Gwynedd


Hafan > Siroedd > Gwynedd

Show Toolbar
  • Show Caption
  • Hide Thumbmails
  • Show Categories
  • Play Slide Show
  • Display in Full Screen
  • Hide Toolbar

pie chart gwynedd
 
 
  • pie chart gwynedd
  • graff llinell gwynedd
  • bar chart gwynedd

Gwynedd yw’r sir sydd â’r ganran uchaf - a’r nifer mwyaf bellach - o bobl sy’n gallu siarad Cymraeg.

Yn ôl Cyfrifiad 2021, roedd 73,558 allan o 114,312 o bobl dros 3 oed y sir yn gallu siarad Cymraeg, gyda’r ganran o 64.3 y cant ychydig llai na dau draean o’r boblogaeth.

O fewn y sir mae rhai o gadarnleoedd cryfaf y Gymraeg, gyda rhan helaeth ohoni, ynghyd â chanolbarth Môn yn ffurfio prif ardal graidd y Gymraeg yn y gogledd-orllewin.

Er bod i’r enw Gwynedd arwyddocâd holl bwysig sy’n mynd yn ôl ganrifoedd yn hanes Cymru, nid yw’r sir bresennol ond rhan fach o’r hyn a fu. Ymestynai teyrnas Tywysogion Gwynedd dros rannau helaeth o ogledd Cymru cyn iddi ddod i ben gyda’r goncwest yn 1282. Yn dilyn Statud Rhuddlan yn 1284, rhannwyd Gwynedd Uwch Conwy yn siroedd Môn, Caernarfon a Meirionnydd, cyn i’r tair sir ailuno o dan yr enw Gwynedd ganrifoedd yn ddiweddarach yn 1974. Rhan o’r sir honno yw’r sir bresennol, a ffurfiwyd yn 1996, a ffurfiwyd o ardaloedd cynghorau dosbarth Arfon, Dwyfor a Meirionnydd. 

Dros y canrifoedd, arhosodd yr enw Gwynedd yn fyw yn y cof; ‘Cadernid Gwynedd’ oedd arwyddair Sir Gaernarfon, cyn i hwnnw gael ei fabwysiadu gan y ddwy sir ddiweddarach yn dwyn yr enw Gwynedd. 

Roedd dau draean o’r boblogaeth wedi eu geni yng Nghymru yn ôl Cyfrifiad 2021, cyfran debyg i’r hyn oedd 10 mlynedd ynghynt, ac o'r rhain, roedd 87 y cant yn gallu siarad Cymraeg. Gwynedd hefyd sydd â'r gyfran uchaf - ychydig dros un o bob pump - o'r bobl a aned y tu allan i Gymru sy'n gallu siarad Cymraeg. 

Ar droad yr ugeinfed ganrif, roedd mwy na hanner trigolion yr ardal sy’n cyfateb â sir bresennol Gwynedd - 54.0 o’r boblogaeth yn uniaith Gymraeg, a’r mwyafrif llethol – 94.1 y cant – yn gallu siarad yr iaith. Yr unig leoedd â chanrannau ychydig yn is yn gallu siarad Cymraeg roedd Bangor a threfi glan-môr Abermaw a Tywyn ym Meirionnydd.

Fel yn siroedd Môn ac Aberteifi, roedd y canrannau uchaf o Gymry uniaith yn tueddu i fod yn yr ardaloedd gwledig, yn enwedig Dosbarth Gwledig Llŷn, lle’r oedd dros dri chwarter y boblogaeth o ychydig llai na 16,000 yn uniaith Gymraeg, a Dosbarth Gwledig Glaslyn yn Eifionydd, gyda 74.6 y cant yn uniaith Gymraeg.

Un peth a oedd yn gwneud ardal sir bresennol Gwynedd yn unigryw, fodd bynnag, oedd bodolaeth ardal ddiwydiannol mor drwyadl Gymraeg. Drwy holl brif ardaloedd chwareli Sir Gaernarfon a Sir Feirionnydd, roedd fwy neu lai bawb yn siarad Cymraeg, gyda chanrannau o 99.1 y cant yn Nosbarth Trefol Bethesda, 98.2 y cant yn Nosbarth Trefol Ffestiniog a 98.3 y cant yn Nosbarth Gwledig Gwyrfai, a oedd yn cynnwys Dyffryn Nantlle, Llanberis a phentrefi eraill Chwarel Dinorwig. Roedd dros 70 y cant o drigolion Dosbarth Gwledig Gwyrfai yn uniaith Gymraeg, a mwyafrif clir yn ardaloedd Bethesda a Ffestiniog.

