Môn


Hafan > Siroedd > Môn

Show Toolbar
  • Show Caption
  • Hide Thumbmails
  • Show Categories
  • Play Slide Show
  • Display in Full Screen
  • Hide Toolbar

prif lun mon
 
 
  • prif lun mon
  • graff llinell mon
  • bar chart mon

Allan o gyfanswm o ychydig dros 67,000 o boblogaeth dros 3 oed, roedd 55.8 y cant yn gallu siarad Cymraeg ym Môn yn ôl Cyfrifiad 2021.

Hi bellach, ynghyd â Gwynedd, yw un o’r unig ddwy o siroedd presennol Cymru lle mae mwyafrif eu poblogaeth yn gallu siarad Cymraeg.

Canol yr ynys, sef tref Llangefni a’r cyffiniau, yw rhan Gymreiciaf yr ynys, er bod y ganran sy’n gallu siarad Cymraeg yn y dref i lawr i tua 75 y cant o’r boblogaeth o gymharu â thros 80 y cant yn 2011.

Caergybi yw’r dref fwyaf o ddigon, a’i phrif aneddiadau eraill yw Amlwch, Biwmares, Porthaethwy a Llanfairpwll.

Roedd dau draean o’i phoblogaeth wedi eu geni yng Nghymru, ac o'r rhain roedd tri chwarter ohonynt yn gallu siarad Cymraeg. 

Gan fod Sir Fôn wedi cael ei chydnabod fel uned wleidyddol ar hyd y blynyddoedd, tasg weddol syml yw gwneud cymariaethau cywir rhwng gwahanol gyfnodau a’i gilydd.

Mae’n gyson wedi bod ymhlith siroedd Cymreiciaf Cymru ers i gwestynau am y gallu i siarad Cymraeg gael eu cynnwys mewn cyfrifiadau, ac ers i’r siroedd diweddaraf ddod i rym yn 1996, dyma’r sir sydd wedi bod â’r ganran uchaf o siaradwyr Cymraeg ac eithrio Gwynedd.

Troad yr 20fed ganrif

Ar droad yr ugeinfed ganrif, Cymraeg oedd iaith mwyafrif llethol ei thrigolion, gyda bron i hanner y boblogaeth o 47,500 yn Gymry uniaith, a 91.7 y cant o’r boblogaeth yn gallu siarad yr iaith.

Dim ond yn nhrefi Biwmares a Chaergybi roedd y ganran ychydig yn is – 72.1 y cant yn Biwmares, ac 81.2 y cant yng Nghaergybi. Canran fach iawn o boblogaeth y ddwy dref hyn oedd yn uniaith Gymraeg. 

Roedd hyn yn cymharu â mwyafrifoedd llethol Cymraeg yn yr ardaloedd gwledig – fel Dosbarth Gwledig Twrcelyn yng ngogledd y sir, lle’r oedd 97.1 y cant yn medru siarad Cymraeg, a 63.0 y cant yn uniaith. Yn Nosbarth Gwledig Dwyran yn ne-orllewin yr ynys, roedd 98.8 y cant yn gallu siarad Cymraeg a 71 y cant yn uniaith.

Yr unig newid arwyddocaol yn negawd cyntaf yr ugeinfed ganrif oedd cwymp o dros 5,000 yn nifer Cymry uniaith y sir, gyda’u canran bellach i lawr i 36.2 y cant o’r boblogaeth. Er hyn roeddent yn dal i ffurfio mwyafrif o boblogaeth Dosbarthiadau Gwledig Twrcelyn, y Fali a Dwyran. 

Daliodd y Gymraeg ei thir yn gryf yma dros yr hanner canrif dilynol, a graddol iawn oedd y dirywiad, er i’r ganran ostwng o 87.4 y cant yn 1931 i 79.8 y cant yn 1951, a 75.5 y cant yn 1961. Erbyn Cyfrifiad 1961, roedd Môn, ynghyd â siroedd Meirionnydd, Aberteifi a Chaerfyrddin, yn un o bedair sir yn unig gyda mwy na thri chwarter eu trigolion yn gallu siarad Cymraeg.

