfanswm sirol ostwng i 141,000, ac 11.7 y cant o’r boblogaeth. Mewn sawl ardal, fel y Rhondda a Merthyr, collwyd hyd at hanner y siaradwyr Cymraeg mewn 10 mlynedd; gyda’r sir gyfan wedi colli 60 y cant o’i siaradwyr Cymraeg yn y 40 mlynedd flaenorol.

Dyma'r adeg pryd y gwelwyd cwympiadau mewn canrannau yn y siroedd Cymreiciaf hefyd, gyda’r canrannau i lawr i 65.7 ym Môn, 66.5 yn Sir Gâr, 67.6 yng Ngheredigion a 62.0 yn Sir Gaernarfon.

O ran y niferoedd sy’n gallu siarad Cymraeg, ni fu newidiadau mor ddramatig ar ôl 1971, wrth i’r cyfansymiau cenedlaethol aros rhywle rhwng 500,000 a 600,000 ym mhob Cyfrifiad ers hynny.

Gostwng ychydig a wnaeth y cyfanswm cenedlaethol i ychydig dros 500,000 yn 1981 gan godi’r mymryn lleiaf yn 1991. Erbyn hynny, roedd rhywfaint o gynnydd yn niferoedd y plant a allai siarad Cymraeg yn rhai o siroedd y de-orllewin yn digolledu lleihad mewn ardaloedd eraill. Parhau roedd lleihad yn y canrannau a oedd yn siarad Cymraeg yn y cadarnleoedd hefyd – mae mwy o wybodaeth yn adrannau’r siroedd unigol.

Gyda’r siroedd presennol mewn grym bellach ers 1996, bu cynnydd anferthol yn nifer y plant 3-15 oed y nodwyd eu bod yn siarad Cymraeg yng Nghyfrifiad 2001, wrth i’w niferoedd gynyddu dros 50 y cant o 113,000 i 179,000. O ganlyniad i hyn, cynyddodd cyfanswm niferoedd siaradwyr Cymraeg i 575,000.

Gyda bron i 180,00 o blant 3-15 oed yn siarad Cymraeg, roeddent yn cynrychioli 36.7 y cant o’u grwp oedran. Yn siroedd y de-ddwyrain y gwelwyd y twf mwyaf gan fod canrannau’r plant a oedd yn gallu’r iaith eisoes yn uchel yn siroedd y gorllewin.

Bu gostyngiad bach yn nifer y plant a allai siarad Cymraeg rhwng 2001 a 2011, yn bennaf oherwydd lleihad cyffredinol yn nifer y plant 3-15. Yn wir, cododd y ganran fymryn i 37.6 y cant. Cyfrannodd hyn fodd bynnag at leihad bach yng nghyfanswm siaradwyr Cymraeg i 538,000 ac 19.0 y cant o'r boblogaeth.

Bu lleihad mwy sylweddol yn nifer y plant a nodwyd fel eu bod yn siarad Cymraeg erbyn 2021, gyda’u nifer i lawr i 146,600 a’r ganran bellach i lawr i 32.0 y cant. Hyn oedd y prif ffactor yn y lleihad o 24,000 yng nghyfanswm y siaradwyr Cymraeg i lawr i 538,000.

Eto i gyd, mae’r ganran a’r nifer o blant y dywedir eu bod yn gallu siarad Cymraeg yn dal yn sylweddol uwch na’r hyn oedd yn 1991. Daeth yn fwyfwy amlwg hefyd nad oedd y canrannau uchel o blant a nodwyd fel rhai yn siarad Cymraeg yn 2001 a 2011 yn arwain at gynnydd cyfatebol ymysg pobl ifanc mewn degawdau dilynol.

Yn ddaearyddol, parhau i leihau wnaeth y canrannau mewn llawer o ardaloedd a fu'n gadarnleoedd i'r iaith, yn enwedig mewn ardaloedd ôl-ddiwydiannol a gwledig yn y de-orllewin. Gwelwyd arwyddion o fygythiadau i gnewyllyn caletaf y Gymru Gymraeg yn y gogledd-orllewin hefyd, er bod y canrannau'n gostwng ar raddfa arafach yma, gan arwain at fwlch cynyddol rhyngddo ag ardaloedd eraill.