Hafan > Siroedd > Castell-nedd Port Talbot
Allan o gyfanswm o 138,324 o boblogaeth dros 3 oed, roedd 18,670 yn gallu siarad Cymraeg yn ôl Cyfrifiad 2021, gan ffurfio 13.5 y cant o’r boblogaeth. Roedd ychydig dros 8,000 ychwanegol yn deall yr iaith, sydd bron i 6 y cant o’r boblogaeth ac yn ganran uchel o gymharu â siroedd eraill tebyg.
Yn ogystal â chymoedd Afan a Nedd, a threfi Castell-nedd a Port Talbot, mae’r sir hon yng ngorllewin yr hen Sir Forgannwg yn cynnwys hefyd rannau uchaf Cwm Tawe.
Er ei bod yn cynnwys rhai o ardaloedd Cymreiciaf maes glo y de-orllewin fel Gwauncaegurwen a Chwmllynfell, mae’r Gymraeg wedi dirywio yn y sir dros y degawdau diwethaf. Er i’r Gymraeg aros yn gymharol gryf yng nghymoedd Nedd ac Afan tan yn weddol ddiweddar, prinhau mae nifer y siaradwyr ynddynt
Mae ffiniau’r sir bresennol yn ei gwneud yn anodd llunio cymariaethau manwl gywir ymhell iawn i’r gorffennol, ond gellir amcangyfrif bod gan yr ardal sy’n cyfateb iddi boblogaeth o tua 80,000 ar droad yr ugeinfed ganrif gyda’n agos i ddau draean ohonynt yn gallu siarad Cymraeg.
Bryd hynny, roedd 92.6 y cant o boblogaeth Dosbarth Gwledig Pontardawe yn gallu siarad Cymraeg, a mwy na thraean y boblogaeth yn Gymry uniaith. Roedd dros dri chwarter Dosbarth Gwledig Cwm Nedd hefyd yn gallu siarad yr iaith. Yn wir, yr unig leoedd â llai na hanner y boblogaeth yn gallu siarad Cymraeg oedd trefi Castell-nedd (39.7 y cant) ac Aberafan (40.1 y cant).
O dystiolaeth cyfrifiadau diweddarach, gellir tybio bod rhan uchaf Cwm Nedd yn gwbl Gymraeg tua’r cyfnod yma, gyda phentrefi ar waelod y cwm gerllaw Castell-nedd wedi eu Seisnigeiddio rywfaint (nid oes ffigurau ar gael am ardaloedd o fewn dosbarthiadau gwledig yn y cyfnod hwn).
Mae’n ymddangos bod newid ieithyddol yn digwydd yn ystod y cyfnod hwn yn nhrefi Castell-nedd ac Aberafan, lle’r oedd llai na chwarter y plant 3-14 oed yn gallu siarad Cymraeg o gymharu â dros hanner y boblogaeth dros 45 oed.
Erbyn 1911, roedd poblogaeth yr ardal sy’n cyfateb yn fras i’r sir bresennol wedi chwyddo'n sylweddol i tua 113,000, a’r ganran a oedd yn gallu siarad Cymraeg wedi gostwng i tua 56 y cant. Hyd yn oed yn Nosbarthiadau Gwledig Pontardawe a Chastell-nedd, roedd y canrannau wedi gostwng i 80.3 y cant yn y naill a 66.5 y cant yn y llall. Dosbarth Trefol Glyncorrwg oedd yr unig le arall gyda mwy na hanner y boblogaeth yn gallu siarad Cymraeg.
Hanner canrif yn ddiweddarach, gyda’r boblogaeth wedi cynyddu bellach i 143,384 (nifer tebyg iawn i’r hyn yw heddiw), roedd niferoedd y siaradwyr Cymraeg wedi gostwng i 45,214 ac i 31.5 y cant o’r boblogaeth erbyn 1961. (Mae modd gwneud cymariaethau cywirach â’r sir bresennol erbyn cyrraedd y cyfnod hwn.)
Roedd mwyafrif llethol – tua 83 y cant – o bobl y rhan o hen Ddosbarth Gwledig Pontardawe yn y sir (sef plwyfi Cilybebyll a Llangiwg) yn dal i allu siarad Cymraeg yn 1961, ond yr unig ardaloedd arall lle’r oedd siaradwyr Cymraeg yn y mwyafrif oedd Cwm Dulais yn mhen uchaf Cwm Nedd a ward Cwm Afan ym Mwrdeistref Port Talbot.
Roedd lleiafrif nid ansylweddol o 37.6 y cant yn gallu siarad Cymraeg yn Nosbarth Gwledig Castell-nedd yn ei gyfanrwydd. Ar y llaw arall, roedd hyn i’w briodoli’n sylweddol i genedlaethau hŷn, gyda 54 y cant o bobl 45-64 oed a 60 y cant o bobl dros 65 yn medru’r iaith o gymharu â dim ond 12.5 y cant o blant o dan 10.
