Hafan > Siroedd > Sir Gaerfyrddin
Er nad oes ond tair sir â chanrannau uwch na hi’n gallu siarad Cymraeg, Sir Gâr sydd wedi profi’r lleihad mwyaf - o ran niferoedd yn ogystal â chanrannau - dros yr 20 mlynedd ddiwethaf.
Yn ôl Cyfrifiad 2021, mae’r ganran o’i phoblogaeth sy’n gallu siarad Cymraeg wedi gostwng fymryn o dan 40 y cant bellach, gydag 11 y cant ychwanegol yn nodi eu bod yn deall yr iaith.
Er hyn dim ond Gwynedd sydd â chyfanswm uwch na’i 72,842 o siaradwyr Cymraeg, ac yma mae’r cyfanswm o bron i 20,000 o bobl sy’n deall Cymraeg llafar yn unig yr uchaf o bell ffordd yng Nghymru.
Dyffryn Tywi, sy’n ymestyn o Lyn Brianne yn y gogledd i lawr trwy drefi Llanymddyfri, Llandeilo a Chaerfyrddin at y môr ger Llansteffan, sy’n ffurfio rhan helaethaf o’i harwynebedd. Mae ei hardal wledig hefyd yn cynnwys ochr ddwyreiniol Dyffryn Teifi o Gwmann i lawr i Genarth ac yn ymestyn at Hendygwyn ar Daf gerllaw’r ffin â Sir Benfro yn y gorllewin.
Mae hefyd yn cynnwys ardal ddiwydiannol helaeth sy’n cynnwys cymoedd Aman a Gwendraeth a’r arfordir de-ddwyreiniol o gwmpas tref Llanelli.
Yn rhai o bentrefi Cwm Gwendraeth mae rhai o’r canrannau uchaf sy’n gallu siarad Cymraeg ym mhobman i’r de o Wynedd; ar y llaw arall mae ardaloedd eraill cyfagos lle mae tystiolaeth o newid iaith sydd wedi digwydd ers degawdau.
Mae bron i dri chwarter trigolion y sir wedi eu geni yng Nghymru, cyfran sylweddol uwch nag yn siroedd eraill y gorllewin, er bod y ganran a aned yn Lloegr wedi codi ychydig hefyd. Hyd yn oed o blith y boblogaeth a aned yng Nghymru, fodd bynnag, dim ond mymryn dros eu hanner - 50.4 y cant - sy'n gallu siarad Cymraeg.
Er mai yn 1996 y daeth y sir bresennol i rym, mae’n dilyn union yr un ffiniau â’r hen Sir Gâr a oedd yn un o 13 sir wreiddiol Cymru tan 1974. Golyga hyn fod modd gwneud cymariaethau cywir â sefyllfa o un cyfrifiad i’r llall.
Hyd yn oed ar droad yr ugeinfed ganrif, pan oedd 90.3 y cant o’i thrigolion yn gallu siarad Cymraeg, roedd y cyfrannau o Gymry uniaith yn is na’r hyn oeddent yn siroedd Aberteifi, Meirionnydd, Caernarfon a Môn, yn enwedig yn yr ardaloedd diwydiannol. Yn ardaloedd Dosbarthiadau Gwledig Llandeilo a Llanelli, er enghraifft, sef ardal y glo carreg, roedd tua 40 y cant o’r trigolion yn uniaith Gymraeg yn ôl Cyfrifiad 1901. Er bod hyn yn gyfran sylweddol o’r boblogaeth, roedd yn cymharu â bron i dri chwarter yn Nosbarth Gwledig Gwyrfai a dai draean yn Nosbarth Trefol Bethesda yn ardal chwareli llechi Sir Gaernarfon.
Er bod mwyafrifoedd llethol yn gallu siarad Cymraeg ym mhob rhan o’r sir, roedd y canrannau ychydig yn is yn y trefi. Roedd y canrannau uchaf o ddigon o Gymry uniaith yn nyffryn Teifi – 73.3 y cant yn Nosbarth Gwledig Castellnewydd Emlyn a 67.7 y cant yn Nosbarth Gwledig Llanybydder – ac yn ddigon tebyg i’r hyn oeddent dros y ffin yng Ngheredigion.
