Mapiau Iaith


Hafan > Mapiau Iaith

Show Toolbar
  • Show Caption
  • Hide Thumbmails
  • Show Categories
  • Play Slide Show
  • Display in Full Screen
  • Hide Toolbar

map wardiau
 
 
  • map wardiau
    Map yn dangos y ganran sy'n siarad Cymraeg fesul ward yn ôl Cyfrifiad 2021
  • map cymunedau
    Cymunedau yng Nghymru lle mae 20 y cant a mwy o'r boblogaeth yn gallu siarad Cymraeg, yn ôl Cyfrifiad 2021

Dosbarthiad daearyddol y Gymraeg

Mae deall dosbarthiad daearyddol y Gymraeg yn gwbl allweddol i unrhyw ddehongliad trylwyr o sefyllfa’r iaith heddiw.

Gwyddom i sicrwydd na fu Cymru'n uned ieithyddol unffurf ar unrhyw adeg dros y 200 mlynedd ddiwethaf o leiaf. Nid yw’r cyfartaledd cenedlaethol o 17.8 y cant o’r boblogaeth yn gallu siarad Cymraeg yn dweud fawr ddim wrthym am y sefyllfa ar lawr gwlad nac am yr amrywiaethau mawr sydd rhwng gwahanol rannau o Gymru a'i gilydd.

Gall mapiau’n dangos y canrannau sy’n gallu siarad Cymraeg mewn gwahanol gymunedau neu wardiau roi cipolwg cyflym inni, a hefyd ddangos newidiadau dros y blynyddoedd - er nad ydynt yn rhoi darlun cyflawn o bell ffordd.

Er bod ardaloedd lle mae mwyafrifoedd sylweddol yn gallu siarad Cymraeg wedi crebachu dros y blynyddoedd, a’r canrannau sy’n gallu siarad Cymraeg oddi mewn iddynt wedi lleihau, mae patrwm daearyddol pendant yn dal yn amlwg. Mae’r rhaniad daearyddol rhwng dal i fod yn weddol ddi-dor rhwng y darn o dir y gellir ei ddisgrifio fel y Gymru fwy Cymraeg a gweddill Cymru. Hyd yn oed yn Sir Benfro, er gwaethaf y Seisnigeiddio yng ngogledd traddodiadol Gymraeg y sir, mae olion ‘landsker’ y canrifoedd yn dal i’w gweld.

O edrych ar dueddiadau mwy diweddar, mae prif ardal graidd y Gymraeg yn y gogledd-orllewin wedi sefyll allan yn fwyfwy amlwg wrth i ardaloedd i’r de a’r dwyrain iddi golli tir yn gyflymach na hi. Gyda’r nifer o ardaloedd sydd â thros 50 y cant yn gallu siarad yr iaith wedi lleihau yn y de, mae bron y cyfan o’r ardaloedd sydd â thros 60 y cant wedi eu cyfyngu i raddau helaeth i’r gogledd-orllewin bellach.

Prif werth mapiau sy’n seiliedig ar gymunedau neu wardiau fel hyn yw’r ffordd mae’n dangos nad yw ffiniau siroedd yn adlewyrchu ffiniau ieithyddol.

Er mai Gwynedd a Môn yw’r unig siroedd lle mae mwyafrif y boblogaeth yn gallu siarad Cymraeg, mae cymunedau o’r fath mewn wyth o siroedd eraill. Yn y gogledd mae’r ardaloedd hyn yn ymestyn dros ran helaeth o Gonwy wledig i rannau o sir Ddinbych, gogledd Powys a hyd yn oed i un gymuned fach – sef Ceiriog Ucha – yn sir Wrecsam. Yn y de, mae Sir Benfro, yn ogystal â Sir Gâr a Cheredigion, yn cynnwys cymunedau sydd â mwyfrif yn gallu siarad Cymraeg, er mai Cwmllynfell yw’r unig gymuned o’r fath sydd ar ôl yn sir Castell-nedd Port Talbot bellach.

Mae’r mapiau uchod yn amlygu’r ardaloedd hynny o Gymru lle mae’r canrannau uchaf o bobl sy’n gallu siarad Cymraeg:

