Hafan > Siroedd > Blaenau Gwent
Dyma’r sir sydd â’r nifer a’r ganran isaf yn gallu siarad Cymraeg trwy Gymru, gydag ychydig dros 4,000 o siaradwyr yn ffurfio 6.2 y cant o’r boblogaeth.
Mae’r sir hon wedi ei ffurfio o dri o gymoedd Gwent, sef Sirhywi, Ebwy a Tyleri, a’i phrif drefi yw Tredegar, Glyn Ebwy, Brynmawr, Nantyglo a’r Blaenau, ac Abertyleri.
Er mai dyma’r sir a oedd â’r nifer a’r ganran leiaf o’r boblogaeth yn gallu siarad Cymraeg yn 2021, dyma'r sir sydd â'r ganran uchaf - 87.7 y cant - sydd wedi eu geni yng Nghymru. Bu’r Gymraeg yn cael ei siarad yn fwy helaeth yma yn y gorffennol, ac yn fwy diweddar, nag yn siroedd cyfagos (presennol) Mynwy, Torfaen a Chasnewydd.
Roedd tystiolaeth hanesyddol o fywyd Cymraeg yn y cymoedd hyn yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg, er bod yr iaith wedi encilio cryn dipyn yma erbyn troad yr ugeinfed ganrif. Bu dirywiad pellach sylweddol yn ystod degawd gyntaf y ganrif honno, a pharhau a wnaeth y dirywiad i’r graddau mai isel iawn oedd y canrannau a allai siarad Cymraeg yma.
Parhaodd y canrannau’n isel iawn am weddill y ganrif nes i gynnydd sylweddol yn nifer y plant a allai siarad Cymraeg yn 2001 godi’r canrannau’n rhannol.
Yng Nghyfrifiad 1901, roedd ychydig dros un o bob pump o’r boblogaeth o bron i 75,000 yn ardal y sir bresennol yn gallu siarad Cymraeg; erbyn Cyfrifiad 1911, roedd y boblogaeth wedi saethu i fyny i 102,500 a’r ganran o siaradwyr Cymraeg wedi gostwng i 12.5%.
Roedd cyflwr bregus yr iaith yma ar droad yr ugeinfed ganrif yn amlwg ym mhatrymau oed siaradwyr Cymraeg.
Dosbarth Trefol Tredegar, yn y cwm mwyaf gorllewinol, Sirhywi, oedd y dref Gymreiciaf gyda 28.1 y cant yn gallu siarad Cymraeg. Dim ond 12.8 y cant o’r plant 3-14 oedd yn siarad yr iaith fodd bynnag, o gymharu â thros hanner y bobl dros 45 oed. Roedd patrwm digon tebyg i’w weld yng Nglynebwy, lle’r oedd 22.1 y cant yn gallu siarad Cymraeg, ond dim ond 7.4 y cant o blant o gymharu â bron i hanner y bobl dros 45 oed.
Ar y llaw arall, dim ond 11.5 y cant o boblogaeth Abertyleri a allai siarad Cymraeg, er bod hyn yn codi i 35.6 y cant o bobl dros 65 oed.
Erbyn Cyfrifiad 1911, roedd y canrannau a allai siarad Cymraeg i lawr i 20.7 y cant yn Nhredegar, 13.3 y cant yng Nglynebwy a 7.1 y cant yn Abertyleri, a’r canrannau ymhlith y plant hefyd wedi gostwng yn sylweddol o gymharu â’r hyn oedd ddeng mlynedd ynghynt.
Os neidiwn ymlaen hanner canrif, gwelwn rai o olion olaf siaradwyr Cymraeg cynhenid y cymoedd hyn yng Nghyfrifiad 1961. Bryd hynny, roedd ychydig dros 3,000 yn gallu siarad, gan gynrychioli 3.8% o’r boblogaeth, a’r ganran yn Nhredegar yn 5.9 y cant. Roedd ychydig dros 8 y cant o bobl dros 65 oed yn gallu siarad Cymraeg yng Nglynebwy hefyd.
Erbyn 1971, fodd bynnag, roedd nifer y siaradwyr Cymraeg wedi haneru i lai na 1,500, a hofran o gwmpas y nifer hwnnw, ac ar tua 2 y cant o’r boblogaeth a wnaeth y siaradwyr Cymraeg am weddill yr ugeinfed ganrif.
Gwelwyd newid dramatig erbyn troad y ganrif newydd. Saethodd nifer y plant 3-15 a allai siarad Cymraeg yn y sir o 640 yn 1991 i 4,180 yn 2001. Yn sgil hynny cododd cyfanswm y siaradwyr Cymraeg i 6,128, a 9.0 y cant o’r boblogaeth. Er bod 33 y cant o’r plant yn gallu siarad Cymraeg, bach iawn oedd y cynnydd ymysg oedolion, gyda’r canrannau’n aros yn debyg iawn i’r hyn oeddent mewn degawdau a fu. Diddorol yw nodi hefyd mai plant 3-15 oedd tua dau draean o siaradwyr Cymraeg y sir.
Bu rhywfaint o golledion erbyn Cyfrifiad 2011, gyda chyfanswm y siaradwyr Cymraeg i lawr i 5,284 a 7.8 y cant o’r boblogaeth. Roedd hyn i’w briodoli i raddau helaeth i leihad cyffredinol yn nifer y plant, gan fod y gyfran o blant a allai siarad Cymraeg wedi aros yn weddol uchel ar 30.8 y cant. Ar y llaw arall, prin y bu unrhyw newid o bwys ymhlith oedolion.
Ar ôl y cynnydd ar ddechrau'r ganrif, llithro'n ôl wnaeth nifer a chanran siaradwyr Cymraeg Blaenau Gwent erbyn 2021.
Collwyd 1,249 o siaradwyr Cymraeg ers 2011, gyda mwy na hynny o golledion ymysg plant, wrth i’r gyfran o blant 3-15 sy’n gallu’r iaith o 30.8 i 18.3 y cant.
Collwyd bron i 200 ymhlith pobl ifanc 16-24 oed, er i’r ganran godi ychydig yn sgil lleihad cyffredinol yn y grwp oedran hwn.
Bu cynnydd bach ymysg yr oedrannau 25-49 oed, ond ni fu dim newid yn niferoedd siaradwyr Cymraeg 50 oed a throsodd, ac yn eu mysg nhw mae’r canrannau isaf.