Hafan > Siroedd > Sir Ddinbych
Roedd bron i 21,000 allan o gyfanswm poblogaeth o 93,000 yn gallu siarad Cymraeg yn 2021, gan ffurfio canran o 22.5 y cant. Roedd bron i 7,500 eraill, yn ffurfio 8 y cant o’r boblogaeth, yn deall Cymraeg.
Cafodd 59 y cant o’r boblogaeth eu geni yng Nghymru, o gymharu â 35 y cant yn Lloegr.
Dyffryn Clwyd, gyda Dinbych a Rhuthun yn brif drefi iddo, sy’n ffurfio’r rhan fwyaf o arwynebedd y sir hon, er mai yn nhrefi arfordirol y Rhyl a Prestatyn mae’r rhan fwyaf o’r boblogaeth. Mae’r sir yn ymestyn hefyd i lawr i ardal Edeirnion a rhan uchaf Dyffryn Dyfrdwy cyn belled â Llangollen i’r dref.
Nid yw’r sir bresennol ond rhan o’r Sir Ddinbych wreiddiol a arferai ymestyn o Ddyfryn Conwy yr holl ffordd i’r ffin gan gynnwys Wrecsam. Mae hi hefyd yn cynnwys rhan helaeth o orllewin hen Sir y Fflint – gan greu dryswch gyda sir newydd y Fflint yn ogystal. Ar ben hyn, hhan o’r hen Sir Feirionnydd oedd ardal Edeirnion yn ne-orllewin y sir yn wreiddiol, er ei bod wedi ei chyplysu ag ardal y sir bresennol ers 1974.
Gan fod y sir bresennol yn ganlyniad i newidiadau cymharol gymhleth mewn ffiniau, ni ellir gwneud cymariaethau manwl gywir a hi ymhellach yn ôl na’r ychydig ddegawdau diwethaf. Er hynny, gallwn wneud amcangyfrifon ar sail ardal a fyddai’n cyfateb yn fras iddi ar droad yr ugeinfed ganrif.
O edrych ar ffigurau Cyfrifiad 1901, gallwn amcangyfrif fod poblogaeth dros 3 oed ardal sy’n cyfateb i’r sir bresennol tua 43,500, gyda tua 78 y cant ohonynt yn gallu siarad Cymraeg, a 22 y cant yn uniaith Gymraeg.
Dim ond yn ardal Dosbarth Trefol y Rhyl roedd llai na hanner y trigolion yn gallu siarad Cymraeg, a hynny ddim ond o drwch blewyn – 49.1 y cant. Ychydig dros 8,000 o bobl oedd yn byw yn y dref lan-môr hon bryd hynny – prin draean yr hyn yw heddiw – a thref fach iawn oedd Prestatyn gerllaw lle nad oedd brin 1,200 o bobl yn byw, a 62 y cant ohonynt yn siarad Cymraeg.
Yn Nyffryn Clwyd, roedd mwyafrifoedd llethol yn siarad Cymraeg, gan gynnwys trefi Dinbych (86 y cant) a Rhuthun (84.5 y cant), gan godi i 91.6 y cant yn ardal Dosbarth Gwledig Rhuthun. Yma, fel yn Edeirnion, roedd heb fod ymhell i hanner y boblogaeth yn uniaith Gymraeg.
Roedd y ganran a allai siarad Cymraeg yn Llangollen ychydig yn is (70.7 y cant), a'r un peth yn wir i raddau llai am ardal wledig gwaelod Dyffryn Clwyd, gyda 78 y cant yn gallu siarad Cymraeg yn Nosbarth Gwledig Llanelwy.
Gwelwyd cynnydd cymharol fach yn ardal y sir bresennol rhwng 1901 a 1911, gyda’r boblogaeth yn codi i tua 46,000, ond yn sgil lleihad bach yn nifer y siaradwyr Cymraeg aeth eu canran i lawr i tua 72 y cant.
Erbyn Cyfrifiad 1961, hanner canrif yn ddiweddarach, roedd tro ar fyd wedi digwydd. Bellach, gyda phoblogaeth ardal y sir bresennol wedi cynyddu i tua 71,000, dim ond 39.1 y cant o’r trigolion oedd yn gallu siarad Cymraeg. Cwymp cymharol fach o ychydig dros 5,000 a fu yn y niferoedd, fodd bynnag.
Gellir priodoli’r Seisnigo yn rhannol i leihad cyffredinol yn y canrannau a allai siarad Cymraeg ledled y sir, ond hefyd i dwf mawr yn nhrefi Seisnig y Rhyl a Prestatyn, lle nad oedd ond tua 18 y cant yn gallu’r iaith. Roedd y Rhyl bellach â phoblogaeth o dros 20,000 a Prestatyn â thros 10,000.
Roedd mwyafrifoedd clir yn dal i allu siarad Cymraeg yn nhrefi a chefn gwlad Dyffryn Clwyd, er bod y canrannau i lawr yn sylweddol: 67.5 y cant yn Ninbych, 57.4 y cant yn Rhuthun a 65.8 y cant yn Nosbarth Gwledig Rhuthun.