Pe bai rhywun yn edrych ar holl ardaloedd llechi Gwynedd yn eu cyfanrwydd, roedd yma boblogaeth o bron i 50,000 gyda dau draean yn uniaith Gymraeg a 97.8 y cant yn siarad yr iaith. Does dim amheuaeth o gwbl am arwyddocâd y Gymraeg yn y diwydiant nac ychwaith o arwyddocâd y diwydiant yn hanes yr iaith. Yn wir, gellir dadlau na fu erioed gymaint drwch o boblogaeth lawn mor drwyadl Gymraeg yn byw mor agos at ei gilydd. Cwestiwn arall gwerth ei ofyn yw i ba raddau roedd y cyfraddau uchel o unieithrwydd Gymraeg yn un o’r ffactorau pam fod y Gymraeg wedi goroesi’n well yn yr ardaloedd hyn nag yn ardaloedd gorllewinol y maes glo ganrif yn ddiweddarach.

Erbyn Cyfrifiad 1911, y newid mwyaf arwyddocaol fu cwymp o tua 17,500 yn nifer y Cymry uniaith, nad oedd bellach yn cyfrif ond am 41.9 y cant o’r boblogaeth, er eu bod yn dal i ffurfio mwyafrif yn Nosbarth Trefol Bethesda, a Dosbarthiadau Gwledig Gwyrfai, Llŷn, Glaslyn a Phenllyn. Bu gostyngiad tua 5,000 yn y boblogaeth yn gyffredinol, ond fawr o newid yn y ganran a oedd yn gallu siarad Cymraeg.

1961-1991

Dros yr hanner canrif dilynol, daliodd y Gymraeg ei thir yn well yn ardal sir bresennol Gwynedd nag yn siroedd eraill y gorllewin. Yng Nghyfrifiad 1961, roedd 80.4 y cant o drigolion ardal y sir bresennol yn gallu siarad Cymraeg, o gymharu â 75 y cant yn siroedd Môn, Aberteifi a Chaerfyrddin. 

Roedd cyfran uchel o 76.3 y cant yn dal i allu siarad Cymraeg yn ardal sir bresennol Gwynedd yn 1971, a chanrannau o dros 80 y cant yn nhrefi Bethesda, Caernarfon, Porthmadog, Pwllheli, Ffestiniog a’r Bala, ac yn Nosbarthiadau Gwledig Gwyrfai, Llyn a Phenllyn.

Arhosodd y ganran fwy neu lai’r un fath rhwng 1971 ac 1981, gyda’r boblogaeth yn cael ei chyfrif yn ôl ardaloedd cynghorau dosbarth y siroedd newydd a ddaeth i rym yn 1974. O’r tair ardal sy’n ffurfio sir bresennol Gwynedd, roedd  76.6 y cant yn siarad Cymraeg yn Arfon, 81.5 y cant yn Nwyfor a 71.2 y cant ym Meirionnydd.

Gostyngodd y ganran ychydig i 72.1 y cant erbyn 1991, er bod niferoedd y siaradwyr Cymraeg wedi aros fwy neu lai yr un fath. Roedd y gostyngiadau mwyaf i’w weld yn y ddwy ardal wledig, i lawr i 75.5 y cant yn Nwyfor a 65.5 y cant ym Meirionnydd. Roedd mwyafrif llethol – 87.1 y cant – o’r bobl a aned yng Nghymru’n gallu siarad Cymraeg, a bron i chwarter – 24.6 y cant – o’r bobl a aned y tu allan i Gymru’n gallu’r iaith hefyd.

Mae’r ganran o 64.3 y cant sy’n gallu siarad Cymraeg yng Ngwynedd yn cymharu â 65.4 y cant yn 2011 a 68.7 y cant yn 2001.

Er mai bach fu’r gostyngiad yn y ganran, collwyd bron i 3,500 o siaradwyr Cymraeg rhwng 2011 a 2021, gyda chwymp cyffredinol yn y boblogaeth yn bennaf gyfrifol am hyn.

Mae bron i fil o blant 3-15 oed yn llai yn gallu siarad Cymraeg, a’r ganran i lawr o 89.1 y cant i 86.2 y cant, wrth i leihad cyffredinol yn nifer y plant gadw’r ganran yn weddol uchel.

Fel ym mhobman arall yng Nghymru heblaw Caerdydd, cafwyd gostyngiad hefyd ymysg y grwp oedran 16-24. Er i’r nifer ostwng tua 1,200, mae’r ganran wedi codi ychydig i 60.2 y cant yn sgil lleihad sylweddol ym mhoblogaeth gyffredinol y grwp oedran, lleihad y gellir ei briodoli’n rhannol o leiaf i bresenoldeb llai o fyfyrwyr yn sgil cynnal y Cyfrifiad mewn cyfnod clo.

