Hafan > Siroedd > Pen-y-bont ar Ogwr
Tref Pen-y-bont ar Ogwr, tua hanner ffordd rhwng Abertawe a Chaerdydd ar goridor yr M4, yw canolbwynt a phrif anheddiad y sir gryno hon ym Morgannwg. Mae’n ymestyn o gymoedd Llynfi, Garw ac Ogwr i lawr i’r arfordir a thref Porthcawl. Maesteg, yng nghwm Llynfi, yw’r brif dref arall o bwys.
Mae ardal tref Pen-y-bont a’i maestrefi wedi gweld twf sylweddol dros yr hanner canrif ddiwethaf, er bod y cymoedd wedi colli poblogaeth.
Allan o’r cyfanswm o 141,288 o bobl dros 3 oed yn y sir yn 2021, roedd 9.2 y cant sy’n gallu siarad Cymraeg. Mae hyn yn is nag yn y siroedd sy’n ffinio â hi, gyda’r niferoedd wedi aros yn weddol debyg dros y 10 mlynedd ddiwethaf, ond y ganran wedi gostwng yn sgil y cynnydd mewn poblogaeth.
Cymharol fach yw’r amrywiaethau rhwng ardaloedd a’i gilydd, er bod y canrannau sy’n gallu siarad Cymraeg fymryn yn uwch yn ardal Maesteg, a fu ymhlith trefi Cymreiciaf Morgannwg yn y gorffennol.
Ar droad yr ugeinfed ganrif, roedd mwyafrif clir – 57 y cant – o drigolion yr ardal sy’n cyfateb yn weddol agos i’r sir bresennol yn gallu siarad Cymraeg. Maesteg oedd y dref Gymreiciaf o ddigon, lle’r oedd 72 y cant yn gallu siarad Cymraeg yn ôl Cyfrifiad 1901 a thros 10 y cant yn Gymry uniaith. Roedd 57.9 y cant yn gallu siarad Cymraeg yng nghymoedd cyfagos Garw ac Ogwr, a 55.6 y cant yn Nosbarth Gwledig Pen-y-bont tuag at yr arfordir a Bro Morgannwg. Lleiafrif, ar y llaw arall, a oedd yn gallu siarad Cymraeg yn nhrefi Pen-y-bont (29.1 y cant) a Porthcawl (38.1 y cant). Dylid ychwanegu fodd bynnag mai tref fach iawn oedd Porthcawl ar y pryd gyda llai na 1,800 o boblogaeth, a llai na 6,000 oedd yn byw ym Mhen-y-bont hefyd, gyda mwyafrif trigolion y sir yn byw i fyny yn y tri chwm.
Gwelwyd newid pur ddramatig mewn iaith a phoblogaeth yn negawd cyntaf yr ugeinfed ganrif, pryd y saethodd poblogaeth ardal y sir bresennol o 54,702 i 78,418 – cynnydd o dros 40 y cant. Er bod cynnydd y 6,000 wedi bod yn nifer y siaradwyr Cymraeg, lleiafrif o’r boblogaeth oeddent bellach ar 47.6 y cant.
Roedd y newid yn drawiadol iawn ym Maesteg, a welodd gynnydd o 65 y cant yn ei phoblogaeth, ond lle disgynnodd y ganran a oedd yn gallu siarad Cymraeg i 60.5 y cant o’r trigolion. Dyma’r unig ran o’r sir bellach lle’r oedd mwyafrif yn gallu siarad Cymraeg. Hyd yn oed yma, mymryn dros hanner y plant o dan 10 a oedd yn gallu’r iaith, o gymharu â thros 70 y cant ymysg oedolion dros 45 oed.
Mae’r cyfan yn helpu esbonio inni sefyllfa’r Gymraeg yn y sir hanner canrif yn ddiweddarach.
Er bod poblogaeth yr ardal sy’n cyfateb (fwy neu lai’n union) â’r sir bresennol wedi cynyddu ymhellach i dros 100,000 erbyn Cyfrifiad 1961, roedd nifer y siaradwyr Cymraeg i lawr i 18,581, a oedd yn llai na hanner yr hyn oeddent hanner canrif ynghynt.