Chwalfa yn y chwedegau

Yn ystod yr 1960au y gwelwyd y dirywiad mwyaf yng Nghymreictod yr ynys, ar raddfa fwy na chynt nac wedyn. Er bod cyfanswm y siaradwyr Cymraeg wedi aros fwy neu lai’n union yr un fath, cododd y boblogaeth o 49,156 yn 1961 i 56,450 – cynnydd o bron i 15 y cant. O ganlyniad, gostyngodd canran y siaradwyr Cymraeg bron i 10 pwynt canran, o 75.5 i 65.7 y cant.

Roedd yn gyfnod o newid mawr ar yr ynys, gydag adeiladu atomfa’r Wylfa yng ngogledd y sir a chodi tai mewn llawer o bentrefi glan-môr a oedd yn tyfu’n lleoedd poblogaidd i ymddeol. Mae’n ymddangos mai tua’r adeg yma y dechreuodd newid iaith sylweddol yng Nghaergybi hefyd.

Ymysg y lleoedd a welodd y gostyngiadau mwyaf yng nghanran y siaradwyr Cymraeg roedd Dosbarth Gwledig Twrcelyn yng ngogledd yr ynys, lle gwelwyd cynnydd o tua 1,500 yn y boblogaeth, a’r ganran a oedd yn gallu siarad Cymraeg yn gostwng o 83.0 i 68.5 y cant. Ym mhlwyf Llanfair Mathafarn Eithaf o fewn yr ardal hon (lle mae tref lan-môr Benllech), cynyddodd y boblogaeth o 1,488 yn 1961 i 2,420 yn 1971, a gostyngodd y ganran a oedd yn gallu siarad Cymraeg o 67.9 y cant i 46.9 y cant dros yr un cyfnod.

Er na welwyd llawer o newid poblogaeth yng Nghaergybi, roedd y ganran o’r boblogaeth a allai siarad Cymraeg yn y dref i lawr bellach i 60.9 y cant. Ar y llaw arall, roedd 82.7 y cant yn dal i siarad Cymraeg yn Llangefni ac mewn plwyfi cyfagos yng nghanol yr ynys.

Sefydlogi

Er i'r dirywiad barhau dros y degawdau dilynol, fe wnaeth arafu'n sylweddol, gyda’r sefyllfa wedi bod yn fwy sefydlog ar y cyfan.

Parhau i godi wnaeth poblogaeth yr ynys, i 63,760 yn 1981. Cafwyd cynnydd o ychydig dros 2,000 yn nifer y siaradwyr Cymraeg hefyd, er i’w canran ostwng i 61.6 y cant. Gyda chynnydd o 2,000 arall yn eu nifer erbyn Cyfrifiad 1991, cododd y ganran fymryn i 62.0 y cant.

Mae’r ganran o 55.8 y cant sy’n gallu siarad Cymraeg ym Môn yn cymharu â 57.2 y cant yn 2011, ac mae’r niferoedd wedi gostwng o 38,568 i 37,416 dros yr un cyfnod – colled o 1,152.

Yn wahanol i’r mwyafrif o siroedd eraill, mae’r nifer y plant 3-15 oed sy’n gallu siarad Cymraeg wedi aros tua’r un fath, er bod y ganran wedi gostwng o 75.9 y cant i 72.5 y cant, yn sgil cynnydd o ychydig dros 400 yng nghyfanswm y plant.

Mae’r colledion mwyaf yn niferoedd siaradwyr Cymraeg ym Môn i’w gweld yn y grwp oedran pobl ifanc 16-24 (686 yn llai) ac oedolion 35-49 oed (920 y llai). Eto i gyd, oherwydd lleihad ym mhoblogaeth gyffredinol y grwpiau oedran hyn, mae’r canrannau sy’n gallu siarad Cymraeg wedi codi fymryn.

