Roedd 31,689 allan o bron i 70,000 o drigolion Ceredigion yn gallu siarad Cymraeg yn ôl Cyfrifiad 2021, sy’n cyfrif am 45.3 y cant o’i phoblogaeth. Gwynedd a Môn yw’r unig siroedd sydd â chanrannau uwch.
Er bod y sir wledig hon wedi bod ymysg cadarnleoedd cryfaf y Gymraeg, mae hefyd wedi profi newidiadau demograffig anferthol dros y degawdau diwethaf, a’r rheini yn eu tro wedi gweddnewid iaith a diwylliant mewn llawer i ardal ohoni. Gyda 38 y cant o’i phoblogaeth wedi eu geni yn Lloegr, dim ond Powys, Sir y Fflint a Sir Conwy sydd â chanrannau uwch. Allan o'r 53.5 y cant o'r boblogaeth a aned yng Nghymru, fodd bynnag, roedd 72 y cant ohonynt yn gallu siarad Cymraeg, o gymharu â 14.6 y cant o'r rheini a aned y tu allan i Gymru.
Fel siroedd Penfro a Chaerfyrddin sy’n ffinio â hi, mae Ceredigion, neu Sir Aberteifi fel yr arferai gael ei hadnabod, yn un o 13 sir wreiddiol Cymru. Mae felly’n hawdd gwneud cymariaethau manwl rhwng ei sefyllfa heddiw a’r hyn oedd mewn blynyddoedd a fu.
Aberystwyth yw ei thref fwyaf o bell ffordd, tref prifysgol sydd wedi gweld twf sylweddol dros y blynyddoedd, ac mae angen cadw mewn cof y gall ei phoblogaeth fawr o fyfyrwyr effeithio’n anghymesur ar ffigurau poblogaeth y sir.
Mae ei threfi eraill yn cynnwys Aberteifi, Aberaeron a Llanbedr Pont Steffan, sydd hefyd yn dref brifysgol ond ar raddfa lawer iawn llai. Dwy dref arall, lai o ran maint, yw Llandysul a Tregaron, sy’n dal i fod ymysg mannau Cymreiciaf y sir.
Yn ôl Cyfrifiad 1901, roedd 29,081 o’i 57,664 o’i thrigolion (50.4 y cant) yn uniaith Gymraeg, gyda 24,557 arall yn ddwyieithog, gan ddod â chanran ei siaradwyr Cymraeg i 93.0 y cant.
Aberystwyth, gyda 73.7 y cant o’i phoblogaeth o 7,649 yn gallu siarad Cymraeg, oedd yr unig ddosbarth trefol neu wledig lle’r oedd cyfran y siaradwyr Cymraeg yn is na 90 y cant. Lleiafrif oedd y Cymry uniaith ym mhob un o’r trefi, fodd bynnag, yn wahanol i’r ardaloedd gwledig, lle’r oedd mwyafrif uniaith Gymraeg ym mhob un ond un o ddosbarthiadau gwledig y sir, a hynny cyfuwch â 74.0 y cant yn Nosbarth Gwledig Tregaron.
Roedd y canrannau o Gymry uniaith ar eu hisaf ymysg y grwpiau oedolion iau, rhwng 15 a 44 oed, ac erbyn Cyfrifiad 1911 roedd eu nifer drwy’r sir wedi gostwng i 19,947. Dim ond yn Nosbarthiadau Gwledig Aberaeon a Thregaron roeddent yn y mwyafrif bellach, a hyd yn oed yn Nhregaron, roeddent i lawr i ychydig dros hanner.
Dros yr hanner canrif dilynol, gostwng yn raddol a wnaeth niferoedd a chanrannau siaradwyr Cymraeg Ceredigion, a hynny law yn llaw â gostyngiad bach yn y boblogaeth gyffredinol hefyd. Er hynny, roedd Sir Aberteifi yn dal i fod ymysg siroedd Cymreiciaf Cymru yng Nghyfrifiad 1961, gyda 74.8 y cant o’i thrigolion yn gallu siarad Cymraeg. Roedd hyn bron union yr un ganran o siaradwyr Cymraeg a gofnodwyd yn siroedd Môn, Meirionnydd a Chaerfyrddin. Roedd hyn ychydig yn uwch na’r 68.0 y cant a gofnodwyd yn Sir Gaernarfon, lle’r oedd y canrannau isel yn nhrefi Conwy a Llandudno yn tynnu’r cyfartaledd sirol i lawr.
Erbyn 1961 yng Ngheredigion, roedd poblogaeth tref Aberystwyth wedi codi i dros 10,000 a’r gyfran a oedd yn gallu siarad Cymraeg wedi gostwng i fymryn dros yr hanner.
Yn ystod y ddegawd a ddilynodd y dechreuodd dirywiad y Gymraeg yn y sir mewn gwirionedd, gyda’r gyfran a allai siarad yr iaith i lawr i 67.6 y cant erbyn Cyfrifiad 1971. Collwyd ychydig o dan 3,000 o siaradwyr Cymraeg yn y cyfnod hwn.