  • Prif gadarnle’r Gymraeg yn y gogledd-orllewin lle mae ychydig dros 70 y cant ar gyfartaledd yn gallu siarad Cymraeg. Mae’r rhan fwyaf o’r ardal hon yng Ngwynedd, yn ymestyn dros y rhan fwyaf o Arfon, Llŷn ac Eifionydd a gogledd Meirionnydd, a’r gweddill ohoni’n cynnwys canolbarth a de Môn. Dyma’r cnewyllyn caletaf o ddigon, a’r ardal y byddai daearyddwyr yn cyfeirio ati fel y craidd. Er bod rhannau ohoni’n dangos rhai tueddiadau o ddirywiad, mae wedi dal ei thir yn well ar y cyfan dros y 10 mlynedd ddiwethaf na'r ardaloedd o'i chwmpas.
  • Rhannau helaeth o’r Gymru wledig lle mae oddeutu hanner y boblogaeth yn gallu siarad Cymraeg ar gyfartaledd. Mae’n cynnwys gweddill Môn, de Meirionnydd, y rhan fwyaf o Gonwy wledig a rhannau llai o Sir Ddinbych a gogledd Maldwyn yn y gogledd; yn y de mae’n cynnwys y rhan fwyaf o Geredigion a rhannau o sir Gâr a gogledd sir Benfro
  • Ardaloedd maes glo carreg y de-orllewin, cymoedd Aman a Gwendraeth yn bennaf, lle mae ychydig dros hanner y boblogaeth yn gallu siarad Cymraeg, ond sydd wedi gweld dirywiad mawr dros yr 20 mlynedd ddiwethaf.

Mae ardaloedd eraill lle mae lleiafrifoedd sylweddol yn medru’r Gymraeg yn cynnwys:

  • Ardaloedd gwledig sy’n fwy ar y gyrion y Gymru Gymraeg, fel Dyffryn Clwyd, rhannau o ogledd Powys, y rhannau mwy deheuol o ogledd Sir Benfro
  • Ardaloedd diwydiannol Cwm Tawe, Llanelli ac arfordir de-ddwyrain Sir Gâr, sydd wedi profi dirywiad sylweddol mewn niferoedd a chanrannau y ganrif hon
  • Trefi Caerfyrddin, Aberystwyth a Bangor, sy’n fwy Seisnig na’r ardaloedd o’u cwmpas

Lleoedd mewn rhannau eraill o Gymru sy’n cynnwys ardaloedd ac iddynt gyfran uwch na’r cyfartaledd cenedlaethol yn gallu siarad Cymraeg:

  • Er bod y gyfran sy’n gallu siarad Cymraeg yng nghymuned Rhosllannerchrugog ar gyrion Wrecsam wedi gostwng i fymryn llai na 20 y cant, mae’n dal ychydig yn uwch na’r ardaloedd o’i gwmpas. Er hyn, mae wedi gweld dirywiad anferthol dros y blynyddoedd ac wedi colli’n agos ymhell dros draean ei siaradwyr Cymraeg ers 2001.
  • Mae arwyddion o gynnydd yn rhannau deheuol Rhondda Cynon Taf fel Pentre’r Eglwys, a all fod yn rhannol o ganlyniad i addysg Gymraeg ac i siaradwyr Cymraeg o rannau eraill o Gymru yn symud iddynt.
  • Rhannau o Gaerdydd – mae tair cymuned yn benodol, sef Pontcanna, Treganna a Pentyrch wedi cofnodi canrannau o dros 20 y cant yn gallu siarad Cymraeg. Mae rhai o’r Ardaloedd Cyfrif unigol yn dangos cyfrannau sylweddol uwch mewn ambell i le, gyda sawl ardal dros 30 y cant ac ambell un dros 40 y cant. Ar y llaw arall, nid yw trigolion Cymraeg yn y lleoedd hyn ond yn cyfrif am leiafrif o’r holl siaradwyr Cymraeg yng Nghaerdydd.

Yr hyn nad yw’r mapiau’n ei ddangos, wrth gwrs, yw niferoedd y bobl sy’n gallu siarad Cymraeg mewn gwahanol ardaloedd. Gall ardaloedd poblog sy'n ymddangos yn fach ar fap gynnwys llawer mwy o siaradwyr Cymraeg nag ardaloedd gwledig o'u cwmpas. Gall hyn fod yn wir hefyd am leoedd lle mae'r canrannau sy'n gallu siarad Cymraeg yn isel. Er nad yw’r cyfanswm sy’n gallu siarad Cymraeg yng Nghaerdydd ond canran fach o’r boblogaeth gyffredinol, mae’r nifer yn dal yn uwch nag mewn unrhyw sir arall heblaw am Wynedd a Sir Gâr. Yn yr un modd, mae rhai o drefi arfordir y gogledd yn cynnwys niferoedd cymharol sylweddol o siaradwyr Cymraeg.

O ran gweddill Cymru, mae cryn dipyn o’r patrwm daearyddol yn gyson â’r hyn a fu dros y canrifoedd diwethaf, gyda de Sir Benfro, dwyrain Sir y Fflint, sir Faesyfed a Sir Fynwy ymhlith y lleoedd sydd â’r canrannau isaf yn gallu siarad Cymraeg.

Ar y llaw arall, mae rhywfaint o newid hefyd wrth i Fro Morgannwg a rhannau o Gaerdydd ddangos canrannau uwch na rhai o ardaloedd ym mlaenau’r cymoedd bellach. O fewn sir fel Rhondda Cynon Taf, mae’r canrannau uchaf bellach yn tueddu i fod yng ngwaelodion y sir, yn gwbl groes i’r hyn fyddai’r sefyllfa ganrif a mwy yn ôl.