Roedd 21,357 o drigolion Powys yn gallu siarad Cymraeg yn 2021, gan ffurfio 16.4 y cant o’i phoblogaeth o bron i 130,000 o bobl 3 oed a throsodd. Roedd 8,315 arall yn deall yr iaith, sy’n gyfwerth â 6.4 y cant o’r boblogaeth. Nae sir fwyaf Cymru’n gorchuddio’r rhan fwyaf o’r Canolbarth, gan ymestyn o Lanrhaeadr ym Mochnant yn y gogledd i lawr i Ystradgynlais ym mlaenau Cwm Tawe yn y de-orllewin, a'ii ffin ddwyreiniol yn ffurfio dros hanner y ffin rhwng Cymru a Lloegr.
Daeth y sir i fodolaeth yn 1974 wrth uno siroedd hanesyddol Trefaldwyn, Maesyfed a Brycheiniog, er i ychydig o fân newidiadau gael eu gwneud i’w ffiniau yn 1996. Ei phrif drefi yw'r Drenewydd, y Trallwng, Llandrindod ac Aberhonddu.
Nid yw'r ffigurau am y Gymraeg ar gyfer y sir gyfan yn dweud llawer wrthym am y sefyllfa ar lawr gwlad, gan rhannau ohoni'n sylweddol Gymreiciach na'i gilydd.
Mae’r unig gymunedau sydd â mwyafrifoedd yn gallu siarad Cymraeg ynddi i’w cael yng ngogledd Maldwyn, gyda lleiafrif gweddol sylweddol yn dal i allu’r iaith yn ne-orllewin Brycheiniog, er bod yr ardal hon wedi gweld dirywiad difrifol dros y degawdau diwethaf. Mae rhan helaeth o weddill y sir, gan gynnwys de Maldwyn, Sir Faesyfed a gogledd a dwyrain Brycheiniog wedi bod yn drwyadl Saesneg eu hiaith ers cenedlaethau.
Oherwydd maint y sir, a dosbarthiad gwasgarog y Gymraeg ynddi, mae’n well ymdrin â hi yn nhermau’r tair sir hanesyddol, sy’n dal i gael eu cydnabod fel rhanbarthau heddiw.
Ychydig o dan hanner ei phoblogaeth o 51,310 o bobl dros 3 oed a oedd yn gallu siarad Cymraeg yn sir Drefaldwyn 1901, gan ffurfio canran o 47.4 y cant. Er hynny, roedd hyn yn cuddio gwahaniaethau enfawr ar lawr gwlad.
Yn nhref Trefaldwyn, 6.4 y cant yn unig o’r trigolion a allai siarad Cymraeg, a’r ganran yn gyson drwy’r grwpiau oedran, hyd yn oed bobl dros 65 oed. O ystyried y byddai’r bobl hŷn wedi cael eu geni cyn 1836, gellir tybio bod y dref wedi bod yn gwbl Saesneg ei hiaith ers o leiaf ddechrau’r bedwaredd ganrif ar bymtheg os nad yn y canrifoedd cynt.
Ychydig dros 10 y cant yn unig o drigolion y Drenwydd a’r Trallwng hefyd a oedd yn gallu siarad Cymraeg.
Ar y pegwn arall, yn ddaearyddol ac yn ieithyddol, roedd Dosbarth Gwledig Machynlleth lle’r oedd 97.3 y cant o’r boblogaeth yn gallu siarad Cymraeg, ac ychydig dros 60 y cant o’r trigolion yn uniaith Gymraeg. Yn Nosbarth Gwledig Llanfyllin hefyd a oedd yn ymestyn at y ffin â Lloegr, roedd tua 70 y cant yn gallu siarad Cymraeg.
Er hyn, roedd arwyddion o newid ieithyddol ar droed mewn rhai rhannau o’r sir, a hynny’n fwyaf amlwg yn nhref Llanidloes, lle’r oedd mymryn dros hanner – 51.7 y cant – o’r boblogaeth yn gallu siarad Cymraeg. Llai na chwarter y plant – 23.7 y cant – a allai siarad yr iaith o gymharu â thros 80 y cant o bobl dros 45 oed. Er bod arwyddion o dueddiad tebyg i’w gweld yn yr ardaloedd gwledig o gwmpas Llanidloes a’r Drenewydd hefyd, nid oedd y gwahaniaethau mor ddramatig.
