Sir Fynwy


Hafan > Siroedd > Sir Fynwy

Show Toolbar
  • Show Caption
  • Hide Thumbmails
  • Show Categories
  • Play Slide Show
  • Display in Full Screen
  • Hide Toolbar

pie chart sir Fynwy
 
 
  • pie chart sir Fynwy
  • graff llinell sir Fynwy
  • bar chart sir Fynwy

Dyma sir fwyaf ddwyreiniol Cymru, lle’r oedd 8.7 y cant o’r boblogaeth o 90,700 yn gallu siarad Cymraeg yn ôl Cyfrifiad 2021. Roedd 2.5 y cant yn ychwanegol yn deall yr iaith.

Nid yw’r sir bresennol a ddaeth i fodolaeth yn 1996 ond rhan o’r Sir Fynwy wreiddiol a oedd ymestyn dros siroedd presennol Torfaen, Casnewydd, Blaenau Gwent a rhan ddwyreiniol sir Caerffili yn ogystal.

Mae’r Sir Fynwy bresennol yn bennaf wledig ei naws ac yn gorwedd yn union y tu allan i faes glo de Cymru, gan ymestyn o’r Fenni yn y gorllewin ar draws i Drefynwy, ac oddi yno mae afon Gwy yn ffurfio’r ffin rhyngddi a Lloegr nes mae’n llifo i afon Hafren ychydig i’r de o Gas-gwent.

Mae’r sir wedi dangos twf cyson a sylweddol mewn poblogaeth dros yr hanner canrif ddiwethaf. Mae 58 y cant o’i phoblogaeth wedi eu geni yng Nghymru, o gymharu â 35 y cant a aned yn Lloegr.

Erbyn troad yr ugeinfed ganrif, yn ôl tystiolaeth Cyfrifiad 1901, dim ond yn ardal y Fenni roedd unrhyw olion o bresenoldeb y Gymraeg yn y sir Fynwy bresennol. Bryd hynny, roedd poblogaeth yr ardaloedd sy’n cyfateb â’r sir bresennol yn llai na hanner yr hyn yw heddiw gan na welwyd yma ddim o’r twf a ddigwyddodd yn y cymoedd diwydiannol i’r gorllewin iddi.

Llai na 5 y cant a oedd yn gallu siarad Cymraeg yn ardal y sir bresennol, a’r canrannau’n gostwng i lai na 3 y cant yn nhrefi ac yn Nosbarthiadau Gwledig Trefynwy a Chasgwent, ac yn nhref Brynbuga. Yn fwy dadlennol, roedd y canrannau rywbeth yn debyg ymhlith pob grwp oedran, gan gynnwys pobl dros 65 oed, sy’n awgrymu bod y Gymraeg wedi diflannu ers amser maith.

Ar y llaw arall, roedd ychydig dros 10 y cant y gallu siarad Cymraeg yn Nosbarth Gwledig y Fenni, er bod dosbarthiad yr iaith ymysg y grwpiau oedran yn dangos na fyddai hynny’n parhau’n hir. Roedd bron i chwarter y trigolion a oedd dros 65 yn gallu siarad Cymraeg, ond y ganran yn gostwng i 15 y cant ymysg pobl 45-64 oed, ac i ychydig dros 5 y cant ymhlith pobl ifanc 15-24 oed a 3.8 y cant o blant 3-14 oed. Mae’r cyfan yn awgrymu bod y broses o Seisnigeiddio wedi cychwyn yn gynnar yn y ganrif cynt. 

Erbyn Cyfrifiad 1911, gyda chynnydd bach ym mhoblogaeth ardal y sir bresennol, collwyd tua chwarter siaradwyr Cymraeg Dosbarth Gwledig y Fenni, a pharhau i ostwng roedd y canrannau ym mhob grwp oedran yno.  

Ychydig iawn o newid ieithyddol a welwyd yn ardal y sir bresennol drwy’r rhan fwyaf o weddill yr ugeinfed ganrif. Erbyn Cyfrifiad 1961, gyda phoblogaeth ardal y sir bresennol wedi codi i tua 55,000, dim ond 2.4 y cant o’r trigolion a allai siarad Cymraeg, a’r ganran yn Nosbarth Gwledig y Fenni heb fod yn ddim uwch nag yng ngweddill y sir.

Y degawdau diwethaf

Erbyn Cyfrifiad 1991, a phoblogaeth ardal y sir bresennol wedi codi i 77,000, aros fwy neu lai yn ei unfan a wnaeth cyfanswm y siaradwyr Cymraeg ar ychydig dros 1,500. Er bod ardaloedd eraill yn y de-ddwyrain wedi profi twf yn nifer y plant a allai siarad Cymraeg erbyn Cyfrifiad 1991, llai na 2 y cant o blant 3-15 oed a allai siarad yr iaith yn Sir Fynwy.

Newidiodd y sefyllfa’n bur ddramatig erbyn Cyfrifiad 2001, fodd bynnag, gyda nifer siaradwyr Cymraeg y sir wedi cynyddu bron i bum gwaith i ychydig o dan 7,500, gan ffurfio 9.0 y cant o’r boblaeth. Plant 3-15 oed oedd dau draean siaradwyr Cymraeg y sir, gan ffurfio mwy na thraean o’u grwp oedran.

Er gwaethaf lleihad cyffredinol yn nifer y plant yn negawd cyntaf y ganrif hon, parhau i gynyddu wnaeth nifer y plant a allai siarad Cymraeg yn Sir Fynwy. Erbyn Cyfrifiad 2011, roedd 38.6 y cant o blant y sir yn gallu siarad Cymraeg, a nifer siaradwyr Cymraeg y sir wedi codi bellach i 8,780 a oedd fymryn o dan 10 y cant o’r boblogaeth.

Er i Sir Fynwy gofnodi dros 900 yn llai o siaradwyr Cymraeg yng Nghyfrifiad 2021 o gymharu â 10 mlynedd ynghynt, mae’r cyfanswm o 7,866 yn dal fymryn yn uwch na’r hyn oedd yn 2001. O’i osod mewn cyd-destun ehangach, mae hefyd bron i bum gwaith yn uwch na chyfanswm cyfatebol o 1,666 yn 1991.

Ymysg plant mae’r newidiadau mawr wedi bod yn y 30 mlynedd oddi ar hynny.

Cododd nifer y plant 3-15 oed a oedd yn gallu siarad Cymraeg yn y sir o 239 yn 1991 i 4,938 yn 2001 – cynnydd o dros 20 gwaith, a chododd y ganran o 1.9 y cant i 34.3 y cant. Parhau a wnaeth y cynnydd wedyn dros y 10 mlynedd ganlynol, fel bod 38.6 y cant o’r plant yn gallu siarad Cymraeg erbyn 2011. Erbyn 2021, gwelwyd lleihad o bron i 1,500 yn nifer y plant a allai siarad Cymraeg, a gostyngodd y ganran i 30.2 y cant. Cynnydd bach yng ngrwpiau oedran yr oedolion sydd wedi lleihau'r gostyngiad cyffredinol i 900.

Prin fod disgwyl i’r twf a gofnodwyd rhwng 1991 a 2001 fod yn gynaliadwy, yn enwedig o gofio bod dau draean o holl siaradwyr Cymraeg y sir yn 2001 yn 15 oed neu’n iau.