Yn ystod degawd cyntaf yr ugeinfed ganrif, profodd Sir Gâr gynnydd o dros 23,000 yn ei phoblogaeth i tua 150,000, ac er i nifer y siaradwyr Cymraeg hefyd godi, gostyngodd y ganran i 85.0 y cant o’r boblogaeth. Llanelli oedd y dref fwyaf gyda bron i 30,000 o boblogaeth, gyda 77.3 y cant ohonynt yn siarad Cymraeg. Er bod hyn yn ganran uchel, roedd yn sylweddol is na’r hyn oedd yn ardaloedd gwledig y sir, ac yn golygu presenoldeb cymharol sylweddol o bobl ddi-Gymraeg.
Fel yng ngweddill y siroedd gorllewinol, bu gostyngiad sylweddol yn nifer Cymry uniaith y sir, a oedd bellach yn ffurfio tua 20 y cant o’r boblogaeth, er bod hyn yn codi i hanner ym mhoblogaethau dosbarthiadau gwledig Dyffryn Teifi.
Wrth droi at gyfnod mwy diweddar, roedd Sir Gâr yn un o bedair sir yng Nghymru yn 1961 gyda thri chwarter eu trigolion yn gallu siarad Cymraeg. Siroedd Aberteifi, Meirionnydd a Môn oedd y tair arall, gyda chanran ychydig yn is o 68 y cant yn Sir Gaernarfon, lle’r oedd Seisnigrwydd trefi glan-môr Conwy a Llandudno yn dod â’r ganran i lawr. Dros yr hanner canrif dilynol, gwelodd Sir Gâr ostyngiad mwy na’r un o’r siroedd eraill, wrth iddi golli 40 y cant o’i siaradwyr Cymraeg erbyn 2021.
Er y gyfran uchel iawn o siaradwyr Cymraeg yn Sir Gâr yn 1961, roedd rhywfaint o arwyddion o ddirywiad o dan yr wyneb, a fyddai’n eu hamlygu eu hunain mewn degawdau i ddod. Roedd canrannau sylweddol is o blant yn gallu siarad Cymraeg o gymharu â chenedlaethau hŷn. Ychydig dros hanner (51.9 y cant) o blant 3-4 oed a oedd yn gallu siarad Cymraeg, ac er bod y ganran yn codi i 62.5 y cant ymhlith plant 5-9 oed a 68.8 y cant o blith plant 10-14 oed, roedd hyn yn cymharu â 82 y cant ymhlith yr holl boblogaeth dros 45 oed.
Roedd dylanwad hyn yn amlwg erbyn y Cyfrifiad nesaf yn 1971, gyda chwymp o dros 16,000 yn nifer y siaradwyr Cymraeg, a’u canran i lawr i ddau draean (66.5 y cant) o gymharu â thri chwarter 10 mlynedd ynghynt. Gydag anghydbwysedd tebyg yn oedrannau’r siaradwyr Cymraeg, parhau a wnaeth y tueddiad dros y degawdau canlynol, gyda’r canrannau’n gostwng yn gyson, i 59.2 y cant yn 1981, 54.8 y cant yn 1991, i fymryn dros yr hanner (50.1 y cant) erbyn 2001 cyn gostwng i 43.9 y cant erbyn 2011 a 39.9 y cant erbyn 2021.
Collwyd 5,200 o siaradwyr Cymraeg yn y sir rhwng 2011 a 2021, ar ôl colled debyg o 5,800 rhwng 2001 a 2011, sy’n golygu lleihad o 11,000 mewn 20 mlynedd.
Mae pob grwp oedran, ac eithrio pobl ifanc rhwng 25 a 34 yn dangos lleihad, gyda’r colledion mwyaf i’w gweld ymysg pobl rhwng 35 a 64 oed. Ymysg y grwpiau oedran hyn mae’r canrannau lleiaf yn y sir bellach, gydag ond tua thraean ohonynt yn gallu siarad Cymraeg. Mae’r gyfran sy’n gallu’r iaith yn codi ymysg y to hŷn, i 36.0 y cant o bobl rhwng 65 a 74 oed a 45.0 y cant ymhlith pobl dros 75.
Er mai cymharol fach fu’r colledion ymhlith plant, roedd colledion sylweddol ymysg pobl ifanc 16-24, gyda’u niferoedd bron i 1,500 yn is na’r hyn oedd yn 2011. Er bod cwymp wedi bod yn niferoedd siaradwyr Cymraeg y grwp hwn yn gyffredinol ledled Cymraeg, mae’r ganran wedi codi rywfaint.