Roedd y canrannau wedi plymio i lawr i 33.4 y cant yn Llangollen fodd bynnag, ac i lawr i 35.3 y cant yn Nosbarth Gwledig Llanelwy, lle nad oedd y boblogaeth ymhell o fod wedi dyblu dros yr hanner canrif flaenorol.
Edeirnion oedd ardal Gymreiciaf y sir bresennol o ddigon (er ei bod yn rhan o Sir Feirionnydd ar y pryd), gyda 81.8 y cant o boblogaeth yr ardal wledig yn gallu’r iaith.
Erbyn Cyfrifiad 1971, roedd y boblogaeth dros 3 oed wedi cynyddu i dros 76,000, ond nifer y siaradwyr Cymraeg yn gostwng dros 3,000 i 24,600, a’u canran i lawr i 32.3 y cant o’r boblogaeth.
Roedd y gostyngiad sylweddol hwn i’w weld ym mhob rhan o ardal y sir, gyda’r gyfran a allai siarad Cymraeg yn Nyffryn Clwyd bellach yn 55.8 y cant yn Ninbych, 58.5 yn Nosbarth Gwledig Rhuthun ac i lawr fymryn yn is na’r hanner i 49.7 y cant yn nhref Rhuthun.
Wrth i boblogaeth ardal y sir bresennol barhau i gynyddu dros yr 20 mlynedd dilynol, dal i ostwng wnaeth canran y siaradwyr Cymraeg. Erbyn Cyfrifiad 1991, 26.7 y cant o’r boblogaeth o ychydig 87,000 o bobl dros 3 oed a allai siarad Cymraeg, gyda'u nifer hefyd wedi lleihau tua 1,200 dros yr 20 mlynedd ers 1971.
Mae’r cyfanswm o 20,942 sy’n gallu siarad Cymraeg yn y sir yn cynrychioli gostyngiad o tua 1,300 o gymharu â 2011, a gostyngad o 1,300 arall ers 2001. Yn yr un modd mae’r ganran ddiweddaraf o 22.5 y cant yn cymharu â 24.6 y cant yn 2011 a 26.1 y cant yn 2001.
Mae nifer y plant 3-15 oed y cofnodwyd eu bod yn gallu siarad Cymraeg dros 900 yn is na’r hyn oedd yn 2011, a’r ganran i lawr o 43.1 y cant o 35.3 y cant. Bellach, mae nifer a chanran y plant sy’n gallu siarad Cymraeg yn ôl yn debyg iawn i’r hyn oedd yn 1991.
Cafwyd dros 500 o ostyngiad ymhlith pobl 35-49 oed hefyd, er bod y ganran wedi codi fymryn yn sgil lleihad ym mhoblogaeth gyffredinol y grwp oedran hwn.
Cymharol ychydig fu’r newid ymhlith pobl dros 50 oed ers 2011, er bod y canrannau ymhlith yr oedrannau hyn wedi gostwng sylweddol ar yr hyn oeddent yn 2001 a 1991.
Mae amrywiaeth sylweddol rhwng gwahanol rannau o’r sir a’i gilydd.
Mae dros hanner poblogaeth Sir Ddinbych yn byw yn nhrefi’r Rhyl a Prestatyn, a’u maestrefi Rhuddlan a Bodelwyddan. Dyma hefyd ran mwyaf Seisnig y sir, gyda dim ond 13.0 y cant yn gallu siarad Cymraeg yn y Rhyl a 14.6 y cant yn Prestatyn.
Yn nyffryn Clwyd, mae’r canrannau a’r niferoedd i lawr yn y ddwy dref, Dinbych (i lawr o 35.3 yn 2011 i 32.4 y cant) a Rhuthun (o 41.7 y cant i 37.9 y cant). Yng Nghorwen hefyd, mae’r ganran i lawr i 42.5 y cant, sy’n gwymp o bron i 10 y cant o gymharu â 20 mlynedd yn ôl.
Os edrychwn ar ardal ehangach o’r sir - sef Dyffryn Clwyd o dref Dinbych i fyny, ac Edeirnion gyda’i gilydd, collwyd bron i 900 o siaradwyr Cymraeg yn y 10 mlynedd ddiwethaf ac yn agos i 900 arall yn y ddegawd cynt, fel bod eu niferoedd bellach i lawr i tua 10,500 sy’n cynrychioli 38.5 y cant o’r boblogaeth, sy’n cymharu â 42.0 y cant yn 2011 a 45.7 y cant yn 2001.
Cynwyd yw’r gymuned fwyaf Cymraeg gyda 58.4 o’r boblogaeth yn gallu siarad yr iaith, a’r unig gymunedau eraill sydd â mymryn dros hanner eu poblogaeth yn gallu siarad Cymraeg yw Gwyddelwern, Betws Gwerfyl Goch a Llandrillo yng nghyffiniau Corwen, a Llanrhaeadr yn Nyffryn Clwyd. Mae hyn yn cymharu ag wyth cymuned o’r fath 10 mlynedd yn ôl.