Hafan > Siroedd > Rhondda Cynon Taf
Dyma drydedd sir fwyaf Cymru o ran ei phoblogaeth, ar ôl Caerdydd ac Abertawe, gydag ychydig llai na chwarter miliwn o drigolion yn ôl Cyfrifiad 2021.
Mae hefyd yn un o bedair sir yn unig i ddangos cynnydd yn nifer y siaradwyr Cymraeg dros y 10 mlynedd ddiwethaf, wrth i’w niferoedd godi o 27,779 i 28,551 rhwng 2011 a 2021. Oherwydd cynnydd yn y boblogaeth, nid yw’r ganran o 12.4 y cant sy’n gallu siarad Cymraeg ond wedi codi’r mymryn lleiaf o gymharu â 2011.
Gyda thref Pontypridd yn ganolbwynt iddi, mae Rhondda Cynon Taf yn cynnwys ardal wledig tua’r de sy’n ymestyn i lawr i Fro Morgannwg yn ogystal â chymoedd Rhondda a Chynon.
Daeth i fodolaeth yn 1996 pan gyfunwyd tri chyngor dosbarth y Rhondda, Cwm Cynon a Thaf Elái, a oedd yn eu tro wedi eu ffurfio allan o Fwrdeistref y Rhondda, Dosbarthiadau Trefol Aberdâr, Aberpennar a Pontypridd, a Dosbarth Gwledig Llantrisant a Llanilltud y Faerdref a dyrnaid o ardaloedd llai eraill yn 1974.
Mae’r sir wedi’i lleoli yng nghanol maes glo de Cymru, ac wedi chwarae rhan allweddol ym mwrlwm y chwyldro economaidd a chymdeithasol a ddigwyddodd yn sgil y diwydiant hwnnw dros y ddwy ganrif ddiwethaf.
Wrth edrych ar yr ardal sy’n cyfateb yn fras i’r sir bresennol, gallwn amcangyfrif bod bron i 60 y cant o’i phoblogaeth o ychydig o dan chwarter miliwn yn gallu siarad Cymraeg yn ôl Cyfrifiad 1901. Roedd y canrannau hyn yn amrywio gan godi’n bur sylweddol wrth fynd i fyny’r cymoedd, gyda 64.3 y cant yn y Rhondda a 71.2 y cant yn Aberdâr yn gallu’r iaith. Roedd dros 10 y cant o’r boblogaeth yn y naill le a’r llall yn uniaith Gymraeg. Ac er bod y canrannau a oedd yn medru’r Gymraeg yn codi rhywfaint ymysg y grwpiau oedran dros 45 oed, roedd mwyafrif clir o blant yn dal i allu siarad Cymraeg yn y ddau le.
Lleiafrif o 38.2 y cant ar y llaw arall oedd yn gallu siarad Cymraeg yn nhref Pontpridd. Felly hefyd Aberpennar yng ngwaelodion Cwm Cynon gyda 47.8 y cant. Mae arwyddion amlwg o newid ieithyddol i’w weld ym Mhontypridd, gyda mwyafrif o bobl dros 45 yn gallu siarad Cymraeg, ond dim ond chwarter y plant .
Gwelodd ddegawd cyntaf yr ugeinfed ganrif ddirywiad sylweddol yn y Gymraeg yn y sir. Er bod niferoedd y siaradwyr Cymraeg wedi cynyddu ychydig dros 14,000 i 140,461, roedd eu cyfran o’r boblogaeth wedi gostwng i fymryn dros 50 y cant. Dros y cyfnod hwnnw roedd y boblogaeth wedi cynyddu bron draean i 280,000. Roedd y cynnydd o 14,000 yn nifer y siaradwyr Cymraeg yn cymharu felly â chynnydd o dros 50,000 yn niferoedd y di-Gymraeg.
Roedd y gyfran a allai siarad Cymraeg yn y Rhondda i lawr i 55.2 y cant ac yn Aberdâr i 64 y cant. Er bod ychydig dros hanner plant Aberdâr yn dal i allu siarad Cymraeg yn 1911, roedd dirywiad yn dechrau dod i’r amlwg yn y Rhondda. Llai na hanner y plant o dan 10 oed yn y fwrdeistref a allai siarad Cymraeg bellach o gymharu â 67.7 y cant o bobl 45-64 oed a 72.2 y cant o bobl dros 65. Roedd bron i 24,000 o bobl a aned yn Lloegr yn byw yn y Rhondda erbyn 1911, o gymharu ag ychydig dros 5,000 30 mlynedd ynghynt yn 1881.
Roedd gwaddol cymdeithas Gymraeg gynhenid y cymoedd yn dal yn amlwg yno hanner canrif yn ddiweddarach, yn enwedig yn y Rhondda ac Aberdar.
Yn ôl Cyfrifiad 1961, roedd 20.9 y cant o boblogaeth yr ardal sy’n cyfateb yn union i’r sir bresennol yn gallu siarad Cymraeg. Roedd bron i chwarter trigolion y Rhondda a thros draean pobl Aberdâr yn gallu siarad Cymraeg, er bod y canrannau’n sylweddol is yn Nosbarthiadau Trefol Aberpennar (14.7 y cant) a Pontypridd (9.6 y cant) a Dosbarth Gwledig Llantrisant a Llanilltud y Faerdref (12.7 y cant).
Yn y Rhondda, roedd ychydig dros hanner, 52.7 y cant, o’r bobl dros 65 oed yn gallu siarad Cymraeg, ond roedd y ganran yn gostwng i 40.8 y cant o bobl 45-64 oed, a dim ond mymryn dros 5 y cant o blant dan 10 oed a allai siarad yr iaith.
