Roedd 29,000 yn gallu siarad Cymraeg yn sir Conwy yn ôl Cyfrifiad 2021, gan ffurfio 25.9 y cant o’r boblogaeth, gyda bron i 11,000 ychwanegol yn deall Cymraeg, sy’n agos at 10 y cant arall o’r boblogaeth.
Prin bod canrannau ar y gyfer y sir gyfan yn dweud llawer wrthym fodd bynnag. Mae gwahaniaethau enfawr rhwng trefi’r arfordir, lle mae mwyafrif y boblogaeth yn byw, a’r canrannau sy’n gallu siarad Cymraeg yn isel, a’r ardal wledig fewndirol lle mae ychydig dros hanner y boblogaeth yn gallu siarad Cymraeg.
Mae’r sir, a gafodd ei ffurfio yn 1996, wedi ei lleoli yng nghanol gogledd Cymru, ac yn ffinio â Gwynedd yn y gorllewin a’r de ac â Sir (bresennol) Dinbych yn y dwyrain.
Mae’n ymestyn ar hyd arfordir y gogledd o Lanfairfechan yn y gorllewin at Fae Cinmel a Towyn yn y dwyrain, gan gynnwys trefi Conwy, Llandudno, Bae Colwyn ac Abergele. Mae ei mewnwlad yn cynnwys y cyfan o Ddyffryn Conwy yn y gorllewin ac ardal wledig sy’n ymestyn at gyrion Dyffryn Clwyd yn y dwyrain ac Uwchaled yn y de. Llanrwst yw’r unig dref o bwys yn yr ardal wledig.
Mae 38 y cant o boblogaeth y sir wedi eu geni yn Lloegr, canran uwch na phob sir arall ac eithrio Powys a Sir y Fflint, er bod y 56 y cant sydd wedi eu geni yng Nghymru i fyny ychydig ar yr hyn oedd yn 2011. O'r rhai a aned yng Nghymru, roedd 41.4 y cant yn gallu siarad Cymraeg yn 2021.
Nid yw’r sir hon yn cynrychioli unrhyw fath o ranbarth ieithyddol ystyrlon yn y cyfnod diweddar. Mae’n cynnwys rhai o ardaloedd Cymreiciaf Cymru ar y naill law, ond rhai o’r ardaloedd mwyaf Seisnig hefyd ar y llaw arall. Mae’r rhaniad amlycaf rhwng trefi glan-môr yr arfordir, lle mae mwyafrif llethol y boblogaeth y boblogaeth yn byw, a pherfeddwlad wledig y sir lle mae’r Gymraeg yn dal yn iaith fwyafrifol y boblogaeth, er bod amrywiaeth o fewn y rhannau hyn hefyd.
Yn hanesyddol, mae’r sir wedi ei ffurfio o ran ddwyreiniol yr hen Sir Gaernarfon a rhan orllewinol y Sir Ddinbych wreiddiol, a gafodd ei diddymu yn 1974. Ni ddylid drysu rhwng y sir hon a’r Sir Ddinbych newydd a ddaeth i rym yn 1996, a gafodd ei ffurfio o ran yn unig o’r Sir Ddinbych wreiddiol, ynghyd â rhan weddol helaeth o sir wreiddiol y Fflint hefyd.
Er hyn, mae’n weddol hawdd edrych ar ardal sy’n cyfateb i’r sir bresennol er mwyn gwneud cymariaethau â’r gorffennol.
Ar droad yr ugeinfed ganrif, pan nad oedd y trefi glan-môr ond ar gamau cynnar yn eu datblygiad, a phoblogaeth yr ardal sy’n cyfateb â’r sir bresennol lai na hanner yr hyn yw heddiw, roedd dros dri chwarter trigolion yn gallu siarad Cymraeg. Er hyn roedd y ganran eisoes fymryn yn llai na’r hanner yn y ddwy dref fwyaf, sef Llandudno (49.8 y cant) a Bae Colwyn (48.4 y cant). Ar y llaw arall, roedd dros 80 y cant yn gallu siarad Cymraeg yn nhrefi eraill yr arfordir – Conwy (80.2 y cant), Abergele (81.5 y cant), Penmaenmawr (81.2 y cant) a Llanfairfechan (86.5 y cant).
