Yn ôl Cyfrifiad 2021, mae 7,366 o bobl yn gallu siarad Cymraeg yn sir Torfaen, sy’n cyfrif am ganran o 8.2 y cant o’r boblogaeth o 89,380.
Y sir fach a diwydiannol hon yw ardal fwyaf dwyreiniol maes glo de Cymru, ac mae wedi ei lleoli yng nghanol rhanbarth hanesyddol Gwent a’r sir Fynwy wreiddiol.
Cafodd ei ffurfio am y tro cyntaf fel un o gynghorau dosbarth Gwent yn 1974 cyn dod yn sir gyflawn yn 1996, a chaiff ei ffinio â siroedd Blaenau Gwent, Caerffili, Torfaen a Mynwy.
Ei phrif drefi yw Cwmbrân, Pontypŵl a Blaenafon, ac un o’i nodweddion pwysicaf yw safle treftadaeth byd hen weithiau haearn Blaenafon sy’n dathlu pwysigrwydd yr ardal fel crud y chwyldro diwydiannol.
Erbyn troad yr ugeinfed ganrif, prin oedd olion y Gymraeg yn y sir. Yn ôl Cyfrifiad 1901, tua 6.5% o boblogaeth yr ardal sy’n cyfateb yn fras i’r sir bresennol a oedd yn gallu siarad Cymraeg. Dim ond ardal Dosbarth Trefol Blaenafon sy’n dangos tystiolaeth sylweddol o’r newid ieithyddol a oedd eisoes wedi digwydd yno. Yn y dref honno o 10,000 o drigolion, roedd 39.6% o bobl dros 65 oed yn gallu siarad Cymraeg, llai nag 1% o’r plant oedd yn gallu’r iaith.
Yn is i lawr y cwm, ac yng ngweddill ardal y sir bresennol, isel iawn yw’r canrannau a oedd yn gallu siarad Cymraeg ym mhob grŵp oedran, er ei fod fymryn yn uwch ymhlith y bobl dros 65.
Wrth sôn am bobl dros 65 oed yn 1901, mae’n werth cofio mai pobl oedd y rhain a aned cyn 1836, sy’n awgrymu bod y broses o Seisnigeiddio wedi cychwyn yn gynnar iawn yn y sir.
Drwy gydol yr ugeinfed ganrif, aros yn weddol gyson a wnaeth niferoedd a chanrannau’r rheini a oedd yn gallu siarad Cymraeg yn sir, gan aros oddeutu 2% o holl drigolion ardal y sir bresennol.
Gwelwyd cynnydd dramatig, fodd bynnag, yng nghyfrifiad 2001, pryd y cododd y ganran i 10.7%. Cododd y niferoedd a oedd yn gallu siarad Cymraeg o ychydig dros 2,000 yn 1991 i dros 9,000 yn 2001. Roedd y cynnydd hwn i’w briodoli bron yn gyfangwbl i’r cynnydd ymhlith plant. Yn ôl y Cyfrifiad, roedd bron i 70 y cant o holl siaradwyr Cymraeg y sir yn blant rhwng 3 a 15 oed, gan gyfrif am 39.6 y cant o gyfanswm y grŵp oedran hwnnw yn y sir.
Gwelwyd patrwm tebyg yng Nghyfrifiad 2011, er bod y niferoedd a’r canrannau wedi gostwng ychydig. Erbyn hynny, 36.7 y cant o’r plant a oedd yn medru siarad Cymraeg, a thrwy fod lleihad o 1,400 yn eu niferoedd, roedd cyfanswm siaradwyr Cymraeg y sir i lawr i 8,641 gan ffurfio 9.8 y cant o’r boblogaeth.
Fel yn llawer o’r siroedd cyfagos, gostyngodd nifer siaradwyr Cymraeg Torfaen rhwng 2011 a 2021, a hynny bron yn gyfan gwbl oherwydd colledion ymysg plant.
Collwyd bron i 1,300 yn niferoedd siaradwyr Cymraeg ers 2011, wrth i’r ganran ostwng o 9.8 i 8.2 y cant.
Lleihad o fwy na 1,500 yn nifer y plant 3-15 oed yn mwy na chyfrif am hyn, wrth i’w cyfran ostwng o 36.7 i 25.5 y cant. Yn ogystal, mae gostyngiad llai o bron i 300 ymysg pobl ifanc 16-24 yn ychwanegu at y colledion.
Yr unig grwp i ddangos cynnydd sylweddol yw 25-34 oed sydd i fyny dros 300, ac mae cynnydd o 100 ymysg pobl 35-49. Ni welwyd fawr o newid yn y gallu i siarad Cymraeg ymysg pobl dros 50 oed fodd bynnag.