Mae’r gwrthwyneb yn wir am yr oedrannau dros 65, lle mae cynnydd o bron i 600 yn y niferoedd sy’n gallu siarad Cymraeg, ond lle mae’r ganran wedi gostwng oherwydd cynnydd yn y boblogaeth gyffredinol yn yr oedrannau hyn. Bellach, lleiafrif o drigolion yr ynys sydd dros 50 oed sy’n gallu siarad Cymraeg.

Mae amrywiaeth bendant rhwng gwahanol ardaloedd o'r sir a'i gilydd, gyda chanol yr ynys â chanrannau uwch yn siarad Cymraeg nag ar yr arfordir, a Chaergybi â phatrwm ieithyddol pur wahanol i weddill yr ynys.

Canolbarth a de’r ynys

Mae'r ardal hon, ynghyd ag Arfon, Llyn ac Eifionydd a gogledd Meirionnydd yng Ngwynedd, yn ffurfio rhan o brif ardal graidd y Gymraeg yn y gogledd-orllewin.

Mae'r Gymraeg yn sylweddol gryfach yng nghanol yr ynys nag yw ar yr arfordir, yn enwedig yn Llangefni a’r cyffiniau, ac mae Llanfairpwll hefyd yn ganolfan weddol ei maint gyda mymryn dros 70 y cant yn gallu siarad Cymraeg. O roi cymunedau canolbarth a de-orllewin yr ynys at ei gilydd yn fras, mae niferoedd y siaradwyr Cymraeg wedi codi mymryn ers 2001 i tua 16,500 ond y ganran wedi gostwng o tua 76 i 70 y cant. Llangefni, y ganolfan fwyaf o ddigon, yw un o’r lleoedd sydd wedi gweld y dirywiad mwyaf, gyda’r ganran i lawr i 75.6 y cant yn 2021 o gymharu â 80.7 y cant yn 2011 a 83.8 y cant yn 2001, er bod niferoedd y siaradwyr Cymraeg wedi cynyddu tua 250 dros yr 20 mlynedd.

Arfordir a gogledd yr ynys

Er bod trefi a phentrefi’r arfordir yn cynrychioli ardaloedd gwahanol iawn i’w gilydd, mae’r canrannau sy’n gallu siarad Cymraeg ynddynt o fewn ystod digon tebyg i’w cyfrif gyda’i gilydd. Mae’r mwyafrif o gymunedau â rhwng 40 a 60 y cant sy’n gallu siarad Cymraeg, gyda thair yn unig – sef Trearddur, Biwmares a Llanfair-yn-Neubwll â chanrannau is. O roi’r cyfan at ei gilydd, collwyd 1,200 o siaradwyr Cymraeg ar hyd arfordir a gogledd yr ynys rhwng 2011 a 2021, ond yn sgil gostyngiad yn y boblogaeth, mae'r ganran wedi aros yn weddol debyg ar gyfartaledd, ar fymryn is na'r hanner.

Caergybi

Caergybi yw’r dref fwyaf o bell ffordd, ac mae ei phatrwm ieithyddol wedi bod yn bur wahanol i weddill yr ynys dros y degawdau diwethaf. Ar y naill law, mae canran lawer uwch nag yng ngweddil yr ynys o’i phoblogaeth wedi eu geni yng Nghymru, a oedd yn cyfrif am dri chwarter y boblogaeth yn 2011. Ar y llaw arall, canran lawer is – prin hanner – y bobl hyn a aned yng Nghymru sy'n gallu siarad Cymraeg. 

Cafwyd cwymp o bron i 500 yn nifer y siaradwyr Cymraeg rhwng 2001 a 2011, gyda’r ganran yn gostwng o 47.2 i 42.2 y cant. Roedd arwyddion pendant hefyd fod y boblogaeth Gymraeg ei hiaith sy’n heneiddio. 

Eto i gyd, cafwyd cynnydd o 343 yn nifer y siaradwyr Cymraeg yng Nghyfrifiad 2021, gyda’r ganran hefyd yn codi fymryn i 42.5 y cant. Rhaid tybio bod y cynnydd hwn i’w briodoli yn rhannol o leiaf i’r cynnydd o 700 ym mhoblogaeth y dref a phobl wedi symud yno o rannau eraill o’r ynys.