Yng ngweddill y sir roedd y canrannau’n gyson dros 90 y cant, gyda Chymry uniaith yn ffurfio mwyafrif y boblogaeth yn Nosbarthiadau Gwledig Geirionnydd yn Sir Gaernarfon a hefyd Hiraethog ac Uwchaled yn Sir Ddinbych. Roedd canran o 78 y cant o Gymry uniaith yn Uwchaled gyda’r uchaf yng Nghymru, er y dylid ychwanegu nad oedd hon ond ardal fach a oedd yn cynnwys ychydig dros 2,000 o drigolion.
Roedd y tueddiadau demograffig a ddaeth mor amlwg yn y sir yn ystod y ganrif ddiwethaf eisoes i’w gweld erbyn Cyfrifiad 1911. Gyda chynnydd o dros 6,000 yn y boblogaeth, gostyngodd canran y siaradwyr Cymraeg i 68.4 y cant. Cododd poblogaethau Llandudno i dros 10,000 a Bae Colwyn i dros 12,000, lle gostyngodd canran y siaradwyr Cymraeg i 43.7 y cant yn y cyntaf a 40.7 y cant yn yr ail. Gostyngodd y ganran i 68.8 y cant yng Nghonwy hefyd. Er bod canrannau’r siaradwyr Cymraeg wedi aros yn weddol debyg yn yr ardaloedd gwledig, y newid mwyaf amlwg oedd y cwymp yn nifer y Cymry uniaith. Lle’r oedd dros 16,000 o Gymry uniaith yn ardal sy’n cyfateb i’r sir bresennol yn 1901, roedd eu niferoedd i lawr i lai na 11,000 erbyn 1911, a dim ond yn Nosbarth Gwledig Uwchaled roeddent yn ffurfio mwyafrif bellach.
Seisnigeiddio’n gyson a graddol a wnaeth ardal sir Conwy dros yr hanner canrif canlynol. Erbyn Cyfrifiad 1961, a’r boblogaeth wedi codi i 82,684, o gymharu â thua 62,500 yn 1911, roedd cyfanswm y siaradwyr Cymraeg wedi gostwng i 35,209, a oedd tua 7,500 yn llai nag yn 1911, a’r ganran bellach ond yn 42.5 y cant.
Gyda phoblogaeth Llandudno wedi codi i dros 17,000 a Bae Colwyn i dros 22,000, dim ond tua chwarter o drigolion y ddwy dref a oedd yn gallu siarad Cymraeg, a’r unig drefi ar yr arfordir gyda mwyafrif yn gallu’r iaith oedd Llanfairfechan a Penmaenmawr.
Ar y llaw arall, roedd dros dri chwarter (76.5 y cant) o boblogaeth yr ardal wledig yn gallu siarad Cymraeg, canran a oedd yn codi i 87.2 y cant yn Nosbarth Gwledig Hiraethog, ardal a oedd yn cynnwys Uwchaled hefyd erbyn hynny.
Parhau a wnaeth y tueddiadau dros y degawdau canlynol. Erbyn 1971, roedd cyfran siaradwyr Cymraeg ardal y sir bresennol i lawr i 35.0 y cant, a’u niferoedd wedi gostwng ychydig dros 3,000. Roedd y ganran yn yr ardal wledig hefyd i lawr i 69.3 y cant.
Erbyn 1991, a phoblogaeth ardal y sir bresennol wedi codi bellach i 102,725, aros yn weddol debyg a wnaeth nifer y siaradwyr Cymraeg, ond â’u canran wedi gostwng i 30.6 y cant. Ychydig dros hanner y boblogaeth a oedd wedi eu geni yng Nghymru, a mymryn llai na hanner y rhain (48.8 y cant) yn gallu siarad Cymraeg.
Roedd y ganran a oedd yn gallu siarad Cymraeg yn ardal wledig y sir hefyd wedi gostwng i 61.0 y cant.