Tueddu i sefydlogi a wnaeth canran a niferoedd siaradwyr Cymraeg y sir dros y ddegawd ganlynol, gyda gostyngiad bach i 65.1 y cant o’r boblogaeth erbyn Cyfrifiad 1981. Cyflymu ymhellach wnaeth y gostyngiad yn y ganran fodd bynnag, erbyn 1991, law yn llaw â chynnydd sylweddol ym mhoblogaeth y sir i dros 60,000. Bellach, dim ond 59.1 y cant o’r boblogaeth a allai siarad Cymraeg, a’r newid yn dechrau dod yn fwyfwy amlwg yn ardaloedd gwledig y sir yn ogystal.
Ar ôl i’r ganran o’r boblogaeth a oedd yn gallu siarad Cymraeg yng Ngheredigion ddisgyn yn is na’r hanner am y tro cyntaf yn 2011, gostyngodd ymhellach o 47.3 i 45.3 y cant erbyn 2021.
Yr unig reswm na welwyd cwymp mwy yn y ganran yw bod gostyngiad sylweddol wedi bod yn y boblogaeth gyffredinol, a gellir tybio bod hyn yn rhannol oherwydd bod llai o fyfyrwyr yn bresennol oherwydd i’r Cyfrifiad gael ei gynnal yn ystod cyfnod clo.
Allan o bron i 35,000 a oedd yn gallu siarad Cymraeg yng Ngheredigion yn 2011, collwyd 3,275 – bron i un o bob deg ohonynt – erbyn 2021. Mae hyn ar ben colli 2,800 rhwng 2001 a 2011, sy’n golygu lleihad o dros 6,000 dros yr 20 mlynedd ddiwethaf.
Collwyd ychydig dros fil o blant 3-15 oed a oedd yn gallu siarad Cymraeg. Er bod lleihad cyffredinol ymysg y boblogaeth blant yn gyffredinol yn rhannol gyfrifol am hyn, gostyngodd y ganran sy’n gallu siarad Cymraeg o 78.4 y cant i 71.8 y cant.
Collwyd mil arall ymysg pobl ifanc 16-24 yn ogystal – er bod lleihad sylweddol yn y boblogaeth gyffredinol wedi arwain at godi’r ganran ychydig o 35.3 i 37.9 y cant.
Mae’r nifer o bobl 25-34 sy’n gallu siarad Cymraeg wedi codi fymryn, ond i raddau llai nag yn y rhan fwyaf o Gymru. Cafwyd colledion sylweddol ymysg oedolion 35 i 64 oed hefyd, er i’r canrannau aros yn weddol debyg.
Arhosodd y niferoedd sy’n gallu siarad Cymraeg ymysg pobl dros 65 yn weddol debyg, ond mae eu canrannau wedi gostwng yn sgil cynnydd o bron i 3,000 ymysg y grwpiau oedran hyn. O gofio bod 37 y cant o boblogaeth y sir wedi eu geni yn Lloegr – canran a arhosodd yr un fath â 2011 er gwaethaf llai o fyfyrwyr – mae’n deg tybio bod rhan helaeth o’r cynnydd hwn i’w briodoli i bobl yn symud i mewn i’r sir i ymddeol.
Mae chwarter poblogaeth y sir yn byw yn Aberystwyth a’i maestrefi yng nghymunedau Llanbadarnfawr a’r Faenor, a dyma hefyd ran mwyaf Seisnig y sir. Cawn ddarlun cywirach o’r sefyllfa yng Ngheredigion felly ystyried Aberystwyth ar wahân.
Mae lefel y boblogaeth yma’n ddibynnol iawn ar nifer y myfyrwyr ar y pryd, a gwelwyd gostyngiad o dros 2,000 yn 2021 o gymharu â 2011. Ar yr un pryd, bu cwymp o 800 yn nifer y siaradwyr Cymraeg hefyd, gan ddod â’r ganran i lawr fymryn i 30.0 y cant.
O edrych ar weddill Ceredigion, sef yr ardal wledig, mae union eu hanner yn gallu siarad Cymraeg yn ôl Cyfrifiad 2021, gyda’r ganran rhwng 40 a 60 y cant ym mhobman ond y Borth (33.6 y cant) a Llanilar, sy’n croesi’r trothwy o 60 y cant o drwch blewyn. Yr unig drefi â mwyafrif yn gallu siarad Cymraeg yn y sir bellach yw Tregaron (58.8 y cant), Llandysul (56.9 y cant) ac Aberaeron (59.0 y cant), ac mae’r rhain â chanrannau uwch na’r rhan fwyaf o gefn gwlad.
Gwelwn gymunedau â mwyafrifoedd yn gallu siarad Cymraeg yng nghyffiniau Aberystwyth yn ymestyn at Dregaron, a chlwstwr arall i lawr am ddyffryn Teifi. Ar y llaw arall, mae tref Aberteifi wedi gostwng islaw’r hanner, i 49.0 o gymharu â 54 y cant yn 2011 a 60 y cant ar droad y ganrif.