Sir Benfro


Hafan > Siroedd > Sir Benfro

Show Toolbar
  • Show Caption
  • Hide Thumbmails
  • Show Categories
  • Play Slide Show
  • Display in Full Screen
  • Hide Toolbar

pie chart sir Benfro
 
 
  • pie chart sir Benfro
  • bar chart sir Benfro
  • graff llinell sir Benfro

Gyda 17.2 y cant o’i phoblogaeth o 120,000 o drigolion 3 oed a throsodd yn gallu siarad Cymraeg, mae’r ganran yn Sir Benfro yn ddigon tebyg i’r ganran yng Nghymru gyfan. Roedd ychydig dros 7,000 arall yn deall yr iaith, ychydig dros 6 y cant o’r boblogaeth.

Mae’r cyfartaledd sirol yn cuddio amrywiaethau mawr o fewn sir fwyaf gorllewinol Cymru, sydd â hanes unigryw o ran ei phoblogaeth, diwylliant ac iaith, fel y cyfeirir ati yn un o’n hen benillion:

“Mae dwy ochr i Sir Benfro                                Un i’r Sais a’r llall i’r Cymro …”

Un o nodweddion mwyaf arwyddocaol y sir ar hyd y canrifoedd fu’r Lansker, sef y ffin hanesyddol sy’n mynd ar draws y sir o Fae Sain Ffraid i’r de o Solfach yn y gorllewin at ardal Llanddewi Felffre i’r gogledd o Arberth yn y dwyrain. Dyma’r ffin a oedd yn gwahanu’r gogledd Cymraeg ei iaith a’r de lle’r oedd disgynyddion ymsefydlwyr Seisnig a Fflemaidd yn byw.

Mae’r darlun yn wahanol iawn heddiw, gydag ymsefydlwyr diweddarach o Loegr yn ffurfio cyfran sylweddol o boblogaeth gogledd y sir hefyd bellach. Dros y blynyddoedd hefyd, mae dirywiad y Gymraeg wedi bod yn arbennig o amlwg yn yr ardaloedd gerllaw’r ffin, ieithyddol lle nad oes ond lleiafrif yn siarad Cymraeg bellach.

Ar y llaw arall, mae’r ffin yn dal yn amlwg o dan yr wyneb, ac olion y rhaniad pendant i’w weld rhwng dwy ochr y sir o hyd.

Ardal wledig ei natur yw gogledd y sir, gydag Abergwaun yr unig dref o bwys, ac mae’r prif drefi – Hwlffordd, Aberdaugleddau, Doc Penfro a Phenfro islaw’r lansker.

Mae’r ffaith fod Sir Benfro’n un o’r 13 o siroedd gwreiddiol Cymru yn golygu bod cymariaethau â’r gorffennol rywfaint yn haws ar un ystyr. Ar y llaw arall, mae’r gwahaniaethau enfawr rhwng de a gogledd y sir yn cymhlethu’r dasg, gan nad oes ystadegau ar gael ar gyfer ardaloedd llai yn y cyfnod cynnar.

Yn ôl Cyfrifiad 1901, roedd ychydig dros draean – 34.5 y cant – o boblogaeth y sir gyfan yn gallu siarad Cymraeg, a thraean o’r rhain yn uniaith Gymraeg. 

Roedd rhai o ddosbarthiadau trefol a gwledig eraill y sir yn dangos y rhaniad yn amlwg iawn, gyda’r canrannau a oedd yn gallu siarad Cymraeg yn amrywio o 3.8 y cant ym Mwrdeistref Penfro i 98.7 y cant yn Nosbarth Gwledig Llanfyrnach, lle’r oedd tri chwarter y boblogaeth yn uniaith Gymraeg. Roedd bron i hanner trigolion Dosbarth Gwledig Llandudoch gerllaw hefyd yn uniaith Gymraeg.

Cwbl Saesneg eu hiaith oedd holl drefi de’r sir, er bod y ganran yn Hwlffordd (10.7 y cant) fymryn yn uwch na’r hyn oedd islaw’r Cleddau. Yn gyffredinol, nid oedd fawr o amrywiaeth rhwng oedrannau a’i gilydd chwaith, fel y gellid disgwyl mewn gwirionedd o gofio bod Seisnigrwydd y rhan hon o’r sir yn mynd yn ôl ganrifoedd.

Ddeng mlynedd yn ddiweddarach, y newid amlycaf o ran y Gymraeg oedd lleihad o dros 3,000 yn nifer y Cymry uniaith, er eu bod yn dal i ffurfio mwyafrif trigolion Dosbarth Gwledig Llanfyrnach a thraean trigolion Dosbarth Gwledig Llandudoch. 

1961-1991

Wrth droi i gyfnod diweddarach, roedd canran siaradwyr Cymraeg y sir wedi gostwng i ychydig llai na’r chwarter erbyn Cyfrifiad 1961, a’r cyfanswm i lawr i ychydig o dan 22,000. Gan fod de’r sir eisoes bron yn gwbl Saesneg ei iaith, gallwn fod yn sicr mai yn yr ardaloedd i’r gogledd o’r ffin y digwyddodd y newid dros yr hanner canrif cynt.

