Bro Morgannwg


Hafan > Siroedd > Bro Morgannwg

Show Toolbar
  • Show Caption
  • Hide Thumbmails
  • Show Categories
  • Play Slide Show
  • Display in Full Screen
  • Hide Toolbar

pie chart bro Morgannwg
 
 
  • pie chart bro Morgannwg
  • graff llinell bro Morgannwg
  • bar chart bro Morgannwg

Roedd 14,735 o bobl yn gallu siarad Cymraeg ym Mro Morgannwg yn ôl Cyfrifiad 2021, gan ffurfio 11.5 y cant o’r cyfanswm o 128,000 o bobl 3 oed a throsodd yn y sir.

Ac eithrio Caerdydd, dyma’r sir a welodd fwyaf o gynnydd yn nifer y siaradwyr Cymraeg rhwng 2011 a 2021, wrth i’r niferoedd godi tua 1,500 dros y 10 mlynedd ddiwethaf.

Rhan fwyaf deheuol hen sir hanesyddol Morgannwg oedd y Fro, a ddaliodd yn fwy gwledig ei naws na’r cymoedd diwydiannol glofaol yn rhan ogleddol y sir. Mae hefyd yn cynnwys tir ffrwythlon a gafodd ei wladychu’n helaeth gan y Normaniaid yn y canol oesoedd cynnar. 

Daeth y sir bresennol i fodolaeth yn 1996, a honno’n seiliedig i raddau helaeth ar y cyngor dosbarth o’r un enw a sefydlwyd fel rhan o sir De Morgannwg yn 1974. Yn ogystal ag ardaloedd traddodiadol y Fro, mae hefyd yn cynnwys porthladd y Barri, a thref lan-môr Penarth. Y ddwy dref arall hanesyddol yw Llanilltud Fawr a’r Bontfaen.

Yn sgil y gwladychu Normanaidd, enwau Saesneg a Fflemeg sydd ar lawer o drefi a phentrefi Bro Morgannwg. Mae’n debyg mai’r disgrifiad cywiraf o’r ardal yw fel un gymysg ei hiaith dros y canrifoedd. Er yr ymsefydlwyr di-Gymraeg a adawodd eu hôl arni, profodd yr ardal sawl ton o ymfudwyr Cymraeg eu hiaith yn ogystal.

Erbyn troad yr ugeinfed ganrif, fodd bynnag, roedd y Gymraeg yn amlwg yn edwino drachefn ym Mro Morgannwg.

Oherwydd cymhlethdod ffiniau cynghorau, mae’n anodd gwneud cymariaethau cwbl gywir ag ardal sy’n cyfateb i’r sir bresennol ymhellach yn ôl nag ychydig ddegawdau.

Fodd bynnag, gellir amcangyfrif yn fras fod i’r ardal sy’n cyfateb â’r sir bresennol boblogaeth o tua 67,000 yn 1901 a gododd i dros 85,000 erbyn 1911. Roedd ychydig dros 12,000 o siaradwyr Cymraeg yma yn y ddau gyfrifiad, a fyddai’n cyfateb i ganran o 18.5 y cant yn 1901, a 14.5 y cant yn 1911.

Ardal Dosbarth Gwledig y Bontfaen oedd rhan Gymreiciaf ardal y sir bresennol, gyda 42.2 y cant yn gallu siarad yr iaith. Roedd y ganran bron yn chwarter yn Nosbarth Gwledig Caerdydd, a hefyd yn nhref y Bontfaen yn ogystal. Ar y llaw arall, dim ond 13.8 y cant a oedd yn gallu siarad Cymraeg yn y Barri, a 7.2 ym Mhenarth, a’r canrannau isel ym mhob grwp oedran yn gostwng yn is fyth ymysg y plant.

Hyd yn oed ym mannau Cymreicaf ardal y sir bresennol, roedd proffil oedran y siaradwyr Cymraeg yn dangos bod shifft iaith wedi digwydd. Yn Nosbarth Gwledig y Bontfaen, roedd bron i ddau draean y bobl 45-64 oed, a thros dri chwarter y bobl dros 65, yn gallu siarad Cymraeg yn 1901; o gymharu â llai na chwarter y plant 3-14 oed a allai wneud hynny. 

Y degawdau diwethaf

Daliodd poblogaeth ardal y sir bresennol i gynyddu dros yr hanner canrif dilynol; erbyn 1961 roedd y boblogaeth wedi codi i ychydig dros 90,000 erbyn 1961. Roedd nifer y siaradwyr Cymraeg, fodd bynnag, wedi mwy na haneru o gymharu â’r hyn oedd hanner canrif ynghynt, i tua 5,500, neu 6 y cant o’r boblogaeth. 

Yn sgil newidiadau gweddol gymhleth i ffiniau wardiau ar gyrion Caerdydd yn ystod yr 1960au, mae’n anodd gwneud cymariaethau rhy fanwl â Chyfrifiadau 1971 ac 1981. Erbyn 1991 fodd bynnag, gallwn weld bod poblogaeth ardal y sir bresennol yn 112,176, gyda 7,674 neu 6.8 y cant ohonynt, yn gallu siarad Cymraeg.

Gwelwyd cynnydd sylweddol yn y sir erbyn 2001, er nad oedd yn gynnydd lawn mor ddramatig a welwyd mewn siroedd eraill yn y de-ddwyrain.

Bellach roedd 12,735 o bobl yn gallu siarad Cymraeg gan ffurfio 11.1 y cant o gyfanswm poblogaeth y sir o 115,113. Yn union fel y gwelwyd mewn siroedd eraill cyfagos, ymysg plant y bu’r cynnydd mwyaf, gyda niferoedd y siaradwyr Cymraeg 3-15 oed wedi mwy na dyblu o 2,761 yn 1991 i 6,095 erbyn 2001, gan ffurfio 28.4 y cant o’u grwp oedran.

Er y cynnydd o 1,500 yn nifer siaradwyr Cymraeg y sir o gymharu â 2011, cafwyd gostyngiad bach yn nifer ac yng nghanran y plant sy’n medru’r iaith.

Mae’r 5,597 o blant 3-15 oed sy’n gallu siarad Cymraeg bron 200 yn llai na’r hyn oeddent yn 2011, a’r ganran i lawr ychydig o 29.6 i 27.1 y cant.

Ar y llaw arall, cododd y ganran sy’n gallu siarad Cymraeg ym mhob grwp oedran arall, gyda chynnydd sylweddol yn niferoedd oedolion rhwng 25 a 64 oed sy’n gallu’r iaith.

Mae canrannau yn llawer uwch ymysg oedolion iau, gyda 18.1 y cant o bobl ifanc rhwng 16 a 24 oed yn gallu’r iaith, a’r ganran yn gostwng yn raddol drwy’r grwpiau oedran i lai na 5 y cant ymhlith pobl dros 65 oed.

Ffaith arall werth ei nodi yw cyn lleied o amrywiaeth daearyddol sydd yn y gallu i siarad Cymraeg o fewn y sir. Y Bont-faen, gyda 14.4 y cant yn siarad Cymraeg, a Llanbedr y Fro gyda 14.0 y cant, sydd â’r canrannau uchaf, o gymharu â 9.2 y cant yn Sant Athan a 9.6 y cant yn ward Cadog yn y Barri, gyda phobman arall o fewn yr amrediad hwnnw.