Sir y Fflint


Hafan > Siroedd > Sir y Fflint

Show Toolbar
  • Show Caption
  • Hide Thumbmails
  • hafan sir y Fflint
  • Show Categories
  • Play Slide Show
  • Display in Full Screen
  • Hide Toolbar
Siart Sir y Fflint
 
 
  • Siart Sir y Fflint
  • graff llinell sir y Fflint
  • bar chart sir y Fflint

Er nad yw sir bresennol y Fflint, a gafodd ei ffurfio yn 1996, ond rhan ddwyreinol o’r sir hanesyddol wreiddiol, dyma sir fwyaf poblog y gogledd bellach, ar ôl twf cyson ar hyd y blynyddoedd.

Prif drefi’r sir bresennol yw’r Fflint, Treffynnon, yr Wyddgrug, Bwcle a Chei Connah.

Allan o gyfanswm o 155,000 o boblogaeth 3 oed a throsodd, roedd 17,429 yn gallu siarad Cymraeg, sy’n cyfrif am 11.6 y cant o’r boblogaeth dros 3 oed. Yn ogystal, roedd 7,500 yn rhagor yn gallu deall Cymraeg.

Llai na hanner y boblogaeth – 48 y cant – sydd wedi eu geni yng Nghymru, gyda Phowys yr unig sir â chanran fymryn is. O Loegr y mae 44 y cant arall yn hanu, er bod cyfran uwch na’r cyfartaledd, tua 5 y cant, yn dod o wledydd yr Undeb Ewropeaidd.

Ar droad yr ugeinfed ganrif, nid oedd poblogaeth yr ardal sy’n cyfateb yn weddol agos â’r sir bresennol ond ychydig dros draean yr hyn yw heddiw. O’r 56,161 o’r trigolion hyn dros 3 oed, roedd bron eu hanner yn gallu siarad Cymraeg, yn ôl Cyfrifiad 1901. 

Mae’n amlwg nad oedd y ffin rhwng Cymru a Lloegr yn adlewyrchu’r ffin ieithyddol hyd yn oed bryd hynny, gyda mwyafrifoedd llethol Dosbarthiadau Trefol Bwcle a Chei Connah yn ddi-Gymraeg, a’r rhan fwyaf hefyd o Ddosbarth Gwledig Penarlâg. Er hyn, roedd bron i hanner poblogaeth tref y Fflint (48.1 y cant), mwyafrif trigolion yr Wyddgrug (59.3 y cant) a Threffynnon (69.8 y cant). Yn Nosbarth Gwledig Treffynnon, lle’r oedd tua 40 y cant o holl drigolion y sir yn byw, roedd mwyafrif mawr (78.2 y cant) yn gallu’r iaith. 

Roedd yn amlwg fod newid iaith wrthi’n digwydd yn y Fflint, lle’r oedd llai na thraean o’r plant 3-14 y gallu siarad Cymraeg o gymharu â dau draean o’r holl boblogaeth dros 45 oed. Roedd i’w weld i raddau llai yn yr Wyddgrug hefyd, lle’r oedd 41.5 y cant o blant 3-14 oed yn gallu siarad Cymraeg o gymharu â 71.2 y cant o bobl 45-64 oed a 83.1 y cant o bobl dros 65. Yn Nosbarth Gwledig Treffynnon ar y llaw arall, roedd mwyafrifoedd clir o dros 70 y cant ym mhob oedran yn gallu siarad Cymraeg.

Erbyn Cyfrifiad 1911, roedd poblogaeth ardal y sir bresennol wedi codi i 64,757, ond nifer y siaradwyr Cymraeg wedi aros yn eu hunfan, gyda’u canran yn gostwng i 42.5 y cant o’r boblogaeth. Erbyn hynny roedd y newid ieithyddol yn parhau yn nhrefi’r Wyddgrug a’r Fflint, a phatrwm tebyg yn dechrau dod i’r amlwg yn Nhreffynnon hefyd. Ar y llaw arall, ychydig iawn o newid oedd i’w weld yn Nosbarth Gwledig Treffynnon. 

1961-1991

Dros yr hanner canrif dilynol, tyfu’n gyson a wnaeth poblogaeth ardal y sir bresennol, fel bod 97,478 yn byw yma erbyn 1961. Lleihau a wnaeth nifer y siaradwyr Cymraeg, fodd bynnag, i ychydig dros 18,000 a’u canran bellach wedi gostwng i 18.7 y cant o’r boblogaeth.

Llai na 20 y cant a oedd yn gallu siarad Cymraeg yn nhrefi’r Fflint a’r Wyddgrug bellach, a’r ganran yn Nosbarth Gwledig Treffynnon hefyd wedi gostwng yn is na’r hanner i 41.2 y cant. Plwyfi Caerwys, Llanasa, Trelawnyd ac Ysgeifiog oedd yr unig rai lle’r oedd mwyafrif yn gallu’r iaith bellach. Roedd y newid ieithyddol yn amlwg ym mhatrwm oedran yr ardal hon, gyda llai na chwarter y plant dan 10 oed yn gallu siarad Cymraeg o gymharu â bron i hanner yr holl bobl dros 45 oed.

Erbyn 1971, roedd poblogaeth ardal y sir bresennol wedi tyfu ymhellach i 115,000, ond nifer y siaradwyr Cymraeg wedi gostwng i 15,900 ac i 13.8 y cant o’r boblogaeth. Nid oedd yr un plwyf yn y sir bellach â mwyafrif yn siarad Cymraeg.

Cododd nifer y siaradwyr Cymraeg fymryn yn y ddau ddegawd dilynol, i 18,403 yng Nghyfrifiad 1991, ond gan fod y boblogaeth gyffredinol wedi parhau i dyfu, arhosodd y gyfran rywbeth yn debyg ar 13.5 y cant.

Collwyd dros 1,900 o siaradwyr Cymraeg yn y sir rhwng 2011 a 2021, gan beri i’r ganran ostwng o 13.2 i 11.6 y cant. Mae hyn yn dilyn colled o tua 900 arall rhwng 2001 a 2011.

Ymysg plant 3-15 oed y bu bron y cyfan o’r colledion rhwng 2011 a 2021, gyda’u niferoedd wedi gostwng 1,750. Mae’r ganran hefyd i lawr yn sylweddol, o 32.5 y cant yn 2011 i 25.0 y cant yn 2021.

Bach iawn fu’r newid ymysg oedolion, gyda cholled o bron i 300 ymysg pobl 35-49 oed, a chynnydd o nifer tebyg yn yr oedran 50-64 oed.

Yn ward De’r Wyddgrug y mae’r ganran uchaf o siaradwyr Cymraeg, gydag ychydig dros chwarter y boblogaeth, 26.4 y cant, yn gallu’r iaith. Mae’r wardiau eraill sydd â chanrannau uwch na’r cyfartaledd yn rhan orllewinol y sir, fel Caerwys (18.5 y cant), Cilcain (16.7 y cant), Llanasa a Trelawnyd (17.1 y cant), Treuddyn (20.7 y cant) a Chwitffordd (17.7 y cant).

Llai na 10 y cant ar y llaw arall sy’n gallu siarad Cymraeg yn ardaloedd Brychdyn, Cei Connah, Penarlâg, Queensferry a Shotton gerllaw’r ffin â Lloegr.