Gyda gwybodaeth ar gael fesul plwyfi, ac felly modd ceisio ail-greu’r ffin, gallwn weld cyferbyniad trawiadol yn y sefyllfaoedd ieithyddol y naill ochr iddi. Yn ôl Cyfrifiad 1961, roedd tua 70 y cant o boblogaeth gogledd y sir yn gallu siarad Cymraeg, o gymharu â thua y cant o boblogaeth y rhan ddeheuol. Er mai dim ond ychydig dros chwarter o boblogaeth y sir a oedd yn byw i’r gogledd o’r Landsker, yno’r roedd mwy na thri chwarter y siaradwyr Cymraeg.

Yr unig leoedd i’r de o’r ffin gyda lleiafrif cymharol sylweddol yn gallu siarad Cymraeg oedd o gwmpas Llanbedr Felffre gerllaw Arberth ger y ffin â Sir Gâr. Yn y gogledd prin oedd y plwyfi â llai na 70 y cant yn siarad Cymraeg, gyda llawer dros 80 a 90 y cant. Roedd 83.1 y cant o drigolion Dosbarth Gwledig Cemais (a ffurfiwyd trwy uno Dosbarthiadau Gwledig Llandudoch a Llanfyrnach) yn gallu siarad Cymraeg, er bod y ganran i lawr i ychydig llai na’r hanner, 47.1 y cant yn Abergwaun, yr unig dref.

Dros y ddegawd ganlynol cafwyd lleihad o bron i 2,500 yn nifer siaradwyr Cymraeg y sir, a’r colledion hyn i gyd i’w priodoli i’r ardal i’r gogledd o’r ffin. Erbyn Cyfrifiad 1971, roedd cyfran siaradwyr Cymraeg gogledd y sir i lawr i 64.5 y cant, a’r ganran yn y de Seisnig wedi aros yr un fath ar 7.3 y cant. Roedd y gostyngiadau i’w gweld yn gyson drwy ogledd y sir, yn y  cadarnleoedd cryfaf, yn enwedig ar yr arfordir, a hefyd mewn ardaloedd lle’r oedd y Gymraeg yn wanach yn nes at y ffin.

Er bod cyfanswm siaradwyr Cymraeg y sir gyfan wedi aros yn weddol gyson dros yr 20 mlynedd ddilynol, roedd y ganran wedi gostwng fymryn i 18.3 y cant erbyn Cyfrifiad 1991 yn sgil y cynnydd yn y boblogaeth. Yn fwy arwyddocaol , roedd cyfran siaradwyr Cymraeg gogledd y sir bellach i lawr i fymryn dros hanner – 50.8 y cant – gyda’u niferoedd 2,000 yn llai nag yn 1971. Dim ond yn yr ardaloedd pellaf o’r ffin, fel Crymych, Clydau a Chilgerran roedd dros 60 y cant yn gallu siarad Cymraeg bellach.

Roedd dros 2,000 yn llai o siaradwyr Cymraeg yn y sir o gymharu â 2011, wrth i’w niferoedd ostwng o 22,786 i 20,627. Mae hefyd yn dilyn colled o tua 900 rhwng 2001 a 2011. 

Ymysg plant 3-15 oed y bu’r colledion mwyaf wrth i’r niferoedd sy’n gallu siarad Cymraeg ostwng o 7,268 yn 2011 i 5,619, lleihad o 1,659, wrth i’w canran ostwng o 40.3 y cant i 31.8 y cant.

Yr unig grwp oedran i ddangos cynnydd yw ymysg pobl ifanc 25-34 oed, wrth i’r ganran sy’n gallu siarad Cymraeg godi o 14.8 i 17.0 y cant. Mae pob grwp arall yn dangos gostyngiad, ar wahân i bobl dros 65 oed sydd wedi aros yn weddol debyg.

Olion y Landsker

O wahanu’r sir yn fras ar hyd hen linell hanesyddol y Landsker, trwy ddefnyddio’r ganran o 20 y cant fel trothwy fel a wneir ar y map, roedd 35.3 y cant o’r boblogaeth yn rhan ogleddol y sir yn gallu siarad Cymraeg yn 2021. Roedd hyn yn cymharu â 10.3 y cant yn y rhan ddeheuol. Er hyn, nid yw’r cyferbyniad rhwng dwy ran y sir agos mor drawiadol ag oedd yn y gorffennol yn sgil Seisnigeiddio yn yr hanner traddodiadol Gymraeg dros y degawdau diwethaf.

Mae’r ganran heddiw sy’n gallu siarad Cymraeg yn y rhan ogleddol heddiw yn cymharu â 39.2 y cant yn 2011 a 44.5 y cant 10 mlynedd ynghynt,  a chollwyd 1,149 o siaradwyr Cymraeg yma dros y 10 mlynedd ddiwethaf yn unig.

Bellach, dim ond yng nghyffiniau ardal y Preseli a dyffryn Teifi mae cymunedau sydd â mwyafrifoedd, neu’n agos at hanner y boblogaeth, yn gallu siarad Cymraeg. Crymych, Cwm Gwaun, Boncath ac Eglwyswrw yw pedair cymuned Gymreiciaf y sir lle mae mwyafrif yn siarad Cymraeg. Ar y llaw arall, llai na thraean sy’n gallu siarad Cymraeg yn Abergwaun, ac mae’r ganran yn llai na chwarter yn Nhyddewi bellach.