Cadwyd cynnydd o tua 400 yn nifer y siaradwyr Cymraeg 25-34 oed, gyda’r ganran yn aros yn weddol debyg. O fewn y grwp oedran 35-49 y gwelwyd y golled fwyaf, gyda’r nifer tua 2,700 yr hyn oedd yn 2011, ond unwaith eto, daliodd y ganran ei thir ar tua’r dau draean.

Ymysg pobl dros 50 oed, ar y llaw arall, bu cynnydd bach yn nifer y siaradwyr Cymraeg, ond mae cynnydd ymysg y boblogaeth gyffredinol dros 65 oed yn golygu bod y canran ymysg y bobl hyn wedi gostwng ychydig. O ystyried bod cyfrifiadau blaenorol yn dangos mwyafrifoedd llethol o’r bobl a aned yng Nghymru’n gallu siarad Cymraeg, gellir tybio mai pobl o’r tu allan i Gymru yn symud i ymddeol yw'r prif ffactor yn hyn.

Mae’r ffigurau ar gyfer y sir gyfan yn cuddio amrywiaeth gweddol sylweddol o’i mewn, gyda rhan helaeth ohoni yn ffurfio cadarnle cryfaf a mwyaf poblog y Gymraeg. Ar y llaw arall, mae ardaloedd eraill, sef dinas Bangor a threfi arfordir Meirionnydd yn benodol, lle mae’r canrannau sy’n gallu siarad Cymraeg yn llawer is.

Cadarnleoedd cryfaf y Gymraeg

Mae’r rhan fwyaf o gadarnleoedd cryfaf y Gymraeg yng Nghymru heddiw wedi eu lleoli mewn ardal sy’n ymestyn dros y rhan fwyaf o Arfon, Llŷn ac Eifionydd a gogledd Meirionydd. O’u cyfrif gyda’i gilydd, mae ychydig dros 70 y cant o’r boblogaeth yn gallu siarad Cymraeg, a’r mwyafrif llethol o’r boblogaeth gynhenid. 

Caernarfon a phentrefi’r chwareli - Os edrychwn ar y cyfan o Arfon heblaw Bangor gyda’i gilydd, dim ond dwy gymuned denau iawn eu poblogaeth, sef Abergwyngregyn a Betws Garmon,  sy’n dangos canrannau is na 60 y cant yn gallu siarad Cymraeg. Fel mae’n digwydd, mae’r ddwy yn dangos cynnydd bach o gymharu â 2011 a 2001.

Mae tref Caernarfon a thair cymuned o’i chwmpas, sef Llanrug, Bontnewydd a Llanwnda yn dangos canrannau o dros 80 y cant, er bod y ganran o 81.4 yng Nghaernarfon yn dangos gostyngiad o 4.2 y cant o gymharu â 2011.

Ardal Llanberis sydd wedi dangos mwyaf o ddirywiad yma, lle mae’r ganran i lawr o 80.6 y cant yn 2001 i 69.5 y cant yn 2021. Anodd osgoi’r casgliad bod y gor-dwristiaeth mae’r pentref wedi ei ddioddef dros y blynyddoedd diwethaf wedi bod yn ffactor allweddol yn hyn.

Llŷn ac Eifionydd / Rhanbarth Dwyfor - O edrych ar yr ardal hon yn ei chyfanrwydd, mae’r ganran sy’n gallu siarad Cymraeg wedi dal ei thir yn dda iawn ynddi (69.9 y cant o gymharu â 71.3 y cant yn 2011). Er hyn, mae hynny i raddau helaeth iawn yn sgil cwymp yn y boblogaeth, gan y cafwyd gostyngiad o 1,340 yn niferoedd y siaradwyr Cymraeg yma. 

Ymhlith y lleoedd a welodd gynnydd yng nghanran y siaradwyr Cymraeg roedd cymunedau Llanengan (lle mae Abersoch) a Llanbedrog, ond unwaith eto roedd hyn o ganlyniad i ostyngiad yn y boblogaeth. 

Mae’r lleoedd hyn, fel Nefyn, lle cafwyd gostyngiad bach iawn, yn cael eu crybwyll yn aml fel lleoedd mae tai haf yn broblem. Gan fod y ffaith fod y Cyfrifiad wedi ei gynnal yn ystod cyfnod clo yn debygol o olygu absenoldeb perchnogion ail gartrefi, gallai hyn fod yn esboniad pam fod y canrannau wedi dal eu tir. Ar y llaw arall, wrth gwrs, gallai ail gartrefi fod wedi cyfrannu at y lleihad mewn poblogaeth. 