Yn ystod 10 mlynedd gyntaf y ganrif, pan oedd siroedd Morgannwg a Mynwy yn profi ffrwydrad mewn poblogaeth, colli pobl oedd siroedd gwledig fel Sir Drefaldwyn. Erbyn Cyfrifiad 1911, gyda’r boblogaeth i lawr i 50,000, a gostyngiad o 2,500 yn nifer y siaradwyr Cymraeg, roedd y ganran a allai siarad yr iaith i lawr i 43.7 y cant.
Lleihau’n raddol a wnaeth poblogaeth Sir Drefaldwyn dros yr hanner canrif dilynol, a gostwng hefyd a wnaeth nifer a chanran y siaradwyr Cymraeg. Ychydig llai na thraean (32.3 y cant) o 42,000 o drigolion y sir a allai siarad Cymraeg erbyn Cyfrifiad 1961.
Roedd mwyafrif llethol trigolion Dosbarth Gwledig Machynlleth (88 y cant yn dal i allu siarad Cymraeg), a bron i 70 y cant o drigolion y dref. Er mai ychydig dros hanner poblogaeth Dosbarth Gwledig Llanfyllin oedd yn siarad Cymraeg, roedd yr ardal yn cynnwys plwyfi a oedd yn dal yn gwbl Gymraeg eu hiaith, fel Llanerfyl, Llangadfan, Llanfihangel yng Ngwynfa a Llanrhaeadr ym Mochnant.
Roedd lleiafrif sylweddol (37 y cant) yn dal i allu siarad Cymraeg yn ardal dosbarth wledig y Drenewydd a Llanidloes yn ne-orllewin y sir hefyd.
Er i siaradwyr Cymraeg y sir ostwng i 11,590 a 28.1 y cant erbyn Cyfrifiad 1971, roedd rhannau o ogledd y sir yn dal ymhlith ardaloedd Cymreiciaf Cymru. Aros yn weddol debyg a wnaeth nifer y siaradwyr Cymraeg dros yr 20 mlynedd ddilynol, er i’w cyfran ostwng yn sgil cynnydd yn y boblogaeth.
Mae haneswyr yn gytûn fod y sir hon, y lleiaf ei phoblogaeth o holl 13 o siroedd hanesyddol Cymru, wedi colli ei Chymraeg yn gynnar.
Allan o 21,754 o drigolion Sir Faesyfed yn 1901, dim ond 1,360 ohonynt a allai siarad Cymraeg, gan ffurfio 6.3 y cant o’r boblogaeth.
Er bod siroedd Trefaldwyn a Brycheiniog i’r gogledd a’r de â chanrannau llawer uwch na hi o siaradwyr Cymraeg, rhaid cofio bod darnau helaeth o’r siroedd hyn hefyd yn drwyadl Saesneg eu hiaith erbyn y cyfnod hwn, ac mai cadarnleoedd Cymraeg yng ngogledd Sir Drefaldwyn a de-orllewin Sir Frycheiniog oedd yn gyfrifol i raddau helaeth am godi’r canrannau yn y siroedd hyn.
Awgrymwyd gan rai haneswyr fod y Gymraeg wedi cilio o Sir Faesyfed yn ystod y ddeunawfed ganrif, ac mae Cyfrifiad 1901 yn cadarnhau fod y rhan fwyaf o’r sir wedi Seisnigeiddio ers o leiaf y cyfnod hwnnw.
Yn y rhan fwyaf o’r sir, canrannau pitw o 5 y cant a llai o’r boblogaeth a allai siarad Cymraeg, hyd yn oed o blith pobl dros 65 oed.
Yr unig ran o’r sir sy’n dangos tystiolaeth o Seisnigeiddio mwy diweddar yw Dosbarth Gwledig Rhaeadr, lle’r oedd 15.3 y cant yn gallu siarad Cymraeg. Er mai dim ond pump y cant o blant 3-14 oed, a 9.2 y cant o bobl ifanc 15-24 a allai’r iaith, roedd y ganran yn codi i 38.5 y cant o blith pobl dros 65.