Yn y 10 mlynedd dilynol, gwelwyd colledion pellach drwy’r sir, gyda’r niferoedd a oedd yn gallu siarad Cymraeg yn gostwng i 32,310 a’r ganran i lawr i 23.1 y cant o’r boblogaeth erbyn Cyfrifiad 1971. Bellach dim ond yn ardal Cwm Tawe o’r sir roedd mwyafrif yn gallu siarad Cymraeg, a’r ganran yng Nghwm Nedd i lawr i ychydig dros chwarter.
Gwelwyd dirywiad pellach yn ystod yr 1970au, gyda’r niferoedd a oedd yn gallu siarad Cymraeg i lawr i 25,833 a’r ganran i lawr i 19.1 y cant erbyn Cyfrifiad 1981. Er i’r dirywiad barhau, roedd wedi arafu erbyn 1991, gyda 23,094 o bobl a oedd yn cynrychioli 17.5 y cant o drigolion y sir yn dal i allu siarad Cymraeg. Ar y llaw arall, roedd anghydbwysedd oedran yn arwydd o ddirywiad pellach i ddod, gyda thros chwarter y bobl 65-74 oed a bron i draean y bobl dros 75 yn gallu sairad Cymraeg, o gymharu â llai na 15 y cant ymysg pobl rhwng 16 a 49 oed.
Mae’r sir wedi profi gostyngiadau cyson dros y ddau ddegawd diwethaf yn y niferoedd a’r canrannau sy’n gallu siarad Cymraeg.
Mae cyfanswm siaradwyr Cymraeg y sir dros 2,000 yn llai na’r hyn oedd 10 mlynedd yn ôl a 4,500 yn is na’r oedd yn 2001.
Bu gostyngiad o dros 1,000 yn nifer y plant 3-15 oed sy’n gallu siarad Cymraeg o gymharu â 2011, a’u canran i lawr o 30.6 i 24.0 y cant.
Mae niferoedd a chanran siaradwyr Cymreg wedi lleihau ym mhob grwp oedran ac eithrio ymysg pobl ifanc 25-34 oed, sydd wedi codi bron i 500.
Mae olion clir o boblogaeth Gymraeg yn heneiddio yma hefyd, wrth i’r canrannau godi’n raddol ymhlith pobl hŷn, gyda 13.6 y cant o bobl dros 75 yn gallu siarad Cymraeg o gymharu â 8.6 y cant ymysg pobl rhwng 50 a 64 oed. Caiff hyn ei gadarnhau ymhellach wrth gymharu o un cyfrifiad i’r llall. Y ganran gyfatebol ymhlith pobl 65-74 yw 10.0 y cant – sydd bron union yr hyn oedd ar gyfer y grwp oedran 50-64 yn 2011. Ni ellir felly ddiystyru’r posibilrwydd o rywfaint o leihad pellach ymhlith y grwpiau oedran hŷn yn y dyfodol.
Mae cryn dipyn o amrywiaeth rhwng ardaloedd a’i gilydd yn nosbarthiad daearyddol y Gymraeg yn y sir, er mai dim ond un gymuned, bellach, sef Cwmllynfell, mae mwyafrif yn gallu siarad Cymraeg. Mae’r ardaloedd Cymreiciaf wedi gweld dirywiad mawr dros yr 20 mlynedd ddiwethaf.
Dim ond yng nghymuned Cwmllynfell mae mwyafrif yn gallu siarad Cymraeg, lle mae’r ganran o 53.6 y cant yn cymharu â 69.3 y cant 20 mlynedd yn ôl. Mae’r ganran wedi gostwng islaw’r hanner i 48.7 y cant yng Ngwauncaegurwen, o gymharu â 57.4 y cant yn 2011 a 67.8 yn 2001 – gostyngiad 19.1 y cant mewn 20 mlynedd.
Llai na thraean sy’n gallu siarad Cymraeg yn Ystalyfera bellach, o gymharu â mymryn dros hanner 20 mlynedd yn ôl, ac mae’r canrannau sy’n gallu’r iaith yn nwy gymuned arall Cwm Tawe yn y sir i lawr i 27.0 y cant ym Mhontardawe a 22.9 y cant yng Nghilybebyll.
Mae canrannau uwch na chyfartaledd y sir i’w cael ym mlaenau cymoedd Dulais a Nedd hefyd, fel Blaendulais (20.9 y cant), Glyn Nedd (18.0 y cant) a Creunant (18.8 y cant) ond llai na 10 y cant sy’n gallu’r iaith ar i lawr yr arfordir o Gastell-nedd i Aberafan a Port Talbot.