Abertawe yw ail ddinas fwyaf Cymru, a dyma hefyd yr ail sir fwyaf poblog ar ôl Caerdydd.
Roedd ychydig o dan 26,000 o bobl yn gallu siarad Cymraeg yn ôl Cyfrifiad 2021, gan ffurfio 11.2 y cant o’i phoblogaeth tua 232,000 o drigolion 3 oed a throsodd.
Fel yn y ddwy sir sy’n ffinio â hi, mae wedi gweld lleihad graddol yn niferoedd a chanrannau ei siaradwyr Cymraeg dros y degawdau diwethaf, er mai ychydig iawn fu’r newid yma mewn gwirionedd rhwng 2011 a 2021.
Yn ogystal â’r ddinas ei hun, mae’r sir yn cynnwys ardal wledig Penrhyn Gwyr, trefi a phentrefi lled-ddiwydiannol Gorseinon, Tre-gwyr a Pontarddulais i’r gorllewin iddi a rhannau o waelodion Cwm Tawe.
Er bod dinas Abertawe wedi bod yn ddinas llawer Cymreiciach na Chaerdydd, gellir tybio iddi fod yn gymysg o ran iaith drwy gydol y bedwaredd ganrif ar bymtheg yn ystod ei datblygiad fel porthladd. Rhaid cofio hefyd fod Penrhyn Gwyr, fel Bro Morgannwg a de Sir Benfro wedi bod yn bennaf Saesneg ei iaith am ganrifoedd.
Tua thraean o boblogaeth y ddinas a oedd yn gallu siarad Cymraeg erbyn troad yr ugeinfed ganrif, er y gellir amcangyfrif bod yr holl ardal sy’n cyfateb yn fras i’r sir bresennol â chanran o tua 46 y cant yn siarad yr iaith yn ôl Cyfrifiad 1901. Roedd hyn oherwydd mwyafrifoedd llethol Cymraeg yn yr ardal a ddaeth i gael ei hadnabod yn ddiweddarach fel Dosbarth Trefol Llwchwr ac yng ngwaelod Cwm Tawe. Gan fod ardal Dosbarth Gwledig Gŵyr yn cynnwys pentrefi Cymraeg fel Penclawdd, roedd lleiafrif gweddol sylweddol o 35 y cant yn siarad Cymraeg yn yr ardal hon hefyd.
Fel yng ngweddill Morgannwg, cynyddodd y boblogaeth yn sylweddol yn negawd cyntaf yr ugeinfed ganrif, o tua 129,000 yn 1901 i tua 164,000 yn 1911. Gostyngodd y ganran a oedd yn gallu siarad Cymraeg i tua 41 y cant o’r boblogaeth – a oedd, mewn gwirionedd, yn ostyngiad pur fach o gymharu ag ardaloedd eraill ym Morgannwg ar y pryd.
Roedd y ganran a allai siarad Cymraeg yn y Fwrdeistref Sirol wedi gostwng i 27 y cant, a’r ffigurau fesul oedran yn awgrymu bod dirywiad ar droed. Llai na 20 y cant o blant dan 10 oed a allai siarad yr iaith, o gymharu â mwy na thraean o bobl 45-64 oed a 44.1 y cant o bobl dros 65. Eto i gyd, mae’r ffigurau’n awgrymu sefyllfa ieithyddol fwy sefydlog na’r hyn oedd mewn llawer rhan o Forgannwg erbyn hynny, lle’r oedd gwahaniaethau llawer mwy yn y gallu i siarad Cymraeg rhwng plant a phobl hŷn. Mae’n debygol iawn y gellid priodoli hyn i amrywiaethau daearyddol o fewn y ddinas, gyda’r Gymraeg yn ffynnu mewn ardaloedd fel Treforys am genedlaethau lawer i ddod.
Wrth neidio ymlaen hanner canrif i Gyfrifiad 1961, a phoblogaeth ardal y sir bresennol wedi codi bellach i 205,783, roedd 50,807 yn gallu siarad Cymraeg, sef mymryn o dan chwarter, 24.3 y cant o’r boblogaeth.
Roedd y gyfran a allai siarad Cymraeg yn y ddinas i lawr i 17.5 y cant, a’r canrannau’n amrywio o lai na 10 y cant mewn rhannau o ganol y ddinas i tua thraean yn Llansamlet a thros 40 y cant yn Nhreforys.
Ar y llaw arall, roedd mwy na hanner trigolion Dosbarth Trefol Llwchwr - sef ardal a oedd yn cynnwys Tre-Gwyr, Gorseinon, Casllwchwr a Pontarddulais - a thri chwarter trigolion gwaelodion Cwm Tawe, yn gallu’r iaith.
O fewn Dosbarth Trefol Llwchwr, roedd canrannau uchel o 70 y cant yn ward Dulais a 82 y cant yn ward Talybont yn ardal Pontarddulais, ond roedd y canrannau’n gostwng i lai na hanner wrth symud i lawr i gyfeiriad Gorseinon a Thregwyr.