Ychydig iawn o newid yn sefyllfa’r Gymraeg yn Sir Faesyfed a welwyd drwy gydol yr ugeinfed ganrif mewn gwirionedd.
Erbyn Cyfrifiad 1961, a phoblogaeth y sir bellach i lawr i tua 17,500 o bobl dros 3 oed, dim ond 790 ohonynt a allai siarad Cymraeg, a disgynnodd eu nifer ymhellach i 655 yn 1971. Roeddent wedi codi’n ôl i ychydig dros 1,000 erbyn 1981, wrth i boblogaeth y sir godi i fymryn dros 20,000.
Gwelwyd newid mawr, fodd bynnag, erbyn Cyfrifiad 1991, gyda nifer y plant 3-15 oed a allai siarad Cymraeg yn saethu i dros fil, gan beri i gyfanswm siaradwyr Cymraeg y sir bron â dyblu i 1,915.
Cafodd rhannau o’r Sir Frycheiniog wreiddiol eu trosglwyddo i Forgannwg a Gwent fel rhan o ad-drefnu llywodraeth leol yn 1974, felly mae rhanbarth presennol Brycheiniog ychydig yn llai.
Roedd tua 45 y cant o ardal y rhanbarth presennol yn gallu siarad Cymraeg yn 1901, a’r canrannau’n amrywio o 3.8 y cant yn y Gelli Gandryll i 92.7 y cant yn Ystradgynlais. Roedd mwyafrifoedd yn gallu siarad Cymraeg yn Nosbarthiadau Gwledig Aberhonddu (62.1 y cant) a Llanfair ym Muallt (58.3 y cant) hefyd, er bod rhyw gymaint o olion o ddirywiad ymysg y cenedlaethau iau.
Roedd ardaloedd eraill yn dangos olion clir o Seisnigeiddio a ddigwyddodd yn y degawdau blaenorol. Yn nhref Aberhonddu, er enghraifft, lle’r oedd 21.8 y cant yn gallu siarad Cymraeg, dim ond 4.7 y cant o blant o dan 10 oed a oedd yn medru’r iaith, o gymharu â mwyafrif o bobl dros 65 oed. Patrwm tebyg iawn oedd i’w weld yn Nosbarthiadau Gwledig y Gelli a Chrug Hywel hefyd.
Er mai gostyngiad bach a welwyd yn y ganran a allai siarad Cymraeg yn rhanbarth Brycheiniog yn 1911, i tua 42.5 y cant, roedd arwyddion amlwg fod y dirywiad yn parhau. Roedd y Gymraeg wedi diflannu i bob pwrpas ymhlith plant a phobl ifanc Dosbarthiadau Gwledig Crug Hywel a’r Gelli, er bod cyfrannau sylweddol o’r bobl hŷn yn gallu ei siarad. Hyd yn oed yn Nosbarth Gwledig Ystradgynlais, roedd y ganran i lawr i 79.8 y cant, a oedd yn sylweddol is na’r hyn oedd 10 mlynedd ynghynt.
Erbyn Cyfrifiad 1961, roedd nifer y siaradwyr Cymraeg yn Sir Frycheiniog, ar ôl diystyru’r rhannau a fyddai’n gael eu trosglwyddo i siroedd eraill yn ddiweddarach, i lawr i tua 12,500, a oedd yn ffurfio traean o’r boblogaeth.
Roedd dau draean ohonynt yn byw yn Nosbarth Gwledig Ystradgynlais, lle’r oeddent yn dal i ffurfio bron i 80 y cant o’r boblogaeth, yn debyg iawn i’r sefyllfa hanner canrif ynghynt.
Gostwng ymhellach wnaeth nifer y siaradwyr Cymraeg dros yr 20 mlynedd ddilynol, i 10,300 yn 1971 ac i 9,200 a 24.2 y cant yn 1981. Erbyn Cyfrifiad 1991, fodd bynnag, cafwyd cynnydd sylweddol yn nifer y plant a oedd yn gallu siarad Cymraeg, gan wrthbwyso colledion ymysg cenedlaethau hŷn, fel bod y cyfanswm wedi aros tua’r un fath.