Mae’n amlwg fod llawer o dueddiadau cymhleth ar waith yn Sir Gâr ac nid oes obaith eu deall heb fod yn edrych ar wahanol ardaloedd ohoni ar wahân.
Mae’r ardal hon, sy’n cynnwys cymunedau Llanelli, Llanelli Wledig, Llangennech, Porth Tywyn a Trimsaran, wedi dilyn patrwm o ostyngiadau cyson mewn niferoedd a chanrannau dros y degawdau diwethaf sy’n ddigon tebyg i’r hyn a welwyr mewn llawer rhan o Forgannwg yn y gorffennol.
Collwyd 1,500 o siaradwyr Cymraeg yn yr ardal hon dros y 10 mlynedd ddiwethaf, ar ben colled arall o dros 2,000 dros y 10 mlynedd cyntaf. Mae’r ganran sy’n gallu’r iaith yno i lawr i 28.1 y cant, o gymharu â 30.9 y cant yn 2011 a 36.8 y cant yn 2001. Mae rhan helaeth o’r esboniad am y cwymp i’w weld yn ffigurau Cyfrifiad 2011, pryd roedd dros 40 y cant o bobl dros 65 oed yn gallu siarad Cymraeg yn yr ardal o gymharu â llai na 30 y cant ym mhob grwp arall o oedolion.
Os edrychwn ar bentrefi ardaloedd y glo carreg gyda’i gilydd, gwelwn ardal ac iddi gyfanswm poblogaeth o tua 45,000 lle mae’r gyfran sy’n gallu siarad Cymraeg wedi gostwng o ddau draean i ychydig dros hanner mewn 20 mlynedd. Yr unig gymuned a ward lle mae’r ganran yn codi i 60 y cant yw Pontyberem.
Gyda rhwng 75 ac 80 y cant o bobl yr ardaloedd hyn wedi eu geni yng Nghymru, mae’n annhebygol y gellir priodoli’r dirywiad yn yr iaith i fewnfudo, er y gall symudiad poblogaeth ddi-Gymraeg iddynt o ardaloedd fel Llanelli ac Abertawe gerllaw fod yn ffactor. Ar yr un pryd, roedd y patrwm oedran hefyd yn dangos, fel yn ardal Llanelli, cyfran rhywfaint uwch o bobl dros 65 oed na grwpiau eraill o oedolion yn gallu siarad Cymraeg.
Yn ardaloedd gwledig Sir Gâr, mae’r cymunedau mwyaf Cymraeg i’w gweld ar gyrion tref Caerfyrddin a hefyd yn rhannau o ddyffryn Teifi, fel Castellnewydd Emlyn, Llanfihangel ar Arth, Llanllwni a Pencarreg. Mae olion o ddirywiad gwaeth i’w weld ym mhen uchaf dyffryn Tywi, gyda chymunedau Llanyddymddyfri, Llanddeusant, Myddfai a Llanfair ar y Bryn i gyd yn dangos canrannau is na 40 y cant.
Mae tystiolaeth amlwg o newid poblogaeth, fel yng Ngheredigion, yn amlwg hefyd mewn amryw o wardiau gwledig fel Cilycwm, Manordeilo a Salem a Cenarth, lle mae dros 40 y cant o'r boblogaeth yn hanu o'r tu allan i Gymru.
Rhan fwyaf Seisnig y sir yw’r de-orllewin sy’n ffinio â de Sir Benfro, yn enwedig o gwmpas Talacharn, Llanddowror a Pentywyn. Lleiafrif yn unig hefyd sy’n gallu siarad Cymraeg yn Hendy-gwyn (39.3 y cant ) a San-clêr (47.3 y cant).
Collwyd cyfanswm o 2,130 o siaradwyr Cymraeg o’r ardaloedd gwledig, er na fu’r gostyngiad lawn cymaint mewn canran, yn sgil lleihad yn y boblogaeth.
Mae tref Caerfyrddin hefyd, lle mae’r Gymraeg yn sylweddol wanach nag yn yr ardaloedd gwledig iddi, wedi gweld patrwm o ddirywiad digon tebyg i weddill y sir ar ôl colli bron i 600 o siaradwyr Cymraeg ers dechrau'r ganrif. Traean yn unig o drigolion y dref sy’n gallu siarad Cymraeg bellach, o gymharu â 37.6 y cant yn 2011 a 42.8 y cant yn 2001.