Allan o gyfanswm poblogaeth dros 3 oed o 170,689 yn sir Caerffili, roedd ychydig dros 10 y cant yn gallu siarad Cymraeg yn 2021.
Mae’r sir yn cynrychioli ardal bur wasgarog ac amrywiol sy’n cynnwys rhychwantu ffin yr hen Sir Forgannwg a Sir Fynwy. Mae’n ymestyn o’i phrif dref, Caerffili, yn y de-orllewin i dref Rhymni ym mhen uchaf y cwm o’r un enw, i drefi’r Coed-duon, Trecelyn ac Abercarn, a Rhisga, ar gyrion Casnewydd yn y dwyrain.
Mae ei hardaloedd yn amrywio o ran natur o bentrefi traddodiadol y cymoedd ôl-ddiwydiannol ym mhen uchaf cwm Rhymni i ardaloedd mwy maestrefol eu naws sydd o fewn pellter hwylus i Gaerdydd a Chasnewydd. Mae rhannau helaeth o’r sir yn weddol wledig eu naws hefyd.
Yn gyffredinol, y wardiau yng nghyffiniau Caerffili sydd â’r canrannau uchaf o siaradwyr Cymraeg, gan gynnwys Morgan Jones (15.0), Ystrad Mynach (15.9), Cwm Aber (14.8) a Sant Martin (13.4).
Yn hanesyddol, mae rhaniad daearyddol gweddol glir wedi bod yng nghryfder y Gymraeg yn ardal y sir hon a ffurfiwyd yn 1996, rhaniad a oedd yn cael ei adlewyrchu’n rhannol gan y ffin rhwng siroedd Morgannwg a Mynwy.
Yn ôl Cyfrifiad 1901, roedd bron i 40 y cant o boblogaeth yr ardaloedd sy’n cyfateb yn fras i’r sir bresennol yn gallu siarad Cymraeg. Roedd yn amrywio o 68.9 y cant yn Nosbarth Trefol Rhymni a 55.9% yn Nosbarth Trefol Gelligaer (ardal a oedd yn cynnwys pentrefi Bargod a Hengoed ymysg eraill) i 7.4 y cant yn Rhisga a 20.4 y cant yn Abercarn. Roedd y ffigurau’n amlygu Cwm Rhymni fel y cwm mwyaf dwyreiniol yn y de lle’r oedd mwyafrif yn gallu siarad Cymraeg erbyn troad yr ugeinfed ganrif. Er hyn, roedd canrannau cymharol uchel yn Nosbarthiadau Trefol Mynyddislwyn (41.4 y cant) a Bedwellte (34.8 y cant) yn rhan ddwyreiniol ardal y sir bresnnol yn ogystal.
Ffrwydrodd poblogaeth ardal y sir bresennol yn negawd cyntaf y ganrif, gan ddyblu bron o tua 70,000 yn 1901 i 130,000 yn 1911. Mae’n amlwg y bu hyn yn ergyd mawr i Gymreictod yr ardal, gyda’r gyfran yn gostwng i 29.5 y cant o’r boblogaeth. Bellach, Dosbarth Trefol Rhymni oedd yr unig un â mwyafrif yn gallu siarad Cymraeg, gyda’r canrannau wedi gostwng i 41.1 y cant yn Nosbarth Trefol Gelligaer, 23.5 y cant ym Mynyddislwyn a 21.3 y cant yn Bedwellte.
Roedd tua hanner plant Rhymni a thros chwarter plant Gelligaer yn dal i allu siarad Cymraeg yn 1911, ond roedd hyn yn cymharu â 77.5 y cant o bobl dros 65 yn Rhymni a 69.5 y cant yng Ngelligaer.
Roedd dosbarthiad oedran y siaradwyr Cymraeg yn amlwg mewn ardaloedd eraill hefyd fel yn Nosbarth Trefol Caerffili lle’r oedd tua 20 y cant o blant o dan 10 oed yn gallu siarad Cymraeg o gymharu â thros hanner y bobl dros 45 oed. Ym Mynyddislwyn a Bedwellte yr un modd, roedd sefyllfa o tua 10 y cant o’r plant yn cymharu â bron i hanner pobl dros 45 oed. Mae’r cyfan yn awgrymu mai yn negawdau olaf y bedwaredd ganrif ar bymtheg y dechreuodd y newid mawr yn iaith yr ardaloedd hyn.
