Merthyr Tudful


Hafan > Siroedd > Merthyr Tudful

Show Toolbar
  • Show Caption
  • Hide Thumbmails
  • Show Categories
  • Play Slide Show
  • Display in Full Screen
  • Hide Toolbar

siart gron
 
 
  • siart gron
  • graff llinell
  • graff oedran

Merthyr Tudful yw’r sir leiaf ei phoblogaeth yng Nghymru, ac allan o’r cyfanswm 57,000 o bobl dros 3 oed, roedd ychydig dros 5,000 yn gallu siarad Cymraeg yn 2021, a 2,000 eraill yn ei deall.

Roedd yn un o bedair sir yn unig yng Nghymru i ddangos cynnydd mewn niferoedd ers 2011, er nad oedd y cynnydd yma ond 50, gyda’r ganran o 8.9 y cant yn aros yr un fath.

Er bod y sir yn cynnwys rhes o bentrefi uchaf Cwm Taf, tref Merthyr yw’r unig anheddiad mawr ynddi. Cymharol fach yw’r amrywiadau daearyddol o fewn sir, gyda’r canrannau isaf yn wardiau’r Gurnos (5.3 y cant) a Penydarren (6.2 y cant) a’r canrannau uchaf yn wardiau Merthyr Vale (12.1 y cant), Treharris (11.7 y cant) a’r dref (10.4 y cant).

Yn wahanol i rai o siroedd eraill y de-ddwyrain, mae Merthyr Tudful wedi bod yn uned gydnabyddedig o lywodraeth leol, gymharol gyson ei ffiniau, ers dros ganrif, fel bwrdeistref sirol i ddechrau cyn dod yn sir unedol yn 1996. Mae hyn yn golygu ei bod yn symlach gwneud cymariaethau â’r gorffennol.

I raddau helaeth, mae hanes y Gymraeg ym Merthyr yn ddrych o’r hyn a ddigwyddodd mewn rhannau helaeth o gymoedd Morgannwg dros y ddwy ganrif ddiwethaf.

Roedd mwyafrif ei thrigolion – 57.2 y cant – yn gallu siarad Cymraeg ar droad yr ugeinfed ganrif, allan o boblogaeth o 63,681 o bobl dair oed a throsodd. Nid oedd y ganran hon yn amrywio cymaint yn ôl oedran chwaith ag oedd yn rhai o’r cymoedd i’r dwyrain iddi, a oedd wedi cychwyn Seisnigeiddio yng nghynt. Er bod y ganran o blant 3-14 oed a allai siarad Cymraeg fymryn llai na’r hanner ar 48.2 y cant, gostyngiad gweddol raddol oedd i’w weld yn y grwpiau oedran, o 69.8 y cant o bobl dros 65, i 67.6 y cant o bobl 45-64 oed, i 60.0 y cant o bobl 25-44 oed.

Ar un ystyr, nid yw’n syndod fod y Gymraeg wedi dal ei thir gystal yma. Dengys data sydd ar gael o 1851 fod 89.4 y cant o drigolion yr ardal wedi eu geni yng Nghymru. Nid yw hynny’n golygu y byddai pawb o’r rhain yn gallu siarad Cymraeg, gan ei bod yn debygol y byddai rhai wedi dod o ardaloedd cyfagos llai Cymraeg eu hiaith gerllaw’r ffin. Yr hyn mae ystadegau Cyfrifiad 1901 yn ei awgrymu yw y gallai hyd at 70 y cant o blant Merthyr fod yn gallu siarad Cymraeg hanner canrif ynghynt. Mae’n debygol y byddai rhai cymunedau Cymreiciach na’i gilydd yn yr ardal, ac y byddai hynny hefyd wedi cyfrannu at barhad yr iaith. Gallai hynny hefyd esbonio sut bod 4,500 o Gymry uniaith yno yn 1901.

Tyfodd poblogaeth y fwrdeistref i 74,597 erbyn 1911, a oedd mewn gwirionedd yn dwf bach o gymharu â’r ffrwydrad mewn poblogaeth a welwyd mewn cymoedd cyfagos ym Morgannwg a Gwent. Fodd bynnag, roedd yn golygu bod y ganran o bobl a allai siarad Cymraeg wedi gostwng i fymryn dros yr hanner, sef 50.2 y cant. Gwelwyd gostyngiad o tua 2,000 yn nifer y Cymry uniaith, ond cynnydd o ychydig dros 3,000 yn y Cymry dwyieithog.

Roedd olion o ddirywiad, fodd bynnag, bellach yn amlwg wrth graffu ar y gallu i siarad Cymraeg yn ôl oedran yn 1911. Dim ond 35.4 y cant o blant 3-4 oed a allai siarad Cymraeg yn y fwrdeistref bellach o gymharu â 63.7 y cant ymhlith pobl 45-64 oed a 68.6 y cant ymhlith pobl dros 65. Yr hyn sy’n drawiadol yw mor debyg yw’r canrannau hyn ymysg y to hyn i’r hyn oeddent 10 mlynedd ynghynt. Mae’r cyfan awgrymu sefydlogrwydd cymharol yn natur ieithyddol yr ardal hyd at yn agos at ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg, ond bod rhyw drobwynt wedi ei gyrraedd erbyn 1911.

Cyfrifiadau 1961 ac 1971

Roedd gweddillion siaradwyr Cymraeg cynhenid Merthyr yn dal i ffurfio lleiafrif sylweddol o’r boblogaeth mor ddiweddar ag 1961, gydag ychydig dros 13,000 yn cynrychioli canran o 20.5 y cant. (Cynhwyswyd wardiau’r Faenor a Bedlinog yn y ffigurau hyn, er mwyn cadw cysondeb â’r sir bresennol.)

