Dyma ddinas a sir fwyaf poblog Cymru gyda nifer ei thrigolion yn parhau i dyfu wrth i Gyfrifiad 2021 gofnodi poblogaeth uwch nag erioed o dros 350,000.
Yn wahanol i weddill Cymru, bu cynnydd sylweddol yn y nifer sy’n gallu siarad Cymraeg hefyd yma dros y 10 mlynedd ddiwethaf. Cododd eu niferoedd o 36,735 yn 2011 i 42,753 yn 2021, sy’n cyfrif am 12.2 y cant o’r cyfanswm poblogaeth 3 oed a throsodd.
Er bod anheddiad o ryw fath wedi bod yma ers i Gwilym Goncwerwr adeiladu castell dros fil o flynyddoedd yn ôl, dim ond yn y ddwy ganrif ddiwethaf y mae wedi datblygu i fod yn ddinas o bwys.
Llai na 2,000 o bobl oedd yn byw yma yn ôl Cyfrifiad 1801; ganrif yn ddiweddarach, roedd wedi codi i dros 150,000, cyn mwy na dyblu drachefn i’w maint presennol.
Does dim amheuaeth fod mwy o siaradwyr Cymraeg yn y brifddinas heddiw nag y bu erioed yn ei hanes. Mae’n rhesymol credu ei fod i’w briodoli i raddau helaeth iawn i siaradwyr Cymraeg yn symud i’r ddinas o rannau eraill o Gymru. Ar y llaw arall, nid oes tystiolaeth uniongyrchol yn ffigurau’r Cyfrifiad i fesur union raddau’r symudiad hwn.
Gyda newidiadau wedi bod mewn ffiniau o fewn ardal y sir bresennol dros y ganrif ddiwethaf – yn enwedig mewn perthynas â sir bresennol Bro Morgannwg gerllaw – ni ellir gwneud cymariaethau rhy fanwl gywir.
Er hyn, mae mwyafrif llethol poblogaeth y sir bresennol yn byw o fewn hen Fwrdeistref Sirol Caerdydd, a ddaeth i rym yn 1889, ac a barhaodd hyd 1974. Y ffordd symlaf o wneud cymariaethau bras â’r cyfnod hyd at tua hanner canrif yn ôl yw trwy ddefnyddio Bwrdeistref Sirol Caerdydd fel sail, ond gan gofio fod ei ffiniau’n ymestyn dros ardal fwy cyfyng na’r sir bresennol.
O gofio bod dros 40 y cant o boblogaeth Morgannwg yn gallu siarad Cymraeg ar droad y ganrif, mae’n syndod gweld mor Seisnig oedd Caerdydd yn ôl Cyfrifiad 1901. Dim ond ychydig dros 12,000 o’r 150,000 o drigolion, neu 8 y cant, a oedd yn siarad Cymraeg. Caerdydd, ynghyd â threfi llai Penarth a’r Barri gerllaw, ac Ystumllwynarth ar gyrion Abertawe, oedd y lle mwyaf Seisnig o bellffordd yn y sir ar drothwy’r ugeinfed ganrif. Hyd yn oed mewn trefi a oedd wedi Seisnigo ers degawdau, roedd canrannau sylweddol uwch yn gallu siarad Cymraeg fel Pen-y-bont ar Ogwr (29.2 y cant), Y Bontfaen (23.0 y cant) a Pontypridd (38.2 y cant).
Nid oes tystiolaeth sy’n awgrymu bod newid iaith wedi digwydd yn y degawd cynt chwaith, gan mai lleiafrif bach o’r cenedlaethau hŷn hefyd yng Nghaerdydd a allai siarad Cymraeg. Ar y llaw arall, wrth ystyried twf cyflym y ddinas yn y 19eg ganrif, mae’n debygol mai lleiafrif bach o’r bobl ganol oed a hŷn yng Nghaerdydd a gyfrifiwyd yn 1901 a fyddai wedi cael eu geni yno. Roedd poblogaeth is-ddosbarth cofrestru Caerdydd yn llai na 10,000 yn 1831, ac nid oedd ond 23,000 yn 1851, llai nag un o bob pump o’r hyn oedd hanner canrif yn ddiweddarach.
O wybodaeth sydd ar gael am fannau geni poblogaeth y ddinas yn 1881, pan oedd y boblogaeth ychydig dros 80,000, roedd bron eu hanner wedi eu geni ym Morgannwg, 30 y cant yn Lloegr, 5 y cant arall o Sir Fynwy a 5 y cant o Iwerddon. Canrannau isel iawn o’r boblogaeth oedd yn hanu o siroedd gorllewinol Cymru.
Mae ffigurau tebyg ar gael hefyd ar gyfer Cyfrifiad 1911, pryd roedd canran y boblogaeth a aned yn Lloegr wedi gostwng i 25 y cant ond wedi dyblu mewn nifer. Bellach, roedd bron i 60 y cant o’r boblogaeth wedi eu geni ym Morgannwg. Yn yr un Cyfrifiad, roedd cyfanswm a chanran y siaradwyr Cymraeg wedi gostwng i 11,300 a 6.7 y cant.
Nid yw’r ffigurau am fannau geni, a’r wybodaeth sydd gennym am gryfder cymharol y Gymraeg ym Morgannwg yn gyffredinol yn y cyfnod hwn, yn rhoi esboniad llwyr am y ganran isel o siaradwyr Cymraeg yng Nghaerdydd yn nau gyfrifiad cyntaf yr ugeinfed ganrif. Mae’n sicr yn rhywbeth sy’n teilyngu ymchwil pellach.