Er bod y Gymraeg yn gryfach yn Aberdâr, roedd patrwm digon tebyg i’w weld o dan yr wyneb. Roedd 61.2 y cant o bobl dros 65 oed yn gallu siarad yr iaith, ac union hanner y bobl yn y grwp oedran 45-64. Roedd y canrannau’n gostwng i 17.7 y cant o bobl ifanc 16-24 oed ac i 8 y cant o blant o dan 10.
Cafwyd chwalfa fawr yn nifer siaradwyr Cymraeg y sir yn y ddegawd a ddilynodd – erbyn 1971 roedd y niferoedd i lawr o 49,000 i 27,000. Roedd hyn yn cynrychioli colled o 45 y cant, a’r ganran a allai siarad Cymraeg yn ardal y sir bresennol bellach i lawr i 11.8 y cant. Hyd yn oed yn y Rhondda ac Aberdâr, roedd y canrannau bellach i lawr i 13.3 a 21.4 y cant, a dim ond y grwp oedran 65 oed a throsodd roedd cyfran sylweddol yn dal i allu siarad Cymraeg. Arwydd clir arall o’r dirywiad oedd bod 41.7 y cant o siaradwyr Cymraeg y Rhondda a 35.3 y cant yn Aberdâr dros 65 oed.
Gwelwyd dirywiad pellach yn sgil hynny yn ystod yr 1970au, gyda chyfanswm siaradwyr Cymraeg y sir i lawr i ychydig dros 21,000 a 9.1 y cant o’r boblogaeth erbyn Cyfrifiad 1981. Sefydlogodd y niferoedd a’r canrannau i raddau helaeth erbyn Cyfrifiad 1991, wrth i gynnydd ymhlith plant 3-15 wrthbwyso’r colledion ymysg y cenedlaethau hŷn. Er hyn, ymysg y bobl dros 85 oed roedd y ganran uchaf a allai siarad Cymraeg (22.6 y cant).
Erbyn Cyfrifiad 2001, wrth i'r Gymraeg sefydlogi i raddau helaeth ymysg oedolion, a chynnydd sylweddol yn nifer y plant a allai siarad yr iaith, cododd cyfanswm y siaradwyr Cymraeg i 27,500 gan ffurfio 12.3 y cant o'r boblogaeth, ac arhosodd y nifer a'r ganran bron union yr un fath yng Nghyfrifiad 2011.
Er y cynnydd o bron i 800 yng nghyfanswm siaradwyr Cymraeg y sir rhwng 2011 a 2021, gwelwyd lleihad o 1,644 yn nifer y plant 3-15 oed a allai siarad yr iaith, a’r ganran yn gostwng yn weddol sylweddol o 30.8 i 25.4 y cant.
Bu lleihad o dros 400 ymysg y grwp oedran 16-24 hefyd, er bod lleihad cyffredinol yn yr oedrannau hyn yn golygu bod y ganran wedi codi fymryn o 19.5 i 20.4 y cant.
Ymysg oedolion 35-49 oed y gwelwyd cynnydd mwyaf, wrth i’w niferoedd a allai siarad Cymraeg godi o 3,927 yn 2011 i 5,054 erbyn 2021, gan godi’r ganran o 7.2 i 11.6 y cant. Bu cynnydd llai ymysg y grwpiau oedran 25-34 a 50-64 hefyd.
Pob dros 75 oed yw’r unig grwp oedran a ddangosodd leihad o gymharu ag yn 2011, sy’n debygol o fod yn arwydd o weddillion olaf cymdeithas Gymraeg gynhenid yn diflannu o’r tir ym mlaenau’r cymoedd. Ymysg pobl dros 65 oed bellach mae’r canrannau isaf sy’n gallu siarad Cymraeg.
Er nad yw’r amrywiaethau daearyddol o fewn y sir yn anferthol, diddorol yw gweld bod patrwm gwahanol iawn i’r hyn a fu yn dechrau dod i’r amlwg. Bellach, yn rhai o’r ardaloedd ar gyrion Bro Morgannwg ac o gwmpas Pontypridd y mae’r canrannau uchaf sy’n gallu siarad Cymraeg yn y sir. Dwyrain Pontyclun yw’r ward sydd â’r ganran uchaf gyda 24.0 y cant, ac mae canrannau uchel hefyd ym Mhentre’r Eglwys (19.8 y cant), Llanilltud y Faerdref (17.3 y cant), Canol Pontyclun (17.6 y cant) a chanol tref Pontypridd (17.9 y cant).
Gall hyn fod yn arwydd o dueddiad tebyg i’r hyn sy’n digwydd yng Nghaerdydd, wrth i leoedd hyn ddod yn boblogaidd ymysg siaradwyr Cymraeg sy’n symud iddynt o’r gogledd a’r gorllewin. Yn anffodus, nid yw ffigurau’r Cyfrifiad yn cynnig ffordd o fesur hyn.
Ar y llaw arall, mae rhai o’r canrannau isaf bellach i’w gweld i fyny yn y cymoedd, fel Aberaman (8.9 y cant), Cwm Clydach (8.1 y cant), Cwmbach (9.3 y cant), Pen-y-graig (7.8 y cant) a Pen-y-waun (9.5 y cant). Yr unig leoedd ym mlaenau’r cymoedd sydd â chanrannau ychydig yn uwch na’r cyfartaledd yw Treorchi (15.0 y cant) a Hirwaun, Penderyn a Rhigos (15.3 y cant).
Hyd yn oed yn Aberdâr, lle daliodd y Gymraeg ei thir yn dda am ran helaeth o’r ganrif ddiwethaf, mae’r ganran i lawr i ychydig dros 11 y cant yn y ddwy ward.