Mae’r sir wedi colli 1,600 o siaradwyr Cymraeg dros y 10 mlynedd diwethaf, wrth i’w canran ostwng o 27.4 i 25.9 y cant.
Ymysg plant 3-15 oed y bu’r colledion mwyaf, gyda gostyngiad o dros 900, wrth i’w canran ostwng o 46.6 y cant yn 2011 i 41.0 y cant yn ôl y cyfrif diwedddaraf.
Cafwyd colledion llai yn y grwpiau oedran 16-24 a 35-49 oed hefyd, er i’r canrannau godi ychydig. Bu gostyngiad bach yn y ganran o bobl 65 sy’n siarad Cymraeg hefyd, a all fod yn arwydd o ddemograffeg hyn mewn ambell i ardal a hefyd poblogrwydd y sir fel lle i bobl o’r tu allan symud yno i ymddeol.
Yr unig drefi arfordirol lle mae cyfran helaeth o’r boblogaeth yn siarad Cymraeg yw Llanfairfechan (44.0 y cant) a Penmaenmawr (31.9 y cant) yng ngorllewin y sir, er bod y ddwy dref wedi dangos gostyngiadau sylweddol dros yr 20 mlynedd ddiwethaf. Lleihau mae’r canrannau wrth symud tua’r dwyrain, gyda 26.0 y cant yng Nghonwy, 18.3 y cant yn Llandudno, 17.2 y cant yn Llandrillo yn Rhos, 19.1 y cant ym Mae Colwyn ac Abergele, i lawr i 11.2 y cant ym Mae Cinmel a Towyn ar gyrion y Rhyl. Er hyn, cymharol fach yw’r gostyngiadau yn y canrannau dros yr 20 mlynedd ddiwethaf.
Wrth edrych ar holl ardal wledig Conwy yn ei chyfanrwydd (sef pob cymuned ac eithrio rhai’r arfordir), roedd mymryn dros yr hanner, 50.8 y cant, yn gallu siarad Cymraeg yn 2021 o gymharu â 53.7 y cant yn 2011, a gwelwyd gostyngiad o 850 yn eu niferoedd dros y 10 mlynedd. Mae’r dirywiad yn barhad o’r un patrwm a welwyd yn y 10 mlynedd blaenorol, gan y collwyd bron i fil rhwng 2001 a 2011 hefyd.
Mae’r canrannau’n codi wrth symud ymhellach o’r arfordir, gyda’r ddwy ward fwyaf ddeheuol, sef Uwch-Conwy ac Uwchaled yn cofnodi canrannau o dros 60 y cant.
Eto i gyd, mae’r ddwy ward hyn yn cynnwys rhai o’r pentrefi fel Ysbyty Ifan, Cerrigydrudion a Llangwm lle gwelwyd rhai o’r cwympiadau mwyaf mewn canrannau dros y 20 mlynedd ddiwethaf.
Gostyngodd y ganran sy’n gallu siarad Cymraeg yn Ysbyty Ifan o 81.4 y cant yn 2001 a 79.1 y cant yn 2011 i 69.7 y cant yn 2021, ac yng Ngherrigydrudion yr un modd o 77.2 y cant yn 2011 i 67.5% y cant yn 2011. Dylid ychwanegu, fodd bynnag, fod Ysbyty Ifan yn enwedig yn lle bach iawn o ran poblogaeth, a bod newidiadau bach mewn niferoedd yn gallu arwain at newidiadau sylweddol mewn canrannau. Dim ond 22 yn llai o siaradwyr Cymraeg a oedd yma yn 2021 o gymharu â 10 mlynedd ynghynt. Ym Mro Garmon a Pentrefoelas gerllaw, fodd bynnag, cododd y canrannau i 65.0 y cant a 72.6 y cant.
Gyda 58.5 y cant o’i phoblogaeth yn gallu siarad Cymraeg, Llanrwst yw tref Gymreiciaf y sir o bell ffordd, er bod y ganran yn cymharu â 61.0 y cant yn 2011 a 64.7 y cant yn 2001.