I droi at hanes mwy diweddar y ddinas, parhau i dyfu wnaeth poblogaeth Caerdydd gan ennill statws prifddinas Cymru yn 1955. Aros fwy neu lai yn eu hunfan a wnaeth niferoedd y siaradwyr Cymraeg dros y cyfnod hwnnw, fodd bynnag, gydag ychydig dros 14,000 o’r boblogaeth o ychydig o dan chwarter miliwn yn gallu siarad Cymraeg yn ôl Cyfrifiadau 1961 ac 1971.
Erbyn Cyfrifiad 1991, roedd y cyfanswm wedi codi 17,651 gan ffurfio 6.5 y cant boblogaeth ardal sy’n cyfateb â’r sir bresennol.
Erbyn Cyfrifiad 2001, roedd cyfanswm siaradwyr Cymraeg Caerdydd wedi bron â dyblu i 31,947 a 10.9 y cant o’r boblogaeth. Fel sy’n gyffredin â llawer o siroedd eraill cyfagos yn y de-ddwyrain, roedd cynnydd ymysg plant yn ffactor pwysig yn hyn.
Cododd nifer y plant 3-15 oed a oedd yn gallu siarad Cymraeg yng Nghaerdydd o 5,359 yn 1991 i 12,750 erbyn 2001 – cynnydd o dros 7,000. Yn yr un modd, cododd y ganran o 11.3 y cant i 24.5 y cant.
Eto i gyd, roedd y ganran hon yn sylweddol is na’r canrannau o rhwng 33 a 40 y cant a gofnodwyd yn siroedd cyfagos Blaenau Gwent, Torfaen, Casnewydd a Sir Fynwy. Mae gymaint â hynny’n fwy credadwy o’r herwydd. Yr hyn sy’n arwyddocaol am y tair sir hyn yw bod y canrannau o oedolion sy’n gallu siarad Cymraeg ynddynt yn llawer iawn is na’r hyn yw yng Nghaerdydd. Mae’n debygol iawn felly bod y gwahaniaeth yn codi mwy o gwestiynau am gywirdeb ffigurau plant yn y siroedd hyn nag y maent am y rhai cyfatebol ar gyfer Caerdydd.
Yn fwy arwyddocaol – ac mae hyn yn fwy unigryw i Gaerdydd – cododd nifer y bobl ifanc rhwng 16 a 34 oed a oedd yn gallu siarad Cymraeg o 5,526 yn 1991 i 10,232 erbyn 2001. Bu cynnydd bach ymysg grwpiau oedran hŷn yn ogystal.
Yr hyn a welwn yng Nghaerdydd yw parhad o’r tueddiadau a welwyd yng Nghyfrifiadau 2001 a 2011.
Mae’r cynnydd o 6,000 yn nifer y siaradwyr Cymraeg yn ychwanegu at gynnydd o 4,800 a ddigwyddodd rhwng 2001 a 2011.
Caerdydd yw’r unig sir yng Nghymru hefyd a welodd gynnydd yn nifer y plant 3-15 oed a gofnodwyd fel rhai sy’n gallu siarad Cymraeg, gyda’u niferoedd bron i 1,300 yn uwch, er bod y ganran i lawr fymryn.
Dyma’r unig sir yng Nghymru hefyd i ddangos cynnydd ymysg siaradwyr Cymraeg yn y grwp oedran 16-24 oed, er nad eu canran wedi codi llawer.
Cymharol fach ar y llaw arall yw’r cynnydd ymysg y grwp oedran 25-34 oed, sy’n dangos cynnydd ym mhobman arall yng Nghymru.
Mwy o syndod o bosibl yw graddau’r twf ymysg grwpiau oedran hŷn, gyda tua 2,500 yn fwy o bobl rhwng 35 a 64 oed yn gall siarad Cymraeg o gymharu â 2011. Cafwyd cynnydd o bron 500 ymysg pobl rhwng 65 a 74 oed hefyd.
Gall hyn fod yn arwydd naill o bobl hŷn yn symud i Gaerdydd, neu o bobl a symudodd i Gaerdydd yn ystod yr 1990au a dechrau’r ganrif ac wedi aros yno.
Mae cymharu’r canrannau sy’n gallu siarad Cymraeg mewn gwahanol wardiau yn rhoi cipolwg pellach inni o fywyd Cymraeg y ddinas. Ward Treganna, gyda 24.0 y cant yn siarad Cymraeg, yw’r ward Gymreiciaf o ddigon, gyda 19.7 y cant yn gallu’r iaith yn ward Pentyrch a Sain Ffagan, a 18.1 y cant yn Llandaf. Mae’r canrannau isaf yn tueddu i fod yn y wardiau tlotaf fel Adamstown, Tre-biwt, Caerau, Llanrymni a Pentwyn, sydd i gyda â llai na 10 y cant yn medru’r iaith.
O graffu ymhellach, gwelwn fod pocedi mwy Cymraeg na’i gilydd o fewn wardiau Treganna a Llandaf hefyd, gyda chanrannau’n codi i dros 40 y cant mewn ambell i le fel Victoria Park.
Eto i gyd, dylid nodi mai lleiafrif bach o siaradwyr Cymraeg Caerdydd sy’n byw mewn ardaloedd o’r fath o’r ddinas. Er mai yn ward Treganna mae’r cyfanswm uchaf o siaradwyr Cymraeg, mae’r 3,729 yn cyfrif am lai na 10 y cant o holl siaradwyr Cymraeg Caerdydd.