Gogledd Meirionnydd - Yr ardal hon, sy’n cynnwys Penrhyndeudraeth, Ffestiniog a’r Bala a’r pentrefi cyfagos, yw’r ardal Gymreiciaf o ddigon ym Meirionnydd. Er hyn, mae wedi profi dioddef rhywfaint o ddirywiad graddol, gyda chanran gyfartalog yr ardal gyfan yn gostwng o 78.4 y cant yn 2001 i 75.7 y cant yn 2011 i 72.9 y cant yn y cyfrifiad diwethaf. Dros yr un cyfnod gostyngodd cyfanswm y siaradwyr Cymraeg o ychydig dros 10,000 yn 2001 i 9,557 yn 2021. Y newid mwyaf annisgwyl dros y 10 mlynedd ddiwethaf yw gostyngiad sylweddol a welwyd yn y Bala, i lawr o 78.5 y cant yn 2011 i 72.5 y cant yn 2021. Mae plwyfi Llanuwchllyn a Llanycil gerllaw, fodd bynnag, wedi dal eu tir yn gadarn ar dros 80 y cant.

Gweddill y sir

Y prif ganolfannau lle mae’r canrannau sy’n gallu siarad Cymraeg yn llawer is yw Bangor, a threfi glan-môr Meirionnydd. Mae ardal wledig de Meirionnydd ag ychydig dros hanner y boblogaeth yn gallu siarad Cymraeg.

Bangor - Gan fod dinas Bangor yn wahanol iawn ei natur ieithyddol i weddill Arfon, ac yn lle mawr a fyddai’n ystumio gormod ar y ffigurau, mae’n well ei hystyried ar wahân.

Bu cwymp dramatig yn y ganran a oedd yn gallu siarad Cymraeg ym Mangor rhwng 2001 a 2011 o 46.7 i 36.4 y cant. Roedd hyn i’w briodoli i gynnydd o 2,700 ym mhoblogaeth y ddinas (myfyrwyr yn bennaf), ond hefyd i gwymp o dros 400 yn nifer y siaradwyr Cymraeg. Erbyn 2021, a’r Cyfrifiad yn cael ei gynnal dan gyfnod clo, cafwyd gostyngiad o 1,200 ym mhoblogaeth y ddinas, ond yn sgil gostyngiad pellach o 330 yn nifer y siaradwyr Cymraeg, mae’r ganran wedi aros yn weddol debyg ar 37.2 y cant. Dangosodd cyfrifiad 2011 fod y siaradwyr Cymraeg yn boblogaeth a oedd yn heneiddio yn y ddinas, a gall yr un peth fod yn wir eto.

Trefi a phentrefi arfordir Meirionnydd - Dyma dyma ardal fwyaf Seisnig Meirionnydd, yn enwedig yr arfordir deheuol o Arthog i lawr i Aberdyfi. Er hyn daliodd y Gymraeg ei thir yma o ran canran rhwng 2011 a 2021, gyda chynnydd bach o 41.2 i 41.9 y cant. Ar y llaw arall, bu gostyngiad o 361 yn eu niferoedd. Mae’r canrannau’n codi wrth deithio tuag at Ardudwy yn y gogledd, gydag ychydig dros hanner poblogaeth Harlech yn gallu siarad Cymraeg.

Mewn gwirionedd mae’r ffordd mae’r trefi a phentrefi glan-môr hyn wedi dal eu tir o ran y canrannau sy’n gallu siarad Cymraeg yn adlewyrchu tueddiad tebyg ar hyd arfordir y gorllewin, sydd i’w weld ym Môn, Llŷn a Cheredigion. Mae’n rhesymol tybio fod y ffaith fod y Cyfrifiad wedi digwydd mewn cyfnod clo pan nad oedd fawr ddim gweithgarwch twristiaeth ynddynt wedi bod yn ffactor allweddol yn hyn.

De Meirionnydd - Yr ardal denau ei phoblogaeth hon sydd wedi gweld rhai o'r gostyngiadau mwyaf yng Ngwynedd, o ran canrannau a niferoedd y rhai sy’n gallu siarad Cymraeg. Disgynnodd eu niferoedd o 4,410 yn 2001 i 3,725 yn 2021, a’r ganran o 65.0 i 56.1 y cant dros yr un cyfnod. Corris yw’r gymuned sydd wedi gweld mwyaf o ddirywiad, o ychydig dros 60 y cant yn 2001 i 44.0 y cant erbyn hyn. Gostyngodd y ganran yn Nolgellau hefyd o 71.0 i 60.7 y cant dros yr un cyfnod.