Hafan > Dadansoddiadau Pellach > Iaith yn ôl mannau geni
Mae ystadegau sy’n dangos y gallu i siarad Cymraeg yn ôl mannau geni’r boblogaeth yn ein galluogi i greu darlun llawnach o’r tueddiadau sydd ar waith mewn llawer rhan o Gymru.
Mae hyn yn arbennig o wir am siroedd gorllewin, lle mae canrannau’r bobl sy’n gallu siarad Cymraeg yn amrywio fwyaf yn ôl eu mannau geni.
Yng Ngwynedd, Môn a Cheredigion, mae mwyafrifoedd sylweddol o’r boblogaeth a aned yng Nghymru yn gallu siarad Cymraeg. Yng Ngwynedd, mae’r ganran yn 87 y cant, a hynny’n codi i dros 90 y cant drwy holl gadarnleoedd cryfaf y Gymraeg yn y sir. Ym Môn, y gyfran gyfatebol yw 75.7 y cant, ac yng Ngheredigion hefyd mae cyfran uchel debyg o 72 y cant, gyda chanrannau uwch mewn llawer o ardaloedd gwledig y sir ond cyfran is yn Aberystwyth yn dod â chyfartaledd y sir i lawr.
Yn Sir Gâr, ar y llaw arall, hyd yn oed o blith y boblogaeth a aned yng Nghymru, prin eu hanner – 50.4 y cant – sy’n gallu siarad Cymraeg. Sir arall sy’n dangos gwahaniaeth amlwg yw Conwy, lle mae 41.4 y cant o’r boblogaeth a aned yng Nghymru yn gallu siarad Cymraeg, o gymharu â 25.9 y cant o’r boblogaeth gyffredinol.
Mae’n wir, wrth gwrs, nad ydi’r ffigurau hyn sy’n cyplysu mannau geni ac iaith yn rhoi darlun cyflawn inni. Y broblem fwyaf yw nad ydynt yn manylu ar fannau geni o fewn Cymru – sy’n golygu nad oes modd gwahaniaethu rhwng trigolion cynhenid ardal benodol a phobl sydd wedi symud yno o rannau eraill, mwy Seisnig o bosibl, o Gymru. Eto i gyd, o’u defnyddio gyda gofal, maen nhw o gymorth mawr wrth geisio asesu’r tueddiadau sydd ar waith mewn gwahanol ardaloedd. Maen nhw’n rhoi syniad clir i ba raddau mae gostyngiadau yn y canrannau sy’n gallu siarad Cymraeg i’w priodoli i newid iaith o fewn y gymdeithas, neu i ddisodli ddiwylliannol, sef newid yn natur y boblogaeth.
Yng Nghymru gyfan ar gyfartaledd, mymryn dros 70 y cant o’r boblogaeth a gafodd eu geni yma, gyda bron i dri chwarter y gweddill yn hanu o Loegr. Yn eironig, y sir sydd â’r gyfran isaf o’i phoblogaeth yn gallu siarad Cymraeg sydd hefyd â’r ganran uchaf o’i phoblogaeth wedi eu geni yng Nghymru. Er bod 87.7 y cant o boblogaeth Blaenau Gwent wedi eu geni yng Nghymru, dim ond 6.2 y cant sy’n gallu siarad Cymraeg yn y sir.
Yng Ngheredigion ar y llaw arall, y drydedd sir uchaf o ran ei chanran o siaradwyr Cymraeg, dim ond 53.5 y cant o’i phoblogaeth a aned yng Nghymru. Dim ond Powys a Sir y Fflint, lle mae’r gyfran gyfateb yn llai na’r hanner, sydd â chanran is.
Hyd yn oed yng Ngwynedd a Môn, yr unig ddwy sir lle mae mwy na hanner y boblogaeth yn gallu siarad Cymraeg, mae cyfran uwch na’r cyfartaledd cenedlaethol o’r trigolion yn hanu o’r tu allan i Gymru, sy’n cyfrif am fymryn dros fwy na thraean o’r boblogaeth yn y naill sir a’r llall. Yn Sir Gâr ar y llaw arall, mae cyfran uwch na’r cyfartaledd wedi eu geni yng Nghymru, sy’n cyfrif am bron i dri chwarter y boblogaeth - 73.5 y cant.
Yn ôl y Cyfrifiad, roedd 65,000 ledled Cymru o bobl a oedd yn gallu siarad Cymraeg er iddynt gael eu geni’r tu allan i Gymru. Nid yw’n syndod mai yn y tair sir fwyaf Cymraeg y mae’r canrannau uchaf o’r mewnfudwyr hyn yn gallu siarad Cymraeg, gyda chanrannau o 20.7 y cant yng Ngwynedd, 17.4 y cant ym Môn a 14.6 y cant yng Ngheredigion. Yn y tair sir hyn mae bron y cyfan o’r wardiau sydd â’r canrannau uchaf, gyda’r gyfran yn codi i tua thraean a mwy yn amryw o gadarnleoedd cryfaf Gwynedd. Mae’r gyfran yn is yn Sir Gâr ar 11.1 y cant, heb fod amrywiaeth mawr rhwng gwahanol ardaloedd o’r sir a’i gilydd. Powys yw’r un sir arall lle mae’n gymharol uchel ar 9.1 y cant, sy’n codi i bron i chwarter yn ward Banwy, Llanfihangel a Llanwddyn. Byddai’n deg dyfalu y gall fod nifer sylweddol o Gymry’r sir wedi eu geni dros y ffin yn Lloegr yn rhannol gyfrifol am hyn.