Roedd patrwm oed y siaradwyr Cymraeg hefyd yn adlewyrchu’r hyn a ddigwyddodd mewn rhannau pellach i’r dwyrain o Forgannwg mewn degawdau blaenorol. Roedd y ganran o 27.5 y cant a allai siarad Cymraeg ymysg plant o dan 10 yn cyferbynnu â thros 72 y cant o’r holl drigolion dros 45 oed.
Gwerth nodi hefyd y ganran ryfeddol o uchel o 89 y cant a oedd yn gallu siarad Cymru ym mhlwyf Mawr ar gyrion gogleddol y sir. Mae’r newid ieithyddol yn y plwyf gwledig hanesyddol hwn dros yr hanner canrif a mwy diwethaf, yn ddrych o’r hyn sydd wedi digwydd yn y rhan hon o Gymru.
Collwyd dros 10,000 o siaradwyr Cymraeg yn ardal sir Abertawe yn ystod yr 1960au, gyda’r ganran yn disgyn i 18.5 y cant o’r boblogaeth erbyn Cyfrifiad 1971. Erbyn hynny, roedd canran siaradwyr Cymraeg y ddinas i lawr i 12.9 y cant, ac wedi gostwng i 43.0 y cant yn Nosbarth Trefol Llwchwr a 65.7 y cant yng ngwaelodion Cwm Tawe.
Parhau a wnaeth dirywiad y Gymraeg yn y sir dros y ddau ddegawd canlynol. Collwyd bron i 9,000 arall o siaradwyr Cymraeg erbyn Cyfrifiad 1981, gyda’r ganran bellach i lawr i 14.7 y cant o boblogaeth y sir. Er bod y dirywiad wedi arafu erbyn 1991, collwyd 2,300 yn rhagor o siaradwyr Cymraeg, a gostyngodd y ganran i 13.5 y cant.
Bellach, dim ond ym mhlwyf Mawr roedd mwyafrif y trigolion yn gallu siarad Cymraeg, a’r ganran yno i lawr i 51.3 y cant o gymharu â 89 y cant 30 mlynedd ynghynt. Yr unig leoedd eraill â chyfrannau sylweddol yn gallu siarad Cymraeg oedd Pontarddulais (45.0 y cant), Tal-y-bont (48.9 y cant), Trebanos (45.6 y cant) a Clydach (31.8 y cant).
I raddau helaeth, mae’r Gymraeg wedi dal ei thir yma dros y 10 mlynedd ddiwethaf, gyda lleihad o 350 yn unig yn niferoedd ei siaradwyr. Yn wahanol i’r rhan fwyaf o siroedd Cymru, mae nifer y plant 3-15 oed sy’n gallu siarad Cymraeg wedi aros yn weddol debyg ar ychydig dros 8,000, er bod y ganran i lawr y mymryn lleiaf o 24.2 i 23.7 y cant.
Mae hefyd ymysg yr ychydig siroedd i ddangos cynnydd yn nifer y bobl ifanc 16-24 oed sy’n gallu siarad yr iaith, wrth i gynnydd o 500 godi’r ganran o 11.0 i 13.6 y cant.
Gyda chynnydd bach yn y grwpiau oedran o 25 i 49 hefyd, yr unig garfannau sy’n dangos lleihad yw ymysg pobl dros 50 oed, ac yn enwedig pobl dros 65.
Er hyn, mae’r 11.6 y cant o bobl dros 75 sy’n gallu siarad Cymraeg yn dal yn uwch nag ymhlith unrhyw grwp oedran o oedolion dros 25 oed. Ar y llaw arall, mae’n llawer llai na’r hyn oedd yn 2001, gan oedd yn 20.3 y cant.
Fodd bynnag, mae’r gwahaniaeth hwn yn llai nag mewn cyfrifiadau a fu, ac yn arwydd o rywfaint o sefydlogi.
Mae’r gostyngiad o 350 yn nifer siaradwyr Cymraeg y sir dros y 10 mlynedd ddiwethaf yn cymharu â chwymp o tua 2,200 o siaradwyr Cymraeg rhwng 2001 a 2011, ac er y gwelwyd cynnydd bach ymhlith plant a phobl ifanc a allai’r iaith, nid oedd hynny’n ddigon i wrthbwyso’r colledion cymharol sylweddol ym mhob grwp oedran dros 35 oed, yn enwedig ymysg pobl dros 75.
Er y sefydlogi cymharol, parhau i ostwng mae canrannau ardaloedd Cymreiciaf y sir. Llai na thraean – 31.0 y cant – sy’n gallu siarad Cymraeg yn y gymuned Gymreiciaf, sef Mawr, a dim ond chwarter – 25.4 y cant ym Mhontarddulais. Mae’r ddwy gymuned wedi gweld dirywiad mawr dros yr 20 mlynedd ddiwethaf, gyda Mawr yn colli’n agos at draean ei siaradwyr Cymraeg.