Maesteg oedd y dref Gymreiciaf o hyd, er nad oedd ond ychydig dros chwarter ei thrigolion yn gallu siarad yr iaith bellach. Roedd cyferbyniad eithafol i’w weld hefyd wrth edrych ar grwpiau oedran y siaradwyr. Tra bod 58 y cant o bobl dros 65 oed y dref yn gallu siarad Cymraeg nid oedd hyn yn wir ond am 10 y cant o blant o dan 10 oed.
Digon tebyg oedd y patrwm oedran mewn rhannau eraill o’r sir hefyd, a gwelwyd dirywiad sylweddol pellach yn y Gymraeg yn y sir yn ystod yr 1960au.
Erbyn Cyfrifiad 1971, collwyd traean o siaradwyr Cymraeg y sir, gyda’u niferoedd bellach i lawr i 12,130 a’u canran ond yn 10.7 y cant o’r boblogaeth. Dim ond 3,360 o siaradwyr Cymraeg oedd ar ôl ym Maesteg bellach, a mwy na’u traean dros 65 oed, a’u cyfran o boblogaeth y dref i lawr i 16.9 y cant.
Erbyn Cyfrifiadau 1981 ac 1991, roedd nifer siaradwyr Cymraeg y sir wedi gostwng ymhellach i ychydig dros 10,000 a’r ganran i tua 8 y cant.
Erbyn Cyfrifiad 2001, ar y llaw arall, roedd eu niferoedd wedi codi’n ôl i ychydig dros 13,000, gan gynrychioli 10.6 y cant o’r boblogaeth. Roedd hynny’n bennaf gan fod niferoedd y plant 3-15 oed a allai siarad Cymraeg wedi codi i 5,304, bron ddwbl y nifer 10 mlynedd ynghynt. Roedd 24.2 y cant o blant y sir bellach yn gallu siarad Cymraeg, o gymharu â llai na 8 y cant ym mhob grwp oedran rhwng 25 a 74 oed, er bod y gyfran fymryn uwch o 10.4 y cant ymhlith pobl dros 75 yn arwydd o weddillion o’r hyn a fu.
Ychydig iawn o newid a welwyd rhwng 2001 a 2011, er bod cynnydd pellach ym mhoblogaeth y sir yn golygu bod canran y siaradwyr Cymraeg bellach i lawr fymryn i 9.7 y cant. Ar y llaw arall, yn sgil lleihad yn nifer y plant, cododd canran y plant a oedd yn gallu siarad Cymraeg i 25.3 y cant.
Er na fu fawr ddim newid yn niferoedd y siaradwyr Cymraeg rhwng 2011 a 2021, gostyngodd eu canran fymryn i 9.2 y cant yn sgil cynnydd o bron i 8,000 ym mhoblogaeth y sir.
Ymysg plant 3-15 oed yr oedd y newid mwyaf, gyda gostyngiad o 1,143 yn eu nifer a’u canran i lawr o 25.3 i 17.8 y cant.
Mae’r ganran ymhlith pobl ifanc 16-24 wedi aros yn weddol debyg ar 14.6 y cant. Ar y llaw arall, mae cynnydd o dros 1,000 wedi bod ymhlith oedolion rhwng 25 a 65 sy’n gallu siarad Cymraeg, ac ymysg y bobl dros 65 oed mae rhai o’r canrannau isaf bellach.
Mwy arwyddocaol na’r gostyngiad yn niferoedd a chanrannau’r plant sy’n gallu siarad Cymraeg yw’r cwestiwn am ddilysrwydd y ffigurau hyn yng Nghyfrifiadau 2001 a 2011.
Yn ôl Cyfrifiad 2001, roedd nifer y plant 5-15 oed a oedd yn gallu siarad Cymraeg wedi dyblu i bron i 5,000; o ychwanegu 20 mlynedd at yr oedrannau hynny, ychydig dros 2,000 o oedolion 25-35 a oedd yn gallu siarad Cymraeg yn 2021.
Er hyn, nid yw’r cwymp hwn gymaint â’r hyn a welwyd i’r dwyrain yng Ngwent, ac un esboniad posibl o hyn yw nad oedd y ffigurau am y plant yn 2001 a 2011 lawn mor afrealistig.