Yn ward Dowlais roedd y ganran uchaf o ddigon o siaradwyr Cymraeg, ar 36.9 y cant, heb gymaint â hynny o amrywiaeth rhwng y lleill.

Wrth edrych ar y ffigurau yn ôl oedrannau (nad ydynt ar gael ond ar gyfer y fwrdeistref sirol gyfan), gwelwn fod 47 y cant o bobl 65 oed a hŷn yn gallu siarad Cymraeg ym Merthyr yn 1961. Canran sydd bron union yr un fath â’r 48 y cant o blant 3-14 oed a allai siarad Cymraeg yno yn 1901.

Erbyn 1961, fodd bynnag, dim ond 4.6 y cant o blant 3-14 oed Merthyr a oedd yn gallu siarad Cymraeg, wrth i’r canrannau ostwng yn gyflym trwy’r grwpiau oed.

Roedd yn anochel fod cwymp mawr arall ar y ffordd, ac erbyn 1971 ychydig llai na 7,000 o siaradwyr Cymraeg a oedd ar ôl ym Merthyr, a’u cyfran o boblogaeth y sir i lawr i 11.6 y cant. Hyd yn oed yn Nowlais, roedd y ganran i lawr i 21.1 y cant. 

Hyd yn oed o blith pobl dros 65 oed, llai na’u traean (31.3 y cant) oedd yn gallu siarad Cymraeg bellach. Pobl dros 65 oed oedd dros 40 y cant o siaradwyr Cymraeg Merthyr bellach, o gymharu â ffigur cyfatebol am y boblogaeth gyfan o ychydig llai na 15 y cant.

Y degawdau diwethaf

Wrth i niferoedd a chanrannau’r siaradwyr Cymraeg barhau i ostwng yn negawdau olaf y ganrif ddiwethaf, dim ond 4225 allan o’r boblogaeth o 56,562 a allai siarad Cymraeg erbyn 1991, a’r ganran i lawr i 7.5 y cant. 

Roedd rhai o olion olaf y gymdeithas Gymraeg wreiddiol i’w gweld o hyd gyda’r ganran yn codi i 24.5 y cant o bobl dros 85 oed. Ar y llaw arall, roedd rhywfaint o gynnydd i’w weld ymhlith plant erbyn hynny, gyda 9.2 y cant o blant 3-4 oed a 13.2 y cant o blant 5-11 oed yn gallu siarad Cymraeg.

Erbyn Cyfrifiad 2001, roedd nifer y plant a allai siarad Cymraeg wedi codi’n sylweddol. Bellach roedd 2,420 (23.8 y cant) o blant y sir yn gallu siarad Cymraeg, gan godi cyfanswm yr holl siaradwyr i 5,420, sef 10 y cant o’r boblogaeth.

Er hyn, nid oedd y cynnydd hwn agos mor ddramatig a’r hyn a welwyd mewn siroedd cyfagos fel Torfaen a Blaenau Gwent, ac o’r herwydd mae’n deg tybio ei fod yn fwy realistig.

Lleihaodd y niferoedd ychydig i 5,028 erbyn Cyfrifiad 2011, gan ostwng y ganran i 8.9 y cant. Roedd hyn i’w briodoli’n bennaf i leihad o ychydig dros 400 yn nifer y plant a allai siarad Cymraeg, o gymharu â 10 mlynedd ynghynt, er bod hynny’n bennaf yn adlewyrchiad o’r gostyngiad cyffredinol yn nifer y plant.

Un o’r prif resymau pam fod niferoedd y siaradwyr Cymraeg wedi dal eu tir yma yn wahanol i siroedd cyfagos yw na fu cymaint o leihad ymysg plant.

Bach iawn fu’r gostyngiad yn niferoedd a chanrannau’r plant 3-15 sy’n gallu siarad Cymraeg o gymharu ag yn 2011. Gostyngodd y niferoedd o 1,993 i 1,826 a’r ganran o 22.7 i 19.7 y cant.

Gostwng ychydig wnaeth niferoedd sy’n gallu siarad Cymraeg ymhlith pobl ifanc 16-24 oed hefyd, er bod y ganran wedi codi fymryn.

Ar y llaw arall, gwelwyd cynnydd mewn niferoedd a chanrannau ymhlith oedrannau rhwng 25 a 50. Bellach ymlith y to hŷn mae’r canrannau isaf sy’n gallu siarad Cymraeg yn y sir – dim ond ychydig dros 3 y cant o bobl dros 50 oed sy’n gallu Cymraeg.

Fel ym mhobman arall yng Nghymru i wahanol raddau, gwelir gostyngiadau sylweddol yn y gallu i siarad Cymraeg ymysg plant erbyn maent yn oedolion.

Yn 2001, roedd 2,261 o blant rhwng 5 a 15 y sir yn gallu siarad Cymraeg; erbyn 2021, dim ond 868 o’r genhedlaeth honno a oedd bellach yn 25 i 35 oed a oedd yn gallu’r iaith. Mae hyn yn ostyngiad mwy na’r hyn yw yng Nghymru ar gyfartaledd, ond yn sylweddol is na’r hyn a welwyd yn siroedd cyfagos Torfaen, Blaenau Gwent, Mynwy a Chasnewydd. Gellir bod yn weddol sicr mai’r prif reswm dros hyn yw bod y ffigurau gwreiddiol am y plant yn 2001 ychydig yn fwy realistig na’r hyn oeddent ar gyfer y siroedd hynny.