Casnewydd yw trydedd dinas fwyaf Cymru, ac ar ôl cynnydd o 9.5 y cant yn ei phoblogaeth rhwng 2011 a 2021, hi bellach yw’r chweched sir fwyaf poblog.
Er hyn, mae’r 11,604 allan o’i 153,882 o drigolion 3 oed a throsodd sy’n gallu siarad Cymraeg yn ôl Cyfrifiad 2021 yn llai na’r hyn oedd 10 mlynedd yn ôl. Mae’r ganran o 7.5 y cant hefyd ymysg y rhai isaf yng Nghymru, er yn ddigon tebyg i’r hyn yw mewn siroedd cyfagos rhanbarth hanesyddol Gwent.
Mae’r sir bresennol yn seiliedig ar hen fwrdeistref sirol Casnewydd, ynghyd â thref Caerllion ar Wysg, a’r rhan helaethaf o ardal wreiddiol dosbarth gwledig Magwyr a Llaneiriwg yn yr hen sir Fynwy.
Er bod porthladd yma ers y canol oesoedd, dinas a ddatblygodd yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg yw Casnewydd. Amcangyfrifir bod poblogaeth y ddinas wedi codi o 1,500 ar ddechrau’r bedwaredd ganrif ar bymtheg i tua 7,000 erbyn 1831, a bron â threblu dros yr 20 mlynedd ganlynol i dros 20,000 erbyn 1851.
Hanner canrif yn ddiweddarach, ar droad yr ugeinfed ganrif, roedd yr ardal sy’n cyfateb yn fras i’r sir bresennol tua 78,000, gyda 62,181 yn yr hen fwrdeistref sirol a’r gweddill yn yr ardal o’i chwmpas. Ychydig o dan 6 y cant yn ardal y sir a oedd yn gallu siarad Cymraeg, gan ostwng i lai na 4 y cant yn y fwrdeistref sirol ei hun.
Erbyn Cyfrifiad 1911, tyfodd y boblogaeth yn sylweddol, i tua 97,500 yn ardal y sir bresennol, gyda niferoedd y siaradwyr Cymraeg yn gostwng ychydig i 4,162, gyda’u hanner yn y ddinas ei hun, a’r rhan fwyaf o’r gweddill yn Nosbarth Gwledig Llaneiriwg.
Hyd yn oed o blith pobl dros 65 oed – pobl a aned cyn 1836 – prin 10 y cant ohonynt oedd yn gallu siarad Cymraeg.
Mae gwybodaeth sydd ar gael am fannau geni’r boblogaeth yn rhoi rhyw esboniad inni o pam fod y ddinas fwy neu lai yn drwyadl Saesneg ei hiaith yn y cyfnod hwn.
Dangosodd Cyfrifiad 1911 fod tua 60 y cant o boblogaeth y ddinas wedi eu geni yn Sir Fynwy – sir a fyddai’n bennaf Saesneg ei hiaith erbyn hynny - a 27.5 y cant arall wedi eu geni yn Lloegr. Yn wahanol i’r cymoedd diwydiannol, nid ymddengys fod fawr o bobl wedi symud i Gasnewydd o siroedd Cymreicaf Cymru.
Parhau i gynyddu’n raddol wnaeth poblogaeth Casnewydd dros y rhan fwyaf o’r ugeinfed ganrif, gyda nifer bach y siarad Cymraeg yn amrywio fymryn o ddegawd i ddegawd.
Erbyn Cyfrifiad 1971, roedd poblogaeth y ddinas a’r cyffiniau wedi codi i tua 130,000 gyda llai na 2 y cant yn gallu siarad Cymraeg. Roedd y nifer wedi codi mymryn i ychydig o dan 3,000 a 2.3 y cant o’r boblogaeth yn 1991.
Daeth tro syfrdanol ar fyd ar ddechrau'r ganrif newydd, wrth i Gyfrifiad 2001 ddangos cyfanswm y siaradwyr Cymraeg yn codi i 12,603 - bron bum gwaith cymaint yr hyn oedd 10 mlynedd ynghynt.
Roedd hyn i’w briodoli bron yn gyfan gwbl i nifer y plant a oedd yn gallu siarad Cymraeg gynyddu ddengwaith o 865 i 8,853. Yn ôl y Cyfrifiad, plant 3-15 oed oedd dros 70 y cant o siaradwyr Cymraeg Casnewydd yn 2001.
Er gwaethaf anghydbwysedd, parhau i gynyddu ychydig a wnaeth cyfanswm siaradwyr Cymraeg y sir yn 2011 hefyd, gyda 13,000 ohonynt yn cyfrif am 9.3 y cant o'r boblogaeth.
Er y cynnydd o 14,000 ym mhoblogaeth y sir rhwng 2011 a 2021, cafwyd lleihad o 1,400 yn nifer y siaradwyr Cymraeg dros y 10 mlynedd ddiwethaf.
Cwymp dramatig o dros 2,200 yn nifer y plant a all siarad Cymraeg sy’n gyfrifol am y gostyngiad, wrth i’w canran ostwng o 34.7 y cant yn 2011 i 22.4 y cant.
Mae’r gostyngiad yn niferoedd y plant sy’n gallu siarad Cymraeg wedi ei wrthbwyso’n rhannol gan gynnydd o bron i 800 ymhlith y grwpiau oedran rhwng 25 a 49 oed.
Ar y llaw arall, niferoedd bach iawn o bobl dros 50 oed sy’n gallu siarad Cymraeg, gyda’r ganran yn gostwng i lai na 2 y cant ymhlith pobl dros 65 oed.
Ychydig iawn o amrywiaeth sydd yn y dosbarthiad daearyddol, gyda chanran pob ward rhwng 5.7 a 9.3 y cant.
Rhaid gosod y lleihad ymysg plant sy’n gallu siarad Cymraeg yng nghyd-destun tueddiadau’r degawdau diwethaf, gan fod cyfanswm siaradwyr Cymraeg y sir yn dal bedair gwaith yr hyn oedd yn 1991, ac yn llawer mwy na’r hyn mae wedi bod yn y rhan fwyaf o hanes y ddinas. Mae'n rhesymol barnu felly y byddai'n deg dehongli'r lleihad yn nifer y plant sy'n gallu siarad Cymraeg fel mwy o gywiriad nag o ddirywiad.