Mae nifer siaradwyr Cymraeg y sir wedi lleihau dros 2,600 mewn niferoedd rhwng 2011 a 2021, a’r ganran yn gostwng o 18.6 i 16.4 y cant. Mae’n dilyn lleihad pellach o 1,500 o gymharu â’r hyn oedd yn 2001, pan oedd y ganran yn 20.8 y cant.
Mae’r gostyngiad mwyaf i’w weld yn nifer y plant sy’n gallu siarad Cymraeg, i lawr o 7,582 yn 2011 i 5,718. Mae’r cwymp hwn o bron i 1,900 yn golygu bod y ganran wedi gostwng o 39.9 i 32.9 y cant. Mae cyfanswm y plant sy’n gallu siarad Cymraeg yn y sir yn ôl bellach i bron union yr hyn oedd yn 1991, cyn i’r niferoedd godi’n sylweddol erbyn 2001 fel mewn llawer sir arall yng Nghymru.
Mae cwymp o dros 600 yn niferoedd y siaradwyr Cymraeg ifanc 16-24 oed, gyda’r ganran yn gostwng ychydig o 25.4 i 24.0 y cant.
Mae llai o newid i’w weld yn y grwpiau oedran eraill – cynnydd bach yn y grwp 25-34, gostyngiad bach yn y grwp 35-49, heb fawr o newid yn y canrannau. Mae’r niferoedd sy’n gallu siarad Cymraeg ymysg pobl dros 50 oed wedi aros yn debyg iawn, ond eu canran wedi gostwng yn sgil cynnydd ym mhoblogaeth gyffredinol y to hyn. Diddorol yw gweld mai ymysg pobl 50-74 y mae’r canrannau isaf sy’n gallu siarad Cymraeg yn y sir bellach.
Cymharol ychydig mae’r ffigurau am y sir gyfan yn ei ddweud wrthym fodd bynnag, oherwydd yr amrywiaethau anferthol o’i mewn.
Gogledd Maldwyn yw rhan Gymreiciaf y sir o bell ffordd, a dyma’r unig le y ceir cymunedau â mwyafrifoedd yn siarad Cymraeg bellach.
Er hyn, nid yw hynny’n wir ond am bedair cymuned yn unig bellach, sef Cadfarch (ardal Aberhosan i’r de o Fachynlleth), Llanerfyl, Penybontfawr a Glantwymyn. Mewn tair arall, sef Machynlleth, Llanfihangel a Banwy, gostyngodd y ganran o dan 50 y cant dros y 10 mlynedd ddiwethaf.
Collwyd bron i 1,000 o siaradwyr Cymraeg dros y 20 mlynedd ddiwethaf yng ngogledd y sir, gyda’r ganran i lawr o tua hanner yn 2001 i tua 40 y cant yn 2021, er bod y gwymp yn y ganran yn llai rhwng 2011 a 2021 o gymharu â’r degawd cynt.
Mae’r dirywiad wedi bod yn neilltuol o llym yn rhai o’r cymunedau gwledig a fu’n gadarnleoedd i’r Gymraeg yn y sir. Rhwng 2001 a 2021, gwelwyd y ganran a oedd yn gallu siarad Cymraeg yn gostwng o ddau draean i lai na hanner yn Llanfihangel, o 60 y cant i 37.6 y cant yn Llanwddyn, ac o’r hanner i lai na thraean yn Llangynog.
Yr unig ardal arall sydd â chyfran weddol sylweddol o’r boblogaeth yn gallu siarad Cymraeg ym Mhowts yw blaenau cwm Tawe yn ne-orllewin Brycheiniog, ond mae’r Gymraeg wedi bod ar drai difrifol yno dros y degawdau diwethaf.
Ar lawer ystyr, dyma’r ardal sydd wedi profi’r dirywiad mwyaf difrifol yng Nghymru dros y 10 a’r 20 mlynedd ddiwethaf, heb ond mymryn dros draean poblogaeth Ystradgynlais yn gallu siarad Cymraeg bellach. Mae hyn yn cymharu ag ychydig dros hanner 20 mlynedd yn ôl, ac mae lleihad o dros 30 y cant wedi bod yn eu niferoedd.