Erbyn cyfrifiad 1961, roedd nifer siaradwyr Cymraeg yr ardal sy’n cyfateb i’r sir bresennnol i lawr i ychydig dros 12,000 ac yn ffurfio 8.1 y cant o’r boblogaeth o ychydig dros 150,000.
Yr unig ardaloedd lle’r oedd mwy na 10 y cant yn gallu siarad Cymraeg oedd Dosbarthiadau Trefol Rhymni (21.6 y cant), Gelligaer (13.7 y cant) a Chaerffili (10.2 y cant). Roedd y canrannau wedi gostwng i 4.9 y cant a 5.5 y cant ym Mynyddislwyn a Bedwellte. Yn ogystal, roedd y patrwm oedran, gyda thua chwarter y siaradwyr Cymraeg dros 65 oed yn arwydd o waeth i ddod.
Erbyn 1971, roedd y nifer a allai siarad Cymraeg yn y sir i lawr i 7,315, a’r ganran bellach yn ddim ond 4.6 y cant. Roedd y ganran i lawr i 12.0 y cant bellach yn Rhymni hyd yn oed.
Yn yr 20 mlynedd wedyn, cododd niferoedd a chanran y siaradwyr Cymraeg fymryn i 9,733 a 6.0 y cant o’r boblogaeth yn 1991.
Erbyn Cyfrifiad 2001, roedd y niferoedd bron â dyblu i bron i 18,000 a’r ganran wedi codi i 10.9 y cant o’r boblogaeth. Yn ôl y ffigurau, roedd cymaint o blant 3-15 oed yn gallu siarad Cymraeg yn y sir erbyn hynny ag oedd o siaradwyr Cymraeg o bob oedran 10 mlynedd ynghynt.
Yn wahanol i rai siroedd cyfagos, cafwyd cynnydd bach pellach yng Nghyfrifiad 2011 hefyd. Erbyn hynny roedd 19,251 yn gallu siarad Cymraeg, gan ffurfio 11.2 y cant o’r boblogaeth. Cododd canran y plant 3-15 oed a oedd yn gallu siarad Cymraeg o 31.9 y cant yn 2001 i 33.8 y cant yn 2011.
Erbyn y Cyfrifiad diwethaf, llithrodd cyfanswm siaradwyr Cymraeg y sir i 17,836, sef bron union yr un nifer â’r hyn oedd yn 2001.
Gwelwyd gostyngiad cyffredinol o 1,400 yng nghyfanswm niferoedd siaradwyr Cymraeg y sir dros y 10 mlynedd. O graffu arno ymhellach gwelwn fod hyn yn cynnwys gostyngiad llawer mwy o 2,400 yn niferoedd y plant sy’n gallu siarad Cymraeg, ond fod cynnydd yn y gallu i siarad Cymraeg ymysg oedolion rhwng 25 a 65 oed yn lleihau’r colledion hyn.
Mae’r ganran o blant 3-15 oed sy’n gallu siarad Cymraeg i lawr o 33.8 y cant i 26.2 y cant – yr isaf ers 1991. Mae hyn cynrychioli un o’r gostyngiadau mwyaf yng Nghymru.
Ar y llaw arall, mae cynnydd wedi bod yn niferoedd a chanrannau’r oedolion rhwng 25 a 65 oed oed sy’n gallu siarad Cymraeg, yn enwedig yn y grwp 35-49 lle cododd y ganran o 5.8 y cant yn 2011 i 8.2 y cant erbyn 2021.
Ymysg y to hŷn y mae’r canrannau isaf sy’n gallu siarad Cymraeg yn y sir, gyda 4 y cant yn unig ymhlith pobl 50-64 oed a llai na 3 y cant